



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Erin Richards yn sefyll allan a hynny heb unrhyw ymdrech bron. Dilyn ei thrwyn yn hytrach na dilyn ffasiwn ydy cyfrinach yr eneth o Benarth sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno'r sioe ieuenctid, Mosgito. A dillad yr 80au sy'n hawlio lle yn ei chwpwrdd dillad.
Sut fydda ti'n disgrifio dy steil di?
Sa'i rili yn meddwl amdana i fy hun fel person glam, sa'i ishe sefyll allan fel bod yn catwalk glam. Dwi'n hoffi gwisgo lawr tymed bach a sefyll allan am mod i bach fwy unigryw neu am wisgo rhywbeth y bydda' pobol ddim wedi ei weld o'r blaen. Sai'n hoffi'r byd ffasiwn - y ffordd ma' popeth yn troi drosodd mor gyflym. Dwi'n trio mynd i lefydd ail law neu vintage shops a fetha fel 'na. Dwi'n meddwl fod yr 80au yn dylanwadu lot arna i ar hyn o bryd yn y ffrodd dwi eisiau sefyll allan.
Ai hoffi dillad ail law am eu bod nhw'n unigryw wyt ti neu ydi o'n fwy i'w wneud hefo egwyddorion?
'Chydig bach o'r ddau dwi'n meddwl. Hefo'r amgylchedd dwi'n meddwl ei fod o'n well prynu pethau sydd yn 30, 40 mlwydd oed sy'n golygu fod petha' ddim wedi eu creu jyst er mwyn eu twlu, dwi'n prynu pethau sy'n mynd i bara.
Eglura i mi beth fydda ti'n wisgo bob dydd?
Dwi fel arfer yn gwisgo check shirts hefo rhywbeth fel crys-t gyda jîns allan yn y dydd neu i gig yn y nos oherwydd ei fod o'n hawdd i'w wisgo.
Rywbeth oedd fwy ffasiynol dros yr haf cynnar oedd y steil morwrol fel y top yma, a dwi'n gwisgo hwn hefo trowsus coch.
Dwi'n gwisgo hwn lot yn yr haf oherwydd ei fod o'n denau ac yn ysgafn a dwi'n meddwl ei fod o mor brydferth ac yn eitha' anarferol hefyd. Ges i hwn o siop ail law yn Ffrainc. Dwi'n ffeindio pethau anhygoel mewn siopau ail law dramor - pethau fydda ti byth yn ffeindio fan hyn.
O le ddaeth dy ddiddordeb di mewn dillad a ffasiwn?
Nath o ddechrau pan nes i ffeindio allan pwy o'n i fel person. Pan 'da chi yn yr ysgol, dwi ddim yn meddwl 'ych bod chi'n gwybod pwy ydych chi, pwy 'da chi'n hoffi achos fod shwt gymaint o bethau yn mynd ymlaen. Pan 15, 16, 17 oed, ti jyst mewn mess! Ar ôl gorffen Lefel A es i deithio, a sa'i ishe dweud mod i wedi 'ffeindio fy hun', ond nes i ddysgu lot am bwy o'n i a beth o'n i'n hoffi a hefyd ges i fwy o hyder ynof fi fy hun, a mwy o hyder yn beth o'n i'n hoffi.
Dwi'n meddwl fod yna grefft mewn rhoi pethau at ei gilydd, sut fydda ti'n gwisgo'r ffrog hon?
Dwi'n gwisgo hon hefo fest top melyn a leopard print tights, ond ma' nhw'n fwy llwyd na leopard print go iawn, a belt glöyn byw - dwi'n gwisgo'r belt yma hefo popeth!
Pa fath o bethau sydd wedi dylanwadu ar dy steil di?
Dwi'n mynd i lot o gigs a festivals a mynd allan lot hefo'n ffrindiau i o'r Coleg yn Sheffield. Ma' 'na ryw deimlad hippie a ma' cerddoriaeth electroneg yn eitha' ffasiynol yn Sheffield, felly dwi'n meddwl fod 'na lot o ddylanwad arna'i o fanno i wisgo'n crazy!
Mae'r 80au yn ddylanwad cryf ar dy gwpwrdd di, mae'r ffrog yma'n amlwg o'r cyfnod yna!
Nes i dorri fo yn anffodus mewn ryw festival, felly mi fydd yn rhaid i mi gael hwnna wedi ei wneud. Ma' gen i le hyfryd yng Nghaerdydd lle ma' na hen fenyw yn rhoi touches bach a helpu fi i drwsio dillad a stwff fel yna.
Ma'r ffrog yma'n anhygoel, faswn i byth yn gallu gwisgo un fel hyn!
Dwi'n cael lot o'n ffrogia' wedi newid a hefyd dwi'n eu newid nhw fy hun. Hefo'r ffrog yma er enghraifft, nes i weld hwn a jyst meddwl, ma'n rhaid i mi gael e. £20 oedd e! Mi faswn i'n gwisgo hon i festival neu i Lundain, 'wbath rili sbesial a gneud y ngwallt yn massive fel ei fod o'n eitha' amlwg mod i'n cael hwyl a mod i ddim yn serious. Mi fyddai'n neud o'n mini skirt drwy ei heicio fo lan a rhoi belt rownd y canol.
Ma' lot o bobl yn meddwl am yr 80au fel cyfnod ofnadwy o ran ffasiwn, be sy'n dy ddenu di at ddillad y cyfnod?
Ar ôl i gyfnod ddigwydd, fel nawr da ni'n edrych ar y 90au a meddwl, beth oeddan ni'n wisgo? Dwi ddim hyd yn oed yn gallu gweld be all ddod o'r 90au a be oedd steil y 90au! Ond dwi'n meddwl fod hynna'n digwydd bob ryw ddeng mlynedd. Pob tro da ni'n edrych yn ôl, er enghraifft, y 70au, roedd 'na ddigon o amser wedi bod yn y 90au i bobl edrych yn ôl a gwisgo'r 70au oherwydd fod y 80au yn y canol a pawb yn dweud - ych, be ddigwyddodd yn yr 80au? Ond nawr, 'da ni wedi mynd yn ddigon pell o'r 80au i fynd, waw!
Ma'r ffrog 'rara' yma'n edrych fel steil yr 80au hefyd.
Dwi jyst yn meddwl fod y ffordd ma' popeth o'r 80au yn clashio a'r gwallt mawr yn cŵl. Dwi'n meddwl hefyd ei fod o'n era rili cŵl i fenywod. Dwi newydd brynu'r ffrog yma. Yn Autum/Winter 2008, ma' 'na lot o ddu a dwi'n licio'r patrwm pinc o dan y ffril. Falla y gwnâi brynu netting i roi o dan y ffril i fflwffio fo allan ychydig. Ond mae'r ffrog yma'n hyfryd ac roedd hi'n hanner pris hefyd - felly bargen!
Pam dy fod di'n dewis gwisgo dillad mor wahanol?
Dwi ishe bod yn gryf ag yn wahanol fel menyw. Dwi ddim ishe bechgyn feddwl mod i'n edrych yn neis, mi fydda'n well gen i ferched feddwl mod i'n edrych yn neis. Dwi'n rili licio fe os yw merch yn dod lan ag yn deud, "dwi rili yn licio ffrog ti, o le ces di e?" Dwi'n meddwl ei fod e'n siawns i bobl sydd yn debyg ddod at ei gilydd i siarad. Os oedd merch o'n i ddim yn nabod yn dod fyny ata'i a holi lle ces i'n ffrog, a dwi'n gallu dweud mod i wedi ei brynu yn Oxfam, neu beth bynnag, ma' hynny'n rhoi siawns i bobl siarad am be' ma' nhw'n licio a ffasiwn fel yna. Dwi jyst yn meddwl ei fod o'n rywbeth neis.
Wyt ti'n meddwl y bydd dy steil di'n newid o gwbl?
Ar ôl dechra' Mosgito dwi wedi dechra' cymryd lot mwy o ddiddordeb mewn ffasiwn, fel ffasiwn o'r runways a'r catwalk, colur a petha fel 'na. Dwi'n meddwl mod i wedi gwario lot mwy o arian ar ddillad yn y flwyddyn ddiwetha' 'ma' oherwydd pan o'n i yn y Brifysgol doedd dim arian 'da fi. Ma' gen i ddigon o lefydd dwi'n gwybod mod i'n hoffi siopa, felly mae o fel ei fod o i gyd wedi dod at ei gilydd yn y flwyddyn ddiwetha' 'ma a dwi'n hapus hefo beth dwi'n berchen arno.
- CWPWRDD DILLAD