



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Lleucu: Yr unig beth oedd ar ein meddwl ni oedd cael parti! Wel o’n ni’n gwbod shwd oedd trefnu parti!
Esyllt : Naethon ni briodi mewn llefydd gwahanol - nes i briodi yn y capel yn Nhalgarreg a nath Lleucu briodi yn y Swyddfa Gofrestru yn Aberystwyth. Naethon ni gael y parti yn yr un lle - mewn marquee tu ôl i’r pub yn Nhalgarreg - odd y pentref heb weld dim byd tebyg o’r blaen!
O’n i ishe ffrog odd yn wahanol. O’n i wedi bod yn edrych mewn siopau fel Monsoon neu Coast ond oeddwn i’n poeni os o’n i’n cael rhywbeth o fynna y bydde rhywun yn troi lan yn yr un ffrog! Felly es i mewn i Flannels yng Nghaerdydd, a nath y fenyw yn y siop ofyn os o’n i’n edrych am unrhyw beth yn benodol a nes i weud mod i’n priodi a bo’ fi’n chwilio am ffrog haf, neis mewn lliw golau.
Nath hi ddangos y ffrog Prada oedd newydd ddod i mewn y diwrnod hwnnw a nes i drial e mlân ac fel arfer dwi’n maint 12, ond odd e’n rhy fawr. Pam dries i’r maint 10, odd e’n ffitio’n berffaith ac odd hwnna hefyd yn incentive, pan odd rhywbeth maint 10 yn ffito! Dim ond un chwaer sy’ gyda fi, so o’n i moyn i Lleucu ddod i weld e a fi wastad di trysto chwaeth Lleucu!
Lleucu: Pan nes i weld e o’n i’n feichiog ac o’n i’n twmlo fel morfil. Oeddet ti’n edrych mor bert, fel rhyw dylwythen hyfryd yn y ffrog wen stunning ac o’n i hanner yn falch a hanner yn hollol eiddigeddus. Odd e’n ffrog allech chi weld ar y catwalk, ond hefyd odd yna elfen werinol, neis yn perthyn iddi.
Odd popeth ‘di gweithio’n hyfryd achos odd nhw ‘di priodi yng nghapel Bwlch y Fadfa y capel oedden ni’n mynd iddo pan oedden ni’n fach! Odd y lle’n orlawn o Wyddelod a Chymry a phawb wedi gwisgo’n neis.
Be’ odd yn hyfryd wedyn oedd, wrth i ni adael y capel, odd ‘na rhyw filltir a hanner i’w gerdded i lawr at y pentre’ felly odd rhaid cael cerbyd i chi. ‘Na beth o’ch chi ddim yn disgwyl, oedden nhw ‘di trefnu tractor mawr a threlar - a odd yna gadeiriau ar y trelar a fairy bunting draig goch ac ymbarél draig goch achos odd e’n bwrw glaw. O’n ni’n meddwl ‘does neb erioed wedi gwisgo ffrog Prada a chael reid ar gefn tractor - dyna steil’!
Esyllt: Odd priodas Lleucu dim ond jyst ‘di dod at ei gilydd!
Lleucu: Nes i brynu fy ffrog rhyw bythefnos cyn y briodas, a dim ond diwrnod gadawes i’n hunan i siopa. O’n i methu gweld fy hunan mewn ffrog hir wen o gwbl, a nes i drial arno gyment o ffrogiau o fore gwyn tan ddiwedd prynhawn ond dodd dim byd yn gweddu. Wedyn nes i ddechrau sylweddoli bo’ fi ‘di gadael hwn bach yn hwyr – ‘be fi’n mynd i neud?’. Tuag at ddiwedd y dydd, fe aethon ni i siop o’r enw ‘Frock-Brokers’ yn Covent Garden, sydd efallai dal ‘na. Chi’n gorfod gwasgu’r gloch i gael mynd mewn, a mynd lan y staer. Odd e fel y siop i bob un merch yn y byd!
A dyma ni’n chwilio, chwilio, trio pethe’ arno a dim byd yn siwto tan i fi weld y sgidiau ma'. Nes i drio nhw ‘mlaen ac o’n i byth ishe’u cymryd bant! O’n i’n meddwl - dyma’r sgidiau - sdim ots be’ fi’n gwisgo, nai wisgo jîns, just bo’ fi’n cael yr esgidiau ‘ma! Wedyn fe ddaeth yr assistant allan gyda ffrog oedd yn gweddu’r esgidiau...
Esyllt: Fi just yn cofio gweld Lleucu yn dod mas ac o ti’n edrych mor bert gyda’r clips blodau yn ei gwallt. Odd dim bouquet, odd Lleucu heb drefnu bouquet - dyna pa mor anffurfiol oedd y briodas. Ond odd Mam ‘di bod i’r ardd i bigo blodau gwyllt, ac o’n nhw’n gweddu’n berffaith. Odd y briodas ym mis Gorffennaf, a blodau piws a melyn allan oedd yn gweddu’n berffaith gyda’r ffrog.
Ydach chi’n sentimental am eich ffrogiau rŵan?
Lleucu: Wel sai’n gwbod os dwi’n sentimental am y ffrog – achos does dim ots gen i am bethe, ma’ atgofion yn llawer mwy pwysig.
Esyllt: Diwedd noson y briodas o’n i ddim ishe tynnu’r ffrog i ffwrdd, oeddwn i’n meddwl ‘chai ddim siawns i wishgo hwn am sbel ac achos bod e’n Prada, sai’n gweld fi’n berchen ar unrhyw beth mor ddrud na dim byd mor bert â ‘na eto’.
Lleucu: Odd hi’n ffrog neis ac wy di mwynhau ei gwisgo hi ers ‘ny hefyd, so fi’n credu cyn belled a bo’ fi’n gallu sgwisho fy hun i mewn i’r ffrog fe fyddai’n cario 'mlaen i’w gwisgo a falle allai ei phasio 'mlaen i fy nith, neu os fydda i byth yn cael merch fy hun.
- Bob nos Fercher 20:25