



CWPWRDD DILLAD: Click here for more images
Mae Euros Wyn yn ddyn sy'n dwli ar ddillad Fred Perry.
Ers i Fred Perry gyflwyno ei grysau gwyn a bandiau chwys i chwaraewyr Wimbledon yn y 1950au, mae'r brand wedi cael ei fabwysiadu gan enwogion a phrif symudiadau y sîn ieuenctid yn yr oes fodern. O JFK a'r Jam, i'r Mods, skinheads a Brit Pop, mae'r logo enwog yn parhau i ddal ei dir ar y stryd fawr.
Dweud ychydig wrtha' i am hanes dillad Fred Perry...
Be ma' nhw'n wneud ar y funud ydy edrych yn ôl ar le mae'r brand wedi bod dros y blynyddoedd ac yn edrych ar bwy ddylanwadodd ar y brand a phwy sydd wedi cael eu dylanwadu gan y brand hefyd. Be sy'n ddiddorol hefyd ydy bod Andy Murray rŵan yn gwisgo Fred Perry ei hun. Mae o wedi dod 'full circle' mewn ffordd.
Be ydy apêl brand Fred Perry i ti?
Yn bersonol, yr ochr Mod sy'n apelio fwya' ata' i dwi'n meddwl. Y toriad glân a thaclus, y coleri bychan, y silhouette sydd 'chydig bach yn gul - dyna'r apêl fwya' dwi'n meddwl, a dyna pam dwi wedi prynu ambell i ddarn dros y blynyddoedd.
Faint o ddillad Fred Perry sydd gen ti yn dy gwpwrdd dillad?
Ma gen i ryw bedwar neu bump o ddarna' Fred Perry. Crys du hefo ribyn coch a gwyn brynish i gynta' ryw bymtheg mlynedd yn ôl. Ma'r du wedi pylu dros y blynyddoedd, a dwi'n meddwl fod hynny rhywbeth i wneud hefo'r ffaith mod i heb ddefnyddio'r powdr golchi iawn falla! Ond mae'r du yn edrych yn fwy fel charcoal rwan, a dwi'n eitha' licio hynna. Ma'r golar yn edrych fel tasa fo wedi gwisgo lot, a dwi'n licio hynna hefyd.
Mae gen ti gardigans Fred Perry hefyd yn does?
Dwi'n hoffi'r cardigans oherwydd eu bod nhw'n dod lawr yn isel - sy'n fy atgoffa fi o steil y 70au. Ti'n gallu gwisgo'r crys polo o dan y gardigan a ti'n gweld y crys i gyd. Ma hynna'n ran o'r steil achos tisho gweld y crys - gweld y goler a'r botyma. Felly mi fydda i'n gwisgo'r crys piws a'r crys du o dan y gardigan yma a ma' hynny'n gweithio'n eitha' neis.
Be wyt ti'n feddwl sy'n benna gyfrifol am lwyddiant y brand?
Ma nhw wedi marchnata eu hunain yn dda iawn, ond mae'r llwyddiant yn ymwneud a lle aeth o yn y 50au. Mi nath y Mods gymryd o at eu calonnau ac mi fuon nhw'n defnyddio'r crysa polo cyn gofyn am 'chydig bach mwy o liwia gwahanol oedd apelio atyn nhw. Wedyn ar ôl y Mods, fe ddaeth post punk scene yr 80au a'r holl fandiau oedd yn ymwneud ag o. Ma'n apêl oesol sydd wedi ymestyn dros ddegawdau. Ma nhw rŵan wedi mynd at Paul Weller i ofyn iddo fo gynllunio ei grys ei hun a ma nhw wedi bod yn gweithio'n ddiweddar hefo'r cynllunydd enwog, o wlad Belg, Raf Simons. Ma' brand Raf Simons hefyd mewn ffordd yn cyweddu hefo brand Fred Perry i ryw radda'.
Yn wreiddiol roedd y brand wedi meddwl defnyddio cetyn yn hytrach na dail fel logo. Wyt ti'n meddwl y byddai wedi bod mor llwyddiannus petai nhw wedi dewis y cetyn?
Fedra i ddim gweld Andy Murray yn 'pranshio' o gwmpas ar gwrt tennis hefo cetyn ar 'i frest chwith ryw ffordd! Ma' 'na elfen Roegaidd iawn am y dail ar y logo. Y peth pwysig ydy, y munud ti'n gweld y dail dy fod di'n gwybod yn syth pa frand wyt ti'n delio ag o, a dyna gryfder logo Fred Perry.
- CWPWRDD DILLAD