Cwpwrdd Dillad: Ffion Jones
ffion jones
ffion jones
ffion jones
ffion jones

Ar ôl cyfnod o fyw yn Ffrainc yn hyfforddi sgio ac eirafyrddio, ma' Ffion Jones wedi dod adre i Rhuthun i agor siop dillad byrddio. Tybed sut mae hyn yn dylanwadu ar ei chwpwrdd dillad hi ei hun?

ffion jones

Nia: Ydi bod yn trendi yn bwysig i ti?

Ffion: Dwi'm yn gwybod am fod yn trendi ond dwi'n licio bod yn wahanol i bawb arall a dyna pam dwi 'di agor siop rili, gan 'mod i'n gallu dewis dillad i fi fy hun fel fy mod yn gallu bod yn wahanol. Pan dwi'n mynd i ordro dillad i'r siop, dwi'n ordro un peth i fi fy hun na fydda i ddim yn gwerthu yn y siop felly fydd 'na neb efo fo!

Nia: Ydi hi'n bwysig i ti fod yn unigryw?

Ffion: Ddim yn rili pwysig faswn i'm yn deud, jyst dyna'r ffordd dwi wedi cael fy nwyn i fyny dwi'n meddwl a dwi jyst yn mwynhau gwisgo dillad gwahanol i bobl eraill. Nai fyth fynd i siopau'r stryd fawr, nai ddim mynd fewn iddyn nhw, dwi'n ei casau nhw gymaint! So, ma'r rhan fwyaf o'm ffrindiau i'n casau siopa hefo fi. Ar y funud, nai mond mynd i Camden Market, ffantastig yn Llundain, Afflecks Palace yn Manceinion neu'r Corner Exchange yn Leeds a dyna'r unig dri lle nai fynd i siopa ar y funud. Ma' pobl yn dweud wrtha i, dwi'n licio dy ddillad di, lle ti'n eu cael nhw ond dwi'm yn dweud wrth neb!

Nia: Dwi erioed wedi cyfarfod neb sydd efo cwpwrdd dillad yn eu cegin nhw! Esbonia hyn i mi!

Ffion: Wel, ma genai ormod o ddillad i ddweud y gwir a sgenai ddim lle i'w rhoi nhw, felly ma' rhaid i mi gadw 'chydig ohonynt yn y gegin!

*

Nia: Beth wyt ti'n gadw yn y cwpwrdd dillad yn y gegin?

Ffion: Mae'n llawn cotiau. Ma' genai got 'vintage', ges i hi gan Nain, dwi'n siwr ei bod hi tua 50 oed, dyna'r ffefryn. Ma' gan yr arall yma siâp dipyn bach yn anarferol. Ges i hon o'r 'Clothes Show' flwyddyn dwetha' yn yr adran 'vintage'. Steil Siapaneaidd sydd iddi. Dwi 'di ei gwisgo hi lot a dwi wrth fy modd efo'i siâp hi.


ffion jones

Nia: Beth am gwpwrdd Dillad rhif 2? Beth sy' gen ti yn yr un yma?

Ffion: Yn y top, ma' dillad fy nghariad i yma, bechod dyna'r unig le sy' iddo gadw'i ddillad a dwi 'di bachu'r drôr waelod a ma' rhain yn ddillad dwi'n galw'n ddillad jyst rhag ofn. Jyst rhag ofn gai blant un diwrnod a bydd plant isho benthyg fy nillad i fel dwi'n ei wneud gyda Mam - ma' Mam efo atig yn llawn o ddillad a ma' nhw'n 'vintage' a ffantastig felly dyna pam ma' genai'r drôr rhag ofn! Ma genai ddroriau i gadw dillad dwi byth 'di gwisgo hefyd!



ffion jones

Ffion: Tisho clywed cyfrinach fach? Ma' gwyrdd mewn ffasiwn flwyddyn nesa'. Mae o flwyddyn yma hefyd ond mi fydd o fwy fyth flwyddyn nesa felly dwi 'di prynu lot o bethau gwyrdd! Dwi'n gwybod beth sy' mewn ffasiwn flwyddyn ar ôl hynny hefyd ond nai ddim rhannu hynny eto!

ffion jones

Nia: Dwi'n sylwi bod lot o'r dillad yma'n reit brysur, ma' 'na lot o batrymau a sgwennu arnynt. Mae hynny'n rywbeth ti'n ei licio ac yn mynd amdano'n amlwg?

Ffion: Ydi mae o. Ma' nhw mor wahanol, newch chi fyth weld rhywun arall yn gwisgo'r sgertiau yma. Ma' nhw'n eitemau unigryw a dyna dwi'n ei licio amdanyn nhw.

ffion jones

Nia: Beth am y top sbarcli glas?

Ffion: Ma hi'n rili retro a mi ges i hon o Leeds mewn siop fach. 'One-off' oedd hi a mi ges hi yn y 'Bargain Bin' a dim ond £10 oedd hi! Ffantastig, o'n i wrth fy modd!

Ffion ar ddillad...
Ma' nillad i'n rhan reit fawr o'm mywyd i a ma' nhw'n dangos fy mhersenoliaeth dwi'n meddwl gan eu bod nhw'n reit brysur a lliwgar a dyna'r math o hogan ydw i dwi'n meddwl!

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25