



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Ti naill ai’n licio fo neu dwyt ti ddim. Does ‘na ddim canol ffordd. O’n i’n licio hi o’r dechrau, ac yn gwybod mai hon oedd y ffrog i fi! O’n i’n mynd heibio Wedding Belles yn Llanfairpwll. Weles i’r ffrog hefo’r ddraig ac o’n i’n meddwl ‘waw’. Nes i stopio, sbïo a phenderfynu mai hon oedd y ffrog i fi.
Felly ti’n berson fel’na - ti’n gwybod dy feddwl, be’ wyt ti isho?
Dwi’n berson ystyfnig ofnadwy - ydw!
Felly sa’ dim ots be’ sa’ neb ‘di ddeud - honna oedd y ffrog oddat ti isho!
A honna ges i - a dwi'm yn difaru dim!
Be wnaeth i ti benderfynu cael ffrog hefo’r ddraig goch arni?
Wel, odd Michael ‘di deud os ‘sa fo’n priodi o gwbl sa' fo’n gwisgo cilt - ag o’n i’n meddwl hold on, roedd yn rhaid i mi gael rhywbeth oedd yn sefyll allan hefyd! Wedyn, pan nes i weld y ffrog gyda’r ddraig, o’n i’n meddwl ei bod hi’n berffaith achos fod ‘i gilt o’n gilt Cymreig hefyd ac am y deg mlynedd odda’n ni’n mynd hefo’n gilydd oedd o’n mynd a’i ddraig goch i bob man ac aeth o’n dipyn o jôc hefyd.
Un peth amdani yw ei bod mor blaen ar y tu blaen fysa ti byth yn meddwl fod ‘na unrhyw beth ar ei chefn. Ac wedyn mae’n rhoi ychydig o waw-ffactor pryd ti’n pasio a ma gen ti ddraig goch yn sticio allan o dy ben-ôl di! Odd y rhan fwyaf o fy ffrindiau’n gwybod ac yn meddwl mai ond y nhw oedd yn gwybod - ac ar ddiwrnod y briodas oddan nhw i gyd yn deud fod nhw’n gwybod a phawb arall yn deud eu bod nhw’n gwybod hefyd! Fedrai’m cadw cyfrinachau o gwbl!
O’n i’n nyrfys ofnadwy a’r cwbl o’n i’n glywad wrth gerdded oedd (sŵn ochneidio). Ond odd o’n neis, neis ofnadwy! Pan nes i gyrraedd Michael odd o’n rhy nyrfys i droi rownd ata i ac o’n i isio iddo fo sbïo ar gefn y ffrog. Pan aethon ni i arwyddo’r gofrestr, nath o weld hi a nath o regi!
Be’ mae dy ffrog di yn ei olygu i chdi rŵan?
Mae’r ffrog yn un lyfli - dwi’n difaru dim - dwi’n meddwl y dylsa hi gael mwy o sylw na be’ ma’ hi’n ei chael yn hytrach na bod mewn bocs yn yr atig a golwg ofnadwy arni. Dwi’n meddwl y dylia hi fynd i ryw amgueddfa yn rhywle i bobl gael ei gweld hi!