



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae'r gantores ac awdures Fflur Dafydd yn ferch sy'n gweld y byd mewn lliw. "Dwi’n mynd drwy gyfnodau lle dwi’n hoff iawn o un lliw yn benodol, falle fod hynny yn cario trwodd wedyn i’r math o ddewisiadau dwi’n wneud o ran fy nillad i. Yn aml iawn fyddai’n gweld themâu a syniadau fel lliwiau gwahanol neu yn gweld pobl fel gwahanol liwiau."
Beth yw hanes y gôt yma?
Efallai fod rhai pobl yn gwybod erbyn hyn fod bach o obsesiwn gen i am y lliw coch! Fe brynais i hon yn America, mewn cyfnod lle o ni’n gwisgo dillad plaen iawn, doeddwn i ddim yn gwisgo llawer o liwiau beiddgar fel hyn, ond roedd rhywbeth yn dweud wrtha’i, “pam nad ydw i’n prynu’r gôt hon?” Fe gafodd hi aros yn y cwpwrdd am ddwy flynedd nes o ni’n teimlo’n barod i’w gwisgo hi. Roedd ‘na bethau rhyfedd yn digwydd wedyn. Fe ffeindiais i ei bod hi’n amlygu ei hun mewn straeon byrion a chaneuon, a bod yna sôn am y gôt goch neu’r lliw coch ynddynt, bron fel ei bod hi’n fy hudo i i’w gwisgo hi!
Beth sydd yn dy ddenu di at y lliw coch yn benodol?
Dwi ddim yn gwybod. Dwi’n credu am ei fod yn liw aml ochrog, yn gallu cael ei weld fel lliw eiconig, cenedlaethol, lliw cariadus ond hefyd mae’n liw peryglus iawn, yn nodweddu perygl neu dy fod di’n heriol. Mae o’r math o liw ti’n methu ei wisgo heb fod pawb yn sylwi dy fod di yn ei wisgo.
Dwi wedi bod ar gwpwl o breswyliadau tramor a gwyliau llenyddol gwahanol ac mae’n neis cael bod mewn dinas ar ben dy hun, gweld ffasiynau gwahanol, a hefyd prynu rhywbeth sy’n dal yr ysbryd o annibyniaeth. Ti’n gwneud dewisiadau heb allu troi rownd a gofyn i rywun ‘be wyt ti’n feddwl o hwn’ - ti’n dilyn dy drywydd dy hun.
O ble ddaeth y ffrog yma?
Fe brynais i’r ffrog hon yn Helsinki. Roedd hi’n ffrog o ni’n ei phasio mewn ffenest siop fach pob dydd, ac fe ges i’n hudo gan ei hedrychiad hi. Ar fy niwrnod ola’ yn Helsinki nes i gerdded mewn i’r siop ac roedd y fenyw ar fin ei thynnu hi oddi ar y ‘mannequin’, fe es i’w thrio ymlaen ac roedd hi’n ffitio’n berffaith. Mae ei siâp hi’n hyfryd ac mae yna rywbeth tylwyth-tegaidd amdani. Dwi’n licio ei chymryd hi allan o’r cwpwrdd ac edrych arni. Dyw’r digwyddiad iawn ddim wedi dod heibio eto i mi gael ei gwisgo hi.
Pam wnes di brynu'r ffrog yma?
Ges i’r ffrog hyfryd yma yn yr Eidal pan oeddwn i mewn gŵyl yno. Roeddwn ni wedi gorfod aros noson yn ychwanegol, ac fe es i grwydro o gwmpas a gweld y ffrog yma. Fe drïais i hi ymlaen a’i phrynu mewn Eidaleg gwael iawn. Doeddwn i ddim wedi meddwl am ddigwyddiad penodol i’w gwisgo hi, ond y diwrnod wedyn, fe ges i alwad ffôn a ffeindio mod i wedi ennill y Fedal Ryddiaith. Yn syth bin roeddwn i’n gwybod mai hon fyddai’r ffrog. Roedd hi’n teimlo’n rywbeth eithaf arbennig, fel bod yr isymwybod wedi rhoi ryw neges i mi i gael y ffrog y noson gynt!
Wrth berfformio, pa argraff wyt ti’n ceisio ei gyfleu?
Doeddwn i ddim yn meddwl dim am hyn pan o ni mewn band ond ers i mi gamu allan ar fy mhen fy hun, dwi wedi dod yn fwy ymwybodol o’r math o bethau dwi eisiau eu gwisgo er mwyn nodweddu’r gerddoriaeth. Mae’n gyfle i gael ychydig o hwyl, i wisgo pethau fel sgerti cwta a bŵts a ffrogiau byrion ar lwyfan. Dwi ddim yn gwisgo ‘mini-skirts’ i unman arall, dim ond ar gyfer y llwyfan. Mae’n neis cael gwisgo dillad gwahanol. Mae’r sgert yma’n syrthio’n ddarnau ond mae rhywbeth amdani sy’n nodweddu bod y gerddoriaeth yn mynd i un cyfeiriad penodol - fod pethau efallai yn llai taclus.
Ydy dy berthynas di gyda dillad yn un ymarferol?
Mae’n rhaid i mi ddweud nad ydy fy nillad i yn rhai ymarferol, ma’ fy newisiadau i wedi eu selio ar beth sy’n dal fy nychymyg i yn hytrach na meddwl yn ymarferol. Fydda i ddim yn meddwl, lle ydw i’n mynd i wisgo'r rhain, ac ar gyfer beth dwi eu hangen?
Beth yw’r hanes tu ôl i’r wisg hon?
Dwi’n darlithio yn yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, a dwi’n meddwl fod hynny yn nodweddu ryw fyd arall sydd yn wahanol iawn i berfformio ar lwyfan a chanu, er dy fod ti dal yn perfformio o ryw fath wrth ddarlithio. Dwi’n meddwl fod y dillad dwi’n wisgo ar gyfer gwaith yn rhoi syniad penodol o beth ddylai darlithydd wisgo. Dillad sydd efallai yn gwneud i mi edrych yn fwy ffurfiol, fel bod pobl yn fy nghymryd i fwy o ddifrif, ac efallai yn gwneud i mi edrych ychydig yn hŷn!
Ydy dy ddelwedd di a’r math o ddillad wyt ti’n eu gwisgo yn mynd i newid?
Mae’n siŵr ei fod o’n mynd i newid, o ran y profiadau dwi’n eu cael a'r pethau dwi’n wneud - y ffordd y mae’r meddwl yn gweithio. Dwi’n meddwl dy fod di wastad yn mynd drwy gyfnodau gwahanol. Ti’n cyrraedd ryw bwynt lle ti’n meddwl - dyma fi nawr, dyma’n hunaniaeth i - ond mae yna wastad rhywbeth sydd yn newid hynny ychydig bach. Ond dwi’n meddwl fod yr esblygiad yna mor ddiddorol, y pethau sy’n gwneud i ni wneud dewisiadau, a sut mae rheiny yn ein cynrychioli ni ar draws amser. Mi fydd hi’n ddiddorol edrych yn y cwpwrdd hwn mewn deng mlynedd.