



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Fflur Edwards yn fyfyrwraig astudiaethau'r theatr sy'n dwli ar ddillad merchetaidd.
Sut fydda' ti'n disgrifio cynnwys dy gwpwrdd dillad di?
Ma'n nghwpwrdd i'n llawn o ffrogia'. Dwi ddim rili yn gwisgo jîns achos fod ffrogia' mor rhwydd. Ma' fe'n un eitem a does dim rhaid ffysian na matshio fo hefo rhywbeth arall - ti'n gallu 'glamo' fe lan gyda gemwaith a sgidia bach neis. Dwi'm yn gwybod os ydio'n ddiflas, ond dwi'n tueddu i sticio hefo pethau bach pert, rhamantus a merchetaidd, a dwi heb fynd at steil arall.
Ma' nhw'n dweud fod dillad yn adlewyrchu dy gymeriad di. Ydy hynny'n wir am dy ddillad di?
Ydy dwi'n credu, achos ma' nghwpwrdd i'n llawn lliw a dwi'n berson eitha' bywiog. Dwi'n credu fod gwisgo lot o liw yn llanw'r dydd a dwi'n gobeithio mod i'n llanw dyddia' pobol eraill.
Ma'r ffrog yma'n un fach ddel, at ba achlysur wnes di brynu hon?
Y ffrog flodeuog yma ydy un o' ngoreuon i achos ma' hi'n gymaint o hwyl. Nes i'w phrynu hi ryw fis yn ôl yn gwbod mod i'n mynd i Twrci hefo'r merched ac ro'n i angen rhywbeth cyfforddus achos ro'n i'n gwybod ei bod hi'n mynd i fod yn rili twym yna. Dwi'n licio'r lastig ar waelod y ffrog achos mae o'n complimentio'n siâp i dwi'n meddwl sy'n eitha' da! Ma' print a'r lliwia'n eitha' ffasiynol ar hyn o bryd, a ma' nhw'n liwia' mor bert. Mi 'nath hi weithio'n rili da. Dwi'n gallu gwisgo hi lawr hefo sandals fflat yn y dydd ac allan i glybio yn y nos.
Wyt ti'n mynd yn sentimental am dy ddillad?
Dwi'n licio cadw popeth, sa' i'n lico twli pethe bant. Ma' 'da fi un cwpwrdd lle ma'r ochor chwith yn llawn dillad dwi ddim yn eu gwisgo, ond dwi jyst yn licio eu cadw nhw. Ma' mam yn mynd yn ddwl unwaith y flwyddyn ac yn gofyn i mi 'neud massive clearout achos ma' popeth jyst yn clogo lan 'da fi, ond dwi'n eitha licio cadw pethe' ac yn meddwl 'falla y daw nhw'n ôl mewn i ffasiwn ryw dro.
Ma'r ffrog yma'n fendigedig, o le ges di hon?
Ges i'r ffrog werdd yma gan nain. Mi 'nath nain ei phrynu hi yn y 40au i fynd i barti oedd ganddi, ond 'nath hi byth ei gwisgo hi. Felly mi 'nath hi eu rhoi hi i fi a dwi'n meddwl ei bod hi mor bert hefo'r llawes ramantus yma'n ffloto lawr. Mi faswn i'n gwisgo hi hefo belt rownd y wast neu hefo sandals gladiators fflat neu hyd yn oed leggings i'w moderneiddio hi.
Ydy dy waith coleg di wedi dylanwadu ar dy ddillad di?
Dwi wedi astudio Dylunio'r Theatr yn Nottingham Trent sy'n bwnc reit greadigol. Dwi'n gallu gweithio hefo gwneud gwisgoedd a gan fod e i'r theatr ma'n rhaid eu pwysleisio nhw a'u gwneud nhw'n rili mawr a dramatig, achos o'r gynulleidfa 'da chi moyn gweld popeth, does 'na ddim pwynt cael detail bach pert o gwbl ar y gwisgoedd sy'n wahanol i be dwi'n wisgo o ddydd i ddydd. Ma' 'na dipyn o wahaniaeth acshyli, achos dwi'n dueddol i fynd am betha' syml a phert sy'n gwbl wahanol i'r theatr.
Ma' hon yn edrych yn theatrig iawn, be ydy hanes hon?
Hon ydy'r ffrog nes i wneud yn ystod fy nghwrs sylfaen yng Nghaerfyrddin a dwi wedi selio'r ffrog ar stori Blodeuwedd. Fe nes i brintio coed ar hyd gwaelod y ffrog ac wedyn ro'n i'n meddwl y bydda hi'n neis cael haen arall arni, felly mi nes i fenthyg gwasgod taid a phrintio coeden ar ei hochr ac adio ychydig bach o ruban.
Dwi wrth fy modd hefo'r sgert binc yma, ond pam fod dy enw di arni?
Prosiect TGAU oedd hon. Roedden ni i gyd i fod i gynllunio a gwneud gwisg, felly nes i benderfynu gwneud twtw bach achos ei fod o'n hwyl. Ro'n i moyn gweithio hefo net, felly ma' 'na gwpwl o layers o net ynddi. Ma' 'na loads o haenau ac roedd hi'n eitha trwchus yn mynd drwy'r peiriant gwnïo, ond mi nes i lwyddo yn y diwedd a ddes i lan gyda honna!
Be am y dyfodol, wyt ti'n gweld dy hun yn datblygu o ran steil?
Yn anffodus dwi ddim rili, dwi wastad yn gweld fy hun yn prynu ffrogia' bach neis. Dwi ddim rili'n edrych ar jîns a throwseri pan dwi'n mynd mewn i siop, felly dwi ddim yn gweld fi'n newid lot rili!
- CWPWRDD DILLAD