Cwpwrdd Dillad: Ffrog Fach Ddu
CWPWRDD DILLAD
Ffrog Fach Ddu
Ffrog Fach Ddu
Ffrog Fach Ddu
Ffrog Fach Ddu

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Ers pedwar ugain mlynedd, mae cynllunwyr mwya'r byd wedi cael eu hysbrydoli gan glasur unigryw chwyldroadol Coco Chanel. O Hepburn i Monroe, daeth y ffrog fach ddu yn eicon o'r ugeinfed ganrif. Erbyn hyn does dim ots be ydy ei phris, ei maint na'i steil hi, mae gan bob dynes gwerth ei halen un.

Eleni, hefo cymorth rhai o sêr mwya' Cymru fe saethwyd calendr elusennol gan Rhian ap Gruffydd yn arbennig i ddathlu cynllun anfarwol 1926.

Dyma ein teyrnged ni i'r ffrog fach ddu.

Ffrog Fach Ddu

Siân Lloyd

Fe brynais i'r ffrog yma ym Mharis. Rwy'n teithio yno ddwywaith y flwyddyn yn ddi-ffael ar gyfer pen blwydd fy chwaer ac amser y Nadolig. Rydym ni wastad yn gwneud yr un peth, rydan ni'n cael pryd ffantastig, yn yfed gormod o siampên, wedyn mae'r ddwy ohona ni'n mynd i siopa. Ar y diwrnod arbennig hwn, fe aethon ni i Dolce and Gabbana, sydd mewn rhanbarth ofnadwy o ddrud o'r ddinas, a phrynu'r ffrog ddu yma. Ar ôl yfed siampên, mae siopa fel bod mewn breuddwyd, mae'n bleserus ac yn brofiad llawen iawn! Rwy'n cael teimlad cynnes yn fy nghalon pan rwy'n rhoi'r ffrog yma ymlaen. Ar ddiwedd y dydd pan fo gennyf rhywbeth mawr ymlaen, byddai'n gwbl segur, yn gwbl saff ac yn teimlo'n grêt wrth fynd gyda'r ffrog ddu.

Ffrog Fach Ddu

Sarra Elgan

Dwi'n credu fod y little black dress yn gallu mynd a chi i unrhyw le, prun a'i mas i gael pryd o fwyd neu i ginio crand, mae e'n mynd a chi i rywle. Does dim ots beth yw ei siâp, mae'n safe bet os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i ddim arall yn eich cwpwrdd dillad.

Ffrog gan Moschino yw hon, ac fe ges i hi ryw flwyddyn yn ôl mewn sêl, felly doedd hi ddim mor ddrud a'r pris llawn. Fe es i edrych i siop yng Nghaerdydd, Flannels, achos o ni'n gwybod mod i moyn ffrog ddu ac roedd hi yna yn dweud; "Sarra, pryna fi!', felly, fe ddywedais i "OK!' a'i phrynu!

Mae hi'n eithaf tynn ond mae hyd neis iddi, felly dydw i ddim yn credu ei bod hi'n 'tarty'! Dydw i ddim yn credu bod eisiau lot o fanylion ar ffrog ddu, oherwydd ei bod hi'n siâp glasurol. Mae hon yn syml gyda 'bow' bach syml, melfed arno. Tydw i ddim yn siŵr os bydd hi'n ffitio am byth, ond dwi'n mynd i gadw hi am byth. Fyddai byth yn taflu hon.

Ffrog Fach Ddu

Valerie Wynne-Williams

Pan ydych chi'n cyrraedd fy oed i, yna mae ganddo chi nifer fawr iawn o ffrogiau bach du. Ond, mae gen i bedair arbennig. Yr un dwi'n gwisgo fwyaf yw'r un gyda phais fach goch yn dangos o danddi achos ma' hi'n un fedrwch chi wisgo hefo bŵts, fedrwch chi i gwisgo hi i fyny neu ei gwisgo hi lawr, ma' hi bob amser yn edrych yn smart. Mae ganddi ychydig o stitching arbennig rownd y gwddf yn rhoi ychydig o goch iddi ac mae ganddi fotymau coch. Roedd Gina Fratini, cynllunydd y ffrog, yn enwog am roi manylion i wneud y dillad yn fwy feminine. Wrth gerdded, mae hi'n llifo hefo chi ac mae'r gwynt yn ei dal hi weithiau a'r bais fach goch yn dangos

Beth yw hanes y ffrog ddu yma?

Ffrog Fach Ddu

Roedd yna siop o'r enw 'Hobbies' yng Nghaerdydd, siop dda dros ben, a dwi'n cofio gwneud ychydig o bres a mynd i brynu'r ffrog ddu yma. Mae hon yn fyr, tipyn bach o mini. Dwi'n gwisgo hon o hyd, ond erbyn hyn dwi'n gwisgo trowsus oddi tani gan ei bod hi'n reit fyr. Mae gen i glustdlysau gan Yves Saint Laurent ac mae'r rheiny yn edrych yn dda iawn hefo'r ffrog, does dim angen gwisgo dim arall.

Mae'r ffrog ddiweddaraf i mi brynu yn edrych fel un o gyfnod y 1920au, mwy o flapper. Mae yna fanylion reit ddiddorol ynddi hefyd, mae'r gwddf yn sgwâr ac mae pleats ar hyd y ffrynt. Mae'r sash wedyn yn clymu o amgylch y canol gyda bow mawr ar yr ochr. Mae hi'n ffrog neis iawn i gerdded ynddi, achos mae hi'n symud yn dda iawn hefo chi.

Mae gen i un ffrog gan Mary Quant, mae'n syml dros ben ond eto, mae'r manylion yn bwysig. Mae ganddi ffril rownd y gwddf ac mae'r cefn yn mynd lawr yn isel.

Wnaethoch chi dorri'ch gwallt yr un steil?

Ffrog Fach Ddu

Do. Roeddwn i'n mynd at Vidal Sassoon ei hun yn Bond Street. Rwy'n cofio un achlysur, roedd yna barti mawr yn y Faenol gan Sir Michael Duff ar nos calan, ac roeddwn i wedi gwisgo fy ffrog ddu Mary Quant. Roeddwn ni'n dod lawr y grisiau, grisiau bendigedig yn y Faenol, ac ar waelod y grisiau dyma un o'r dynion yn dod ata' i ac yn rhoi cusan i mi, roedd hi'n nos calan wrth gwrs, ond, dyma'i wraig o yn 'stormio' allan am fod ei gŵr hi wedi rhoi cusan i mi! Mae hynny yn rhywbeth i gofio am y ffrog!

Ffrog Fach Ddu

Shân Cothi

Tydi'r ffrog yma ddim yn hen iawn, ryw flwyddyn oed, ac fe gafodd hi ei gwneud yn arbennig ar gyfer achlysur gan Brian Mallam. Mae e'n gwneud lot o ffrogiau ar gyfer canu, achos pan ydych chi ar lwyfan mae angen ffrog tamed bach fwy stagey i berfformio. Ond mae'r ffrog yma tamed bach fwy subtle, yn fwy cynnil na rhai o'r pethau dwi'n ei gwisgo. Rwy'n credu y cafodd y ffrog ei hysbrydoli gan hen gynllun vintage Dior a dwi'n hoffi ysbrydoliaeth o'r 50au, syml a gweddol blaen, ond hefo llwyth o ddefnydd, mae'n neud i mi deimlo'n soffistigedig iawn. Mae rhoi ffrog arno, yn enwedig ffrog ddu, yn gwneud rhywbeth i chi. Mae yna hen ddywediad sy'n deud fod ffrog ddu yn gwneud i chi edrych tamed bach teneuach. Mae'n gwneud i ti deimlo'n soffistigedig iawn.

Ffrog Fach Ddu

Nia Roberts

Fe brynais i'r ffrog yma tua phum mlynedd yn ôl o Efrog Newydd pan oeddwn i'n aros gyda ffrind oedd yn gwneud ffilm yno. Fe es i lawr i Greenwich Village, ac roedd llyfr gen i yn dweud ble oedd yr holl siopau vintage. Fe es i i'r siop yma oedd yn gwerthu lot o bethau designer ail-law, lot o bethau gwahanol. Fe wnes i ffeindio'r ffrog yma ac roedd hi'n fy ffitio i'n berffaith. Roedd y fenyw yn y siop yn dweud fod y ffrog wedi bod yno ers blynyddoedd a doedd hi ddim wedi ffitio neb yn iawn, felly fi gaeth hi yn y diwedd. Fe dalais i ryw $80 amdani, sy'n fargen, achos roedd popeth arall yn y siop yn eithaf drud, ond am ryw reswm roedd hon yn eithaf rhad. Ar hyn o bryd mae hynny tua £50, felly roedd hi'n fargen. Mae'r label wedi cael ei dorri bant felly does dim cliw gen i pwy oedd y cynllunydd. Ond, fe hoffwn i feddwl mai rhywun enwog o'r 50au oedd y cynllunydd. Dwi'n teimlo'n grêt ynddi achos ei bod hi'n fy ffitio mor dda, ac mae'n boned i gyd fan hyn, felly mae fel bod scaffolding ymlaen gen i, dwi'n teimlo mod i'n sefyll yn syth. Os dydw i ddim yn gallu ei gwisgo hi am byth, fe fyddai'n ei chadw hi am byth, jyst er mwyn yr atgofion.

Ffrog Fach Ddu

Angharad Mair

Fe wnes i brynu'r ffrog yma ym mis Mawrth 2001 ac rwy'n cofio'r dyddiad yn iawn achos roeddwn i ym Mharis yn dathlu fy mhen blwydd yn ddeugain oed. Roeddwn i a'n narpar ŵr ar y pryd, newydd fod ar dop y Tŵr Eiffel yn cael pryd hyfryd o fwyd ac fe aethom ni i siop Gucci er mwyn prynu siwt wen i briodi ynddi, ac fe ges i hon. Wrth gwrs, ma' Gucci Paris tipyn rhatach na Gucci Llundain, felly roedd hynny yn apelio hefyd.

Be sy'n hyfryd am y ffrog hon yw ei bod hi mor hawdd i'w gwisgo yn fwy na dim. Tydi hi ddim yn gallu cael ei gwisgo yn yr haf, sy'n ychydig bach o bechod, gan mai ffrog gaeaf ydi hi yn amlwg achos y polo-neck, ond, fe alla i ei gwisgo hi i gyfarfod busnes, neu fe alla i'w gwisgo hi yn y nos. Ambell waith, fe fydda i yn newid y belt er mwyn newid rhywfaint arni. Ond, dwi'n meddwl mai'r peth mwyaf am y ffrog yma yw ydy ei bod hi mor hawdd ei gwisgo, dyna pam dwi mor hoff ohoni. Dyna pam dwi wedi ei gwisgo hi bob gaeaf ers ei phrynu hi!

Mae rhywun yn meddwl am y Dywysoges Diana a'r ffrog fach ddu a'r noson pan roedd hi a'r Tywysog Charles yn cyhoeddi eu bod nhw yn gwahanu er mwyn [yn ei gwisgo hir er mwyn] gwneud 'sbloets' yn y papurau bore wedyn. Ac mae rhywun yn meddwl am bobl fel Audrey Hepburn fel un o'r rhai cyntaf i wneud y ffrog fach ddu mor enwog, ond dwi'n meddwl y bydd y ffrog fach ddu yn parhau am byth.

Heulwen Haf

Beth ydych chi'n feddwl yw apêl y ffrog fach ddu i unrhyw ddynes?

Ffrog Fach Ddu

Mewn gair - steil. Tydi'r un cwpwrdd dillad yn gyflawn heb fod yna ffrog fach ddu, neu ffrog fawr ddu, does dim ots os ydy'r person yn fawr, mond bod y ffrog yn disgyn o'r ysgwyddau, yn llenwi allan ac wedyn clamp o froets, mwclis neu gadwyn, rhywbeth i wneud statement, sgidia da, bag da a ffwrdd a hi.

Mae gen i ffrog Chanel gwreiddiol. Roeddwn i'n un ar hugain ac yn byw yng Nghorwen ac yn ffrindiau gyda chariad oedd yn byw yn y Bala. Roedd yna siop antiques yno ac roeddwn i'n prynnu bits and bobs yn dragwyddol yno, ac fe welais i'r ffrog yma ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi yn ffantastig. Pure Lace, mae'r defnydd jyst yn disgyn am y corff. Mae hi mor syml, ma hi mor gorjys!

Fe dalais i £2.50 yn yr hen arian amdani. Mae yna fymryn o sidan yn mynd o gwmpas y fraich a'r gwddf. O ni'n meddwl mod i yn steil i gyd, ac mae hi dal yn fy ffitio fi rŵan. Mae hi wedi bod ym mhob man, mae hi wedi bod yn Monte Carlo hefo fi ac mae hi wedi cwrdd â Prince Charles y tywysog ei hun, roedd e wedi gwirioni. Roedden ni mewn dathliad ac roedd e'n cerdded lawr y rhes o foneddigion a boneddigesau, doeddwn ni ddim i fod yna, sefyll ar ran rhywun arall oeddwn i. Fe ddaeth yn syth at Elinor a fi, a rhyw 'howdi-dw' ac roeddwn ni'n meddwl, mae hwn yn gorjys. Roedd o'n canolbwyntio yn ofnadwy ac fe ofynnais i "May I write to you?'. Ges i ysgrifennu iddo fe ac fe ysgrifennodd yn ôl i ddweud ei fod wedi mwynhau, a dweud "He was so touched by my presence', dyna ddyn neis.

Sut ydych chi'n teimlo wrth wisgo'r ffrog Chanel?

Yn 'sbeshial', yn werthfawr, yn ferchetaidd, ond yn grand. Mae yna rywbeth noble amdani, yn gwneud i chi sefyll yn steilish rywsut. Mae'n gneud imi deimlo fel rhywun o Chanel, rhywun arbennig - mae'n wych.

Beth yw hanes y ffrog yma?

Ffrog Fach Ddu

Ma hon yn arbennig gen i, eto'n ffitio fel maneg. Mae yna 'rŵshing' bach ar ei hyd hi fel hyn, yn llithro rownd y corff. Dwi'n hoffi pethau sy'n plygu hefo mi, fel gwlân neu rywbeth meddal. Tydw i ddim mor dda mewn dillad structured, efallai fod hynny yn dweud rhywbeth am fy mhersonoliaeth i achos dwi chydig bach yn 'dippy'!

Be i chi sy'n rhywiol mewn ffrog?

Ffrog Fach Ddu

Mae gen i ffrog sydd ychydig bach yn 'Marilyn Monroe'-aidd. Dwi'n cofio llun ohoni mewn ffrog lle'r oedd gwynt yn chwythu oddi tani ac roedd fel ffan, pleats yn y sgert. Wel, mae gen i wisg debyg i honno gyda'r sgert fel ffan a'r bodice bron fel hosan, rydych chi'n gweld trwyddi bron a bod, felly mae'n rhaid gwisgo staes neu body oddi tano.

Dwi'n cofio cael fy ngwahodd allan i swper yn ddiweddar a phan ddoth y gŵr i godi fi wrth y drws dyma fo'n agor y drws a 'ngweld i'n sefyll yn y ffrog ddu a dweud, "dew, dwi'n mynd a'r dair ohona chi allan am swper ydw i?' Wel, fe gafon ni noson dda ar liwt hynny! Ac fe wnaethon ni'n tair fwynhau! Mae yna lot o hwyl i gael, jyst gwisgo rhywbeth a mwynhau.

Ffrog Fach Ddu

Siân Philips

Ffrog Jean Muir yw hi o'r 70au, a dydw i ddim wedi ei gwisgo hi ers y 70au. Rwy'n licio pethau Jean, ond, mae'r ffrog ychydig bach yn rhy hir nawr, felly dwi'n ei gwisgo hi heddiw hefo fy sgidiau a beads newydd o Efrog Newydd. Mewn thrift shop yn yr Hamptons y ces i'r beads am ryw £7. Ac rwy'n gwisgo earrings Andrew Logan sy'n gweithio pob amser gyda pherlau a gwydr wedi torri, maen nhw'n ddiddorol iawn dwi'n meddwl. Roedd Jean Muir yn ffrind i mi, ac fe wisgais i'r ffrog yma ar gyfer arddangosfa ar draws y byd o ddillad Jean. Mae ei dillad hi bob amser yn gneud i mi deimlo'n gyfforddus iawn, does yna ddim straen o gwbl pan ydych chi'n gwisgo dillad Jean.

Ffrog Fach Ddu

Nia Parry

Dyma fy hoff ffrog ddu i. Mae gen i ryw wyth, ond, hon ydy fy hoff un. Fe brynais i hi ryw chwe mlynedd yn ôl i fod yn westai ar raglen deledu. Ges i banics llwyr! O'n i yn siopa yn Llundain drwy'r dydd a thua pump o'r gloch mi feddyliais i fod yn rhaid i mi gael ffrog, felly fe es i mewn i Armani, dydw i byth yn licio mynd mewn i siopa posh, ond wedi ista yno, daeth y dyn neis yma ata'i a dweud mod i yn edrych wedi blino a dweud wrtha'i yn Saesneg, "paid â phoeni cariad, chei did ddim gadael fan'ma heddiw heb i mi ffendio ffrog i chdi'.

Felly, tra oeddwn i yn eistedd fel brenhines, fe ddaeth a llond gwlad o ffrogiau i mi, a hon oedd y gyntaf i mi ei thrio ymlaen. Dwi jyst yn ei licio hi, mae hi'n neis. Dwi'n licio'r defnydd a dwi'n licio'r teimlad ar fy nghoesau i. Dwi'n licio'r ffaith na thydi hi ddim yn dynn yn nunlle! Mi faswn i yn licio mynd i fy ngwely bob nos yn ei gwisgo hi a deffro bob bora yn ei gwisgo hi.

Yn anffodus, achos mod i yn ei licio hi gymaint dwi bron byth yn ei gwisgo hi achos dwi ofn ei rhwygo hi neu'n ofn ei baeddu hi. Ac weithiau, nai jyst i gwisgo hi yn fy ystafell wely, mae o mor drist, a jyst edrych arni am dipyn bach ac wedyn ei thynnu hi a rhoi hi yn ôl yn y cwpwrdd.

Mi faswn ni yn ei ffendio fo mor od taswn ni yn siarad gyda dynes a bod ganddi ddim ffrog fach ddu yn ei chwpwrdd dillad. Mi fasa fo mor rhyfadd achos mae o'n rhywbeth ffyddlon. Pan dwi'n teimlo'n ofnadwy, dwi'n gwisgo hon a dwi'n teimlo'n fyw eto.