Cwpwrdd Dillad: Gabrielle Kelly
Gabrielle Kelly
Gabrielle Kelly
Gabrielle Kelly
Gabrielle Kelly

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Gabrielle Kelly, sy’n wreiddiol o Aberarth, yn berchen ar oriel a bwyty Milgi yng Nghaerdydd.

Gabrielle Kelly

Beth yw dy steil di?

Fi wastad yn cymysgu pethe gyda’i gilydd. Os fi’n ffeindio rhywbeth fi’n licio fi’n prynu fe, ond sdim steil fel pumdegau neu ugeiniau gyda fi – fi’n licio cymryd pethe o bob man a rhoi nhw gyda’i gilydd a gweld be sy’n digwydd.

Gabrielle Kelly

Sut mae hogan o Aberarth wedi dod i rywle fel yma i agor Milgi?

Ges i fy ngeni yn Aberarth ac roeddwn i’n byw yna gyda mam a dad a fy chwaer. Wedyn es i’r brifysgol yn Nottingham i astudio celf a gwnes i fideo celfyddyd gain.

Gabrielle Kelly

Beth wnes di ar ôl gadael y coleg?

Ar ôl graddio, symudodd fi a fy chwaer i mewn gyda’n gilydd ac wedyn fe benderfynais i fynd i Efrog Newydd. Roeddwn i’n gwneud lot o siopa yno, yn mynd rownd y flea markets. Nes i gwrdd â lot o bobl, hangio mas yn y bars a’r cafes a chael amser rili da.

Gabrielle Kelly

Sut mae dy brofiadau di yn Efrog Newydd wedi dylanwadu ar dy fywyd di ers hynny?

Oeddwn i wedi cwrdd ‘da doi o ffrindie oedd yn gwneud yr un peth a ni ac mi roedd ganddyn nhw boutique oedd yn troi yn far a chlwb yn y nos. Oeddwn i’n meddwl fod hynna’n syniad mor syml ac roedd e’n rili gweithio felly roedd fi a’n chwaer jyst wedi dod lan a’r syniad un noswaith pan oedden ni nôl yn Aberarth ac wedyn blwyddyn ar ôl ‘ny roedden ni’n neud e!

Gabrielle Kelly

Wyt ti’n hoffi gwisgo fyny?

Fi yn licio gwisgo lan. Sa i’n gwisgo lan yn extravagant bob dydd, ond pam fi’n codi lan yn y bore, fi yn meddwl am be fi’n gwisgo, mae fe’n dod yn naturiol.

Gabrielle Kelly

Wyt ti’n hyderus efo pwy wyt ti o ran dy steil?

Ydw. Mae fe wedi cymryd amser ond fi’n ffeindio fy hun yn mynd nôl at y pethe oeddwn i’n gwisgo pryd oeddwn i’n iau, ac os fi’n edrych yn ôl, dydi steil fi ddim wedi newid, ond eto dwi wedi mynd drwy steiliau gwahanol i gyrraedd lle'r’ fi nawr.

Gabrielle Kelly

Pa bleser ti’n cael o weld dy ddillad yn hongian ar y wal?

Wel, nes i ffeindio hwnna mewn siop fach yn Aberystwyth, ac roeddwn i’n chwilio am rywbeth i fynd mas. Roeddwn i moyn rhywbeth ‘chydig bach yn wahanol a wnes i jyst ffeindio fe am £4 dwi’n credu..

Gabrielle Kelly

Sgen ti fwy o ddillad Efrog Newydd yma?

Wel, nes i brynu lot o ddillad mas ‘na ond nes i ffeindio’r ffrog binc ‘ma mewn flea market yn yr East Village. Roedd e wedi cael ei stwffio i mewn i fag du a nes i dwmblo i mewn a ffeindio fe. Sa’i ‘rioed wedi gwisgo fe, ond mae e more stunning a pam ti’n rhoi e arnodd, ti jyst yn edrych fel fairytale.

Gabrielle Kelly

Wyt ti’n licio’r syniad o ailgylchu pethau er mwyn yr amgylchedd?

Ie, fi jyst yn prynu pethe sydd yn fwy diddorol na’r pethe chi’n ffeindio yn y siopau dyddie ‘ma rili. Mae popeth yn edrych yr un peth pam ti’n mynd i siop ar y stryd fawr. Os ti’n mynd i mewn i fel boutique bach neu siop ail-law ti’n hefyd yn gallu cael bargen.