Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Gareth Potter
Gareth Potter
Gareth Potter
Gareth Potter
Gareth Potter

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Gareth Potter yn byw yng Nghaerdydd, ac yn gerddor, DJ, actor ac awdur. Ond tybed beth sydd yn llechu yn ei gwpwrdd dillad?

Gareth Potter

Oes yna unrhyw steil sydd wedi dylanwadu arna chdi?

Dwi ddim yn meddwl amdana i fi fy hun fel rhywun sydd yn rhan o ryw lwyth ond dwi yn licio'r syniad o lwyth, dwi'n licio youth tribe, ma nhw wastad wedi bod yn fascinating.


Gareth Potter

Wyt ti'n defnyddio dillad i herio cymdeithas?

Dwi wedi cael fy nylanwadu lot gan fy nhad ac mi oedd dad yn darllen dillad pobl. Mi oedd dad yn horrified pan o'n i'n gwylio Top of The Pops yn niwedd y saithdegau pan fydda pobl fel y Sweets neu David Bowie yn dod arno gyda dillad glam rock, mi oedd dad yn hollol horrified gyda'r holl beth, felly ro'n i'n meddwl, note to self! Dwi'n cofio'r Sex Pistols yn dod i Gaerffili ac roedd pync fel glam rock ond wedi mynd yn wyllt ac mi oedd o'n heriol ac yn lot fwy danjerys nag oedd dillad wedi bod o'r blaen.

Gareth Potter

Sut fydda ti'n disgrifio dy steil di wrth i ti dyfu fyny?

Dwi erioed wedi meddwl amdana' fy hun fel pync, Ted, Rockabillie, Mod, Skinhead na Raver, ond yn bendant dwi wedi fflyrtio hefo pob un o'r edrychiadau yna ac wedi cymryd rhywbeth o bob un ohonyn nhw.

Gareth Potter

Ydy dy steil di wedi newid dros y blynyddoedd?

Pan oeddwn i'n ifanc yn tyfu fyny yn y cymoedd, mi oeddwn i'n teimlo fel rhyw fath o outsider. Mi oeddwn i'n mynd i ysgol Gymraeg oedd yn y cwm arall, felly mi fyddwn i'n gadael fy nghwm i, Cwm Aber a Chwm Rhymni a mynd draw i Bontypridd i Ysgol Rhydfelen. Felly mi o'n i fel rhyw fath o outsider, ond ro'n i'n eitha' balch o hynna ac yn falch o sefyll allan.

Gareth Potter

Mae gen ti glasuron yn dy gwpwrdd dillad di. Mae'r gôt duffel yma'n un o'r clasuron hynny yn dydy?

Ydy - dwi wedi gwisgo hon bob gaeaf ers deg mlynedd? Aquascutum ydy'r duffel coat yma ac mae hi'n atgoffa rhywun o'r pumdegau a'r chwedegau. Mae'n cael lot o sylw gan fechgyn pêl droed gan eu bod nhw'n licio gwisgo Aquascutum. Mi oedd Burberry yn dechrau mynd yn passé ac Aquascutum oedd yr enw newydd poblogaidd, yn enwedig yng Nghaerdydd.

Gareth Potter

Fyddi di'n gwisgo siacedi eraill o gwbl?

Dwi hefyd wrth fy modd gyda siacedi Baracuta. Mi ddechreuon nhw wneud y rhain yn y tridegau ond mi ddaethon nhw'n enwog ddiwedd y pumdegau a dechrau'r chwedegau pan wnaeth y Mods a'r Rockabillies yn America ddechrau eu gwisgo nhw ac mi oedd yna rywbeth cool iawn amdanyn nhw. Mi gafodd y siaced hufen yma ei galw'n Harrington ar ôl rhyw gymeriad mewn ffilm odd yn eu gwisgo nhw yn ôl y son. Ond dillad golff ydyn nhw rili, ond mi wnaeth y Mods a'r Rockabillies a phobl ifanc ddechra' eu gwisgo nhw a mae o'n enw y mae pobl yn gwybod amdano rŵan.

Gareth Potter

Oes gen ti siwtiau yn cuddio yn dy gwpwrdd di hefyd?

Oes, ond mae hon yn un arbennig. Mi ges i'r siwt dywyll hon rhyw ugain mlynedd yn ôl o Duffer of Saint George yn Arblay Street yn Llundain, a siwt marchogaeth Edwardaidd ydy hi. Dyma'r steil y byddai'r Teddy Boys yn wisgo ar ddechrau'r pumdegau. Dwi'n licio'r syniad o ddynion ifanc dosbarth gweithiol yn gwario lot o arian ar ddilledyn bonedd na ddylen nhw fod yn wisgo. Mi alli di ei wisgo fo i farchogaeth os wyt ti'n fonedd neu, fel oedd y teddy boys yn ei wneud ei wisgo fo i fynd lawr i'r dre' ar nos Sadwrn a bygwth dynion ifanc eraill! Ond dwi erioed wedi gwneud yr un o'r ddau yna!

Gareth Potter

Beth am dy esgidiau di? Beth yw hanes y rhain?

Ma' rhain yn grêt, dwi wrth fy modd gyda nhw. Mi ges i'r rhain mewn siop ail law yn Llundain ac mi oedden nhw'n ffitio! Ma' nhw jyst mor cŵl! Mae 'na dipyn bach o sawdl arnyn nhw sydd yn eithaf uchel i fi, dim ond un fodfedd ond mae un fodfedd o daldra ychwanegol yn ffantastig pan ti'r un maint a fi, so ma' nhw'n brilliant!

Gareth Potter

Be ydy hanes yr esgidiau glas yma?

Dwi ddim yn gwisgo'r rhain rhagor oherwydd eu bod nhw wedi torri, ond dwi'n meddwl taw'r rhain yw fy hoff bâr o daps erioed. Ma' nhw'n edrych fel Converese ond Pro Keds ydyn nhw ac mae'n anodd iawn cael gafael arnyn nhw. Enw Americanaidd ydy Pro Kets fel Converse ac mi oedd gangiau mawr yn America yn arfer gwisgo Pro Keds yn y saithdegau, a'r punks fel y Ramones. Mi o'n i'n DJ'o mewn cystadleuaeth break dancing yn ddiweddar ac mi oeddwn i wrth fy modd yn gweld rhywun yn gwisgo pâr o Pro Keds.

Gareth Potter

Mae'r esgidiau yma'n wahanol iawn i'r Pro Keds, Brogues ydyn nhw ia?

Ie, Brogues, dwi jyst yn caru Brogues. Ac mi ydw i wedi gwisgo'r rhain siŵr o fod bob dydd ers y pum mlynedd diwethaf. Mae gen i rai fwy newydd hefyd, ond dwi'n mynd i gario mlaen i wisgo'r rhain am dipyn. Dwi'n mynd i roi sawdl newydd arnyn nhw.

Gareth Potter

Dwi'n synhwyro dy fod di'n dipyn o fonheddwr yn y gwraidd ac yn hoff iawn o'r clasuron.

Wrth gwrs, dwi'n meddwl fy mod i. Roedd y skinheads gwreiddiol yn gwisgo Brogues gyda dillad casual. Ac ym myd hip-hop hefyd, yn America, mi fyddai dynion du ifanc yn gwisgo pethau y byddai pobl mwy posh yn eu gwisgo fel arfer. Ond yn debyg i gerddoriaeth hip-hop wrth gwrs, mi ydych chi'n dwyn pethaugwahanol o wahaol lefydd ac yn gwneud rhywbeth newydd allan ohono fe.

Gareth Potter

Da ni'n byw mewn oes lle 'da ni'n prynu pethau ar gyfer eu gwisgo am gyfnod byr. Oes gen ti fwy o barch at bethau sydd wedi cael eu gwneud yn dda ac i bara yn hirach?

Yn sicr, teiliwr oedd fy nhad mewn pentref yn y cymoedd. David Potter your local high class tailor, oedd y geiriau ar y bag plastig fyddwn i'n arfer cario fy llyfrau i'r ysgol ynddo ac mi oedd pobl yn chwerthin ar fy mhen i - mewn ffordd neis wrth gwrs achos roedd pawb yn licio dad. Mi oedd dad wastad yn dweud wrthym ni am brynu pethau o ansawdd da - ac mi oedd dillad da gyda fe. Gwariwch arian ar stwff o ansawdd gwell a byddi di'n eu joio nhw fwy a mi fydda nhw'n para yn hirach medda' fo. Weithiau mi fyddwn i'n prynu siwt, o Chelsea Antique Market pan oeddwn i yn Llundain ac er bod dad wrth ei fodd gyda nhw mi fyddai'n dweud "very interesting, but not one that I would wear!" Mi oedd o'n licio'r grefft oedd wedi mynd mewn iddo fo a dwi'n meddwl fel yna fy hun - dwi'n licio pethe' sydd wedi cael eu gwneud yn dda.

Gareth Potter

Lle mae dy ddelwedd di'n clymu mewn efo dy waith di a dy ddelwedd di fel DJ?

Dwi lot hŷn na rhan fwyaf o bobl sydd yn dod i ddawnsio i'r recordiau dwi'n chwarae, a dwi'n meddwl fod 'na adeg yn dod pan ti ddim eisiau edrych fel skateboarder rhagor! Mae'r recordiau dwi'n chwarae hefyd yn hen recordiau erbyn hyn, dwi'n chwarae lot o soul a blues ac mae'r rhain yn hen glasuron sydd yn dal i weithio nawr, felly mae yna parallel gyda'r dillad yna.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales