Cwpwrdd Dillad: Geraint Williams
Geraint Williams
Geraint Williams
Geraint Williams
Geraint Williams

Mae Geraint Williams yn swyddog datblygu i gymdeithas y cyfreithwyr a'n hoff iawn o ddillad. "Os fyddwn i wedi cynilo popeth dwi wedi'i wario ar ddillad ar hyd y blynyddoed mi fyddwn i wedi talu'r morgais i ffwrdd ers blynydde. Wrth weithio ym myd y gyfraith, ma' gofyn i mi fod yn smart bob dydd a wy'n tueddu, pan wy'n cyfarfod â chyfreithwyr, i wneud cofnod o beth wy'n wisgo fel nad ydw i'n dyblu lan ar beth wy'n wisgo".


Geraint Williams

Nia: Pryd gychwynnodd dy ddiddordeb mewn dillad?

Geraint: Ma'n rywbeth sy' 'di bod gyda fi ers erioed, er, ma' fy steil dillad wedi newid dipyn ar hyd y blynyddoedd wrth i fi newid. Pan o'n i'n iau o'n i'n blentyn tew iawn hyd o'n i'n un-ar-hugain mlwydd oed dair mlynedd yn ôl pan nes i benderfyniad i golli pwysau a wy'n credu unwaith golles i'r holl bwysau yna, wy'n credu bod fy steil dillad wedi newid yn gyfangwbl. Odd 'da fi ryddid i fynd fewn i siop a dewis unrhywbeth ac mi roddodd y rhyddid yna sbardun mawr i mi.

Geraint Williams

Nia: Wyt ti'n meddwl fod dy ddillad di yn ddrych i dy gymeriad di?

Geraint: Odi. Dwi'n credu ei fod yn adlewyrchu'r ffaith bo' fi braidd yn ecsentrig a'n geidwadol ar y cyfan.

Geraint Williams

Nia: Y peth cyntaf sy'n fy nharo i ydi bod dy gwpwrdd yn andros o daclus. A ma' 'na lot fawr o batrymau a phethau eitha' lloerig yn ogystal â lot fawr o streipiau.

Geraint: Mae'r rhan fwyaf o'm crysau yn rai sydd â streipiau arnynt ond wy ddim yn ymwybodol o'r ffaith pam dwi wedi eu prynu nhw. Wy'n credu bod eu prynu nhw wedi deillio o'r ffaith bo' streipiau am i lawr yn gwneud i ddyn edrych yn dalach ac yn fwy main. Ac os sylwch chi, does dim lot o grysau llewys byr yma, anaml iawn y byddaf yn gwisgo crys llewys byr, dwi'n gweld crys llewys hir lot mwy smart. Ond, ma' 'na un neu ddau yn llechu yn y cwpwrdd, fel yr un blodeuog ffiaidd! Brynes i'r un yma i fynd ar fy ngwylie i Magaluf ryw ddwy flynedd yn ôl, dwi ddim yn siwr iawn beth ma' hi dal yn ei wneud yma!

Geraint Williams

Nia: Pam mae'r crys yn dal i fod yn dy gwpwrdd felly os nad wyt ti'n ei hoffi?!

Geraint: Mae'n siwr bo' rhywbeth sentimental amdani ond pan fydda i'n prynu crys llewys byr newydd, mi fydd yn mynd i'r siop elusen!


Geraint Williams

Nia: Beth am y trowsus ffantastig yma?

Geraint: Dwi ddim cweit yn siwr pam brynes i nhw ond nathon nhw ddenu fy llygaid ar y pryd. Wy wedi gwisgo nhw unwaith neu ddwy gyda chrys lliain brown a flip-flops lledr brown ond wy'n credu ei bod hi'n amser i mi eu taflu allan nawr sydd yn drueni oherwydd ma' nhw o ansawdd da iawn a dales i ddigon amdanyn nhw. Ma' croeso i ti eu cael nhw os tishe!

Geraint Williams

Geraint: Diddordeb arall heblaw am ddillad sydd gennyf yw cerddoriaeth. Dwi'n chwarae'r organ yn y capel lleol. Mae'n chwarae rhan eitha' pwysig yn fy mywyd i. Dwi'n gyfeilydd i gôr lleol felly ma' tipyn o fy amser i'n mynd ar gerddoriaeth.

Geraint Williams

Nia: Beth wyt ti'n gwisgo pan fyddi di'n chwarae'r organ yn y capel?

Geraint: Ma'n siwr y bydde pobl yn disgwyl i mi wisgo siwt frethyn a chrys a thei ond neith aelodau Bethesda, Llangennech dystio i'r ffaith does dim dal beth fyddaf yn ei wisgo o un wythnos i'r llall.

Geraint Williams

Nia: Beth am yr esgidiau felly achos gyda'r holl bedalau, dwi'n siwr ei bod hi'n bwysig i gael yr esgidiau cywir?

Geraint: Ma' 'na stori y tu ôl i'r esgidiau dwi'n eu defnyddio. Brynes i'r esgidiau yn Llundain a dales i dros £200 amdanyn nhw a ma' nhw'n Prada, felly dwi'n gobeithio fod aelodau'r capel yn gwerthfawrogi 'mod i'n gwisgo esgidiau Prada pan yn chwarae'r organ!

Geraint Williams

Nia: Sgen ti wendid am rywbeth neilltuol boed hynny'n grysau, trowsusau, esgidiau? Oes yna unrhywbeth ti wirioneddol yn ei licio?

Geraint: Wel ar wahan i esgidiau, wy yn hoff iawn o gotiau, cotiau hir fel arfer. Yn ddiweddar, nes i brynu cot hir camel, cashmere a wy'n siwr bo' pobl yn meddwl beth yn y byd bydden i'n gwneud gyda rhywbeth fel yna fy oedran i. Ond wy'n ei gwisgo hi i'r gwaith yn y gaeaf ond hefyd wy'n gallu ei gwisgo hi ar ben jîns neu gyda poloneck ddu neu sgarff sy'n rhoi ryw fath o olwg newydd arni.

Ma' gen i bâr o esgidiau brynes i pan o'n i yn y Brifysgol. Doedden nhw ddim yn ddrud iawn a dim ond un pâr oedd ar ôl yn y siop a'n dri maint yn rhy fach i mi. Felly er mwyn ffitio fewn iddyn nhw, mi nes i dorri tri twll ynddyn nhw ond o'n i'n dwli arnyn nhw gymaint, wy'n gwisgo nhw o leia unwaith yr wythnos a bydden i ar goll hebddyn nhw.

Geraint Williams

Nia: Beth am yr holl sanau Prada sydd yn dy gwpwrdd dillad?

Geraint: Brynes i ugain pâr ar e-bay am £12! A ma' nhw'n rai iawn, dim o gefn unrhyw lori, a wy heb agor nhw'i gyd eto.

Geraint Williams

Nia: Wyt ti'n golchi a smwddio dy ddillad dy hun?

Geraint: Ma' cywilydd gen i ddweud ma' gen i ddynes sy'n dod unwaith yr wythnos a chymryd y dillad brwnt i gyd a'n dod a nhw nôl ar 'hangers' a gorchuddion plastig drostyn nhw felly ma' hwnna'n grêt.

Geraint ar ddillad...
Byddwn i ar goll heb ddillad. Wy'n swnio'n berson bas iawn yn dweud hynny am bethau mor faterol ond ma' dillad yn rhoi gwefr i fi, dyna fy niddordeb. Nid yn unig er mwyn creu delwedd ond wy'n hoff iawn o weld dillad ar bobl eraill mewn cylchgronau a ma' unrhyw beth esthetig fel yna yn rhoi gwefr i mi.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25