Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Geraint Edwards
Geraint Edwards
Geraint Edwards
Geraint Edwards
Geraint Edwards

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o fanylion

Mae Geraint Edwards yn artist ac yn gynllunydd sy'n hoff o gamu mewn i fyd ffantasi. Mae'n gynllunydd gwisgoedd sy'n cael ei ysbrydoli gan fyd celf a hanes. Mae Geraint yn frwd iawn i greu argraff theatrig ac fe ddechreuodd ei yrfa gyda Vivienne Westwood, brenhines y mudiad ffasiwn New Wave.

Geraint Edwards

Wyt ti wastad wedi bod yn berson creadigol?

Dwi wastad wedi cael syniadau am wneud pethe, a ma' hwnna'n rhan ohono'i erioed. Beth na allaf ei wneud yw rhoi label ar fy ngwaith. Dwi ddim yn gwybod os ydi e'n bwysig beth mae pobl yn credu yw celf neu beth sydd yn grefft, cyn belled â'u bod nhw'n ei hoffi.

Geraint Edwards

Pa fath o bethau oeddet ti'n eu cynllunio ar gyfer Vivienne Westwood?

Mi o'n i'n gweithio yn y stafell gynllunio yn cynllunio accessories i'r farchnad yn Siapan. Ro'n i'n cynllunio ac yn gwneud teis, hancesi a bagiau. Mi wnes i'r tei yma o hances roddodd mam gu i mi.

Geraint Edwards

Sut brofiad oedd cael gweithio i Vivienne Westwood?

Dwi 'di mwynhau'n fawr. Ro'n i'n hoffi gallu gweld fy nghynlluniau i yn mynd o'r dudalen i'r eitem, ac roedd e'n hwyl hefyd gweld Vivienne yn dod mewn pob dydd mewn gwisg wahanol, outlandish!

Geraint Edwards

Ydi'r syniad o greu yn allweddol i dy fywyd di?

Dwi'n cael pleser mawr wrth wneud pethe. Unwaith dwi wedi ei gwblhau e dwi wastad yn meddwl am y peth nesa. Dwi'n mwynhau'r holl broses, o'r cynllunio i'r torri a'r gwnïo. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig i allu torri a gwnïo i gynllunio'n well. Dwi'n cael fy ysbrydoli gan bob math o bethe, o hanes y wisg i gelf.

Geraint Edwards

Mae'r wisg werdd yma yn un ddramatig iawn. Be ydy'r hanes tu ôl i greu gwisg o'r fath?

Nes i gychwyn gyda'r wisg, ro'n i moyn creu rhywbeth lle oedd pob rhan o'r wisg o'r un defnydd a'r un lliw. Roedd y defnydd wedi fy ysbrydoli i wneud y steil yma, gyda'r fantell cylch llawn, fel steil y 40au, ac wedyn fe es i ag o gam ymhellach a chreu'r cefndir a chael y croen yr un lliw. Pan ti'n rhoi'r pethe fel hyn ymlaen mae'n gallu dy droi di mewn i rywun arall, mae'n dy ryddhau di. Dwi'n credu bod pob un o'r gwisgoedd yn dangos rhan wahanol o fy mhersonoliaeth i.

Geraint Edwards

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y wisg anghyffredin yma?

Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y wisg hon o'r deunawfed ganrif. Nes i wnïo pob rhan ohono fe, y trowsus, gwasgod, côt, y crys, a fi wnaeth yr het hefyd. Yn lle defnyddio'r defnydd bydden nhw wedi ei ddefnyddio yn y deunawfed ganrif, mi ddefnyddies i ddefnydd Affricanaidd er mwyn newid y steil. Mi wisges i'r wisg hon i fynd mas i glwb nos i barti yn ystod wythnos ffasiwn Llundain.

Geraint Edwards

Ar gyfer pa achlysur y gwnes di greu'r wisg hon?

Mi wnes i'r wisg hon ar gyfer y cylchgrawn Dazed & Confused. Fe wnaethon nhw fy nghomisiynu i wneud y wisg ar ôl gweld erthygl amdana'i ar y we. Yr ysbrydoliaeth tu ôl iddo oedd y cynllunydd Paul Poiret odd yn gweithio ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd e'n enwog am ei liwia ac am ei fod wedi rhyddhau menywod o'r corset. Mae'r gemwaith ar y wisg yn dod o Baris, a ges i'r rhai ola' yn y siop, felly does dim posib cael gafael ar rain rhagor. Gwnïes i rain i gyd gyda llaw, a dyna beth a gymerodd y rhan fwyaf o'r amser wrth wneud y wisg. Dwi'n credu ei bod hi wedi cymryd tua thri mis i'w gwneud.

Geraint Edwards

Mae cynllunio'r gwaith celf yn rhoi'r cyfle i ti ddianc i fyd dychmygol, ond mae dy waith bob dydd mewn siop ddillad retro yn dipyn nes at y ddaear yn dydy?

Dwi'n hoffi gweld y gwahanol ddillad sydd yn dod mewn i'r siop. Mae diddordeb gen i ym mhob oes o ddillad a dwi'n credu ei fod e'n ddiddorol sut ma' pethe yn newid dros amser. Dwi'n hoff iawn o steil y 'Dandies' ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y tailoring mor dynn ag roedd y ffit yn berffaith. Ma' llawer o barch gen i tuag at hen bethe oherwydd ma' mwy o waith wedi mynd mewn i'w gwneud nhw, a ma' nhw wastad yn edrych yn well oherwydd hyn.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales