Cwpwrdd Dillad: Geraint Pickard
Geraint Pickard
Geraint Pickard
Geraint Pickard
Geraint Pickard

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Geraint Pickard yn actor a cherddor proffesiynol sy’n gwario ei gyflog i gyd ar ddillad. "Fyddwn i byth yn siopa yng Nghaerdydd, dwi wastad yn mynd i Lundain a fy hoff siop i yw Harvey Nichols."

Geraint Pickard

Sut fydda ti’n meddwl y byddai person sy’n pasio ti ar y stryd yn disgrifio dy steil a dy ddelwedd di?

O bosib y bydda’ nhw’n dweud ‘chic’ neu ‘shabby chic’. Mond bod y gair ‘chic’ yna yn rhywle, dwi’n ddigon hapus. Dwi’n actio’n broffesiynol a dwi’n canu mewn band o’r enw ‘Clinigol’. Dwi’n meddwl bod ti’n dod yn ddigon hyderus nes ti’n cyrraedd pwynt lle ti’n gallu pigo pethe fyny a ti jyst yn gwisgo nhw heb feddwl.

Geraint Pickard

Faint yw’r mwya’ wyt i wedi ei wario mewn un taith siopa?

Mae’n siŵr mod i wedi gwario ryw £1,500 mewn un daith siopa. Roedd pedwar o bobl yn pacio i mi yn y siop a dwi’n siŵr eu bod nhw i gyd yn meddwl, “Who’s he?”

Geraint Pickard

Wyt ti’n gwisgo dillad sydd ddim gan gynllunydd ac sydd o’r stryd fawr?

Dim rili. Dwi’n gwybod, os na’i brynu gan gynllunydd fydd neb arall yn ei wisgo fe. Dwi’n licio’r syniad mod i yn gwisgo rhywbeth unique. Brynais i hon jyst cyn ‘dolig pan es i siopa gyda chriw o ffrindiau. Roedden nhw i gyd wedi dweud wrtha’i am beidio prynu cardigan, ond yn syth ar ôl i mi ei rhoi hi ymlaen, roedd pawb yn dweud ei bod hi’n edrych yn grêt. Dwi wastad wedi dweud nad ydy ffasiwn yn fater o wisgo dillad sydd yn ffasiynol, ond cael y llygad i wisgo dillad yn y ffordd gywir. Felly dwi’n gwisgo’r gardigan yma chydig bach i’r ochr hefo crys-t o dano fe. Dyma’n hoff jîns i. Dwi’n credu eu bod nhw cyfleu fy steil i i’r dim. Maen nhw’n eithaf distressed. A dyma’r peth drytaf dwi erioed wedi eu prynu, roedden nhw’n £300, ond werth pob ceiniog!

Geraint Pickard

Sut fydda ti’n disgrifio dy steil di?

Dwi’n meddwl mod i yn ffasiwn ymwybodol. Dwi’n pigo pethe lan yn yr isymwybod, fel wrth wylio’r teledu. Dwi’n cofio Justin Timberlake yn y Brits ychydig flynyddoedd yn ôl yn gwisgo pâr o drowsus rili smart hefo crys-t scruffy a trainers gwyn. Nes i ddim meddwl dim ar y pryd ond ei fod yn edrych yn cŵl, ond ychydig ddiwrnodau wedyn, o’n i wedi prynu trowsus rili smart! Mae’n steil i yn newid yn raddol nawr mod i yn mynd yn hŷn, dwi’n gwisgo pethau sydd ddim mor crazy! Dwi’n edrych yn y cwpwrdd a dwi’n horrified mod i wedi prynnu a gwisgo rhai eitemau!

Geraint Pickard

O le ddaeth y crys-t yma?

Cyn troi’n 30, es i drwy gyfnod lle o ni ychydig yn paranoid mod i’n dechrau mynd yn rhy hen, so, nes i ddechrau gwisgo crysau-t oedd falle’n anfon negas mas i’r byd yn dweud mod i ddim rili yn poeni mod i’n troi’n 30. Felly mae gen i hwn sydd yn dweud; “Youth by itself is not enough”. Ac mae gen i grys-t arall sydd yn dweud “I once was, like me you will be”. Ryw fath o jôc fach am droi’n 30.

Geraint Pickard

Beth ydy hanes y jîns yma?

Y peth gwaetha sydd gen i yw’r trowsus yma gyda safetypins yr holl ffordd lawr y goes ac yn y cefn. Dwi’n edrych arnyn nhw nawr a dwi’n disgusted mod i wedi gwario arian arnyn nhw. Ond, ar y pryd redden nhw’n hollol ffasiynol, yn ennyn lot o sylw a comments, ond nawr alla i ddim credu mod i byth wedi cael yr hyder i wisgo nhw o amgylch y lle. Dwi’n i casáu nhw, alla i ddim edrych arnyn nhw, ma' nhw’n horrible! Dwi mond wedi eu cadw nhw achos mod i wedi gwario cymaint arnyn nhw. A phwy a ŵyr, efallai y dawn nhw’ ôl yn ffasiynol eto!

Geraint Pickard

Wyt ti erioed wedi bod yn y sefyllfa lle mae rhywun yn gwisgo'r un peth a ti?

Byth, ond weithiau pan dwi’n gwylio’r teledu dwi’n gallu gweld y dillad dwi wedi eu prynu mewn fideos pop a ballu. A dwi wastad yn eithaf hapus a’n hunan pan mae hynny’n digwydd. Dwi’n eithaf lwcus achos does dim yn bod ar fy nghorff i, dwi’n weddol hapus a’n siâp i. Dwi’n gallu gwisgo jîns tynn neu grysau-t sy’n eithaf tynn. Anaml dwi’n trio pethau ymlaen hefyd achos dwi’n nabod siâp fy nghorff, a dwi’n gwybod beth sydd yn mynd i ffitio.

Geraint Pickard

Sut fasa ti’n teimlo tasa rhywun a golwg eitha’ trendi yn dod atat ti a dweud wrtha ti nad ydyn nhw yn licio dy wisg di o gwbl?

Fydda hynny byth yn digwydd i mi- amhosib!!!!!