



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Cyflwynydd golygus Blue Peter yw Gethin Jones. "Oeddwn i byth yn meddwl fyddwn i’n cyflwyno, oeddwn i byth yn meddwl fyddwn i ar deledu, pan oeddwn i’n tyfu lan, oeddwn i’n meddwl mai rhyw bocs magic yn y gornel oedd y teledu!"
Beth mae dillad yn ei olygu i ti – wyt ti wedi cadw lot o bethau sy’n gysylltiedig ag atgofion?
Ie, fi’n ofnadwy am beidio taflu pethe mas, ond ambell waith fi’n methu [cadw nhw], ti’n caru nhw oherwydd mae gennyn nhw rhyw logo neu rhywbeth, ac mae na stori yna. Fel gei di weld, mae ‘nghwpwrdd i’n llawn o bethau rubbish ond mae’n anodd i daflu nhw i ffwrdd. Does dim cwpwrdd gen i’n anffodus oherwydd dwi newydd symud i mewn i’r tŷ, does dim hyd yn oed dodrefn gen i eto, ond mae gen i rhyw fath o gwpwrdd – ‘stafell dympio fi’n galw fe, gyda dillad gwaith i gyd a wedyn mae gen i rail yn yr ystafell wely ar gyfer y penwythnos fi’n cael off gwaith.
Wyt ti’n cael lot o ddillad am ddim felly Gethin?
Ambell waith...mae stwff trainio ti’n gwbod, achos fi’n gwneud gymaint o ffilmio corfforol, ymarfer corff a stwff.
Ti ydi’r Action Man yn Blue Peter yn de?
Fi ‘di cael y teitl yna o rhywle, sai’n gwybod pam, fi ddim yn adrenalin junkie o bellffordd, ond fi’n mwynhau’r sialens, yn enwedig yn gorfforol, i weld os fi’n gallu gwneud e ai pheidio. Yn amlwg. Ry’n ni’n gwneud pethe gwirion hefyd. Mae gen i grysau cowboi o pryd aethon ni i Texas, drycha ar y cefn!
Ga’i ofyn pam oedd yn rhaid i ti wisgo fel cowboi?
‘Da ni wastad yn mynd ar daith haf gyda Blue Peter, a taleithiau de America oedd e tro ‘ma. Naethon ni hefyd ffilmio yn NASA, yn y Space Camp, a nes i lanio space shuttle o 50,000 o droedfeddi – mewn simulator wrth gwrs. Achos fod gen i drwydded hedfan, wnaethon nhw ddweud wyt tisho go ar hyn, felly wnes i ac roedd pawb yn saff, fyddai pawb wedi goroesi! Roedd hwnna’n ddiwrnod anhygoel mas yn y Space Center. Drycha, mae fy enw i ar y siwt ‘ma a bob dim.
Pan oeddet ti’n hogyn bach wedyn, oedd delwedd yn bwysig i ti bryd hynny?
Mae’n rhaid i mi ddweud ‘na’ i hwnna dwi’n meddwl, falle bydde ffrindiau fi’n anghytuno ond roedd mam yn torri’n ngwallt i, roedd gen i sbectol mawr fel jam jars a braces ar fy nannedd ac oeddwn i’n chwarae’r ffidil felly doeddwn i ddim rhif un ar restr merched mwyaf prydferth yr ysgol!
Dwi’n cofio dros yr haf, ges i contact lenses, ges i braces fi bant a gwallt fi ‘di torri a nes i ddechrau codi pwysau, roedd dad ‘di prynu weights a rhoi nhw yn y garej. Felly des i nôl i’r ysgol a dwi’n cofio Mrs Williams yn troi rownd ata i a dweud ‘Sori, alla’i dy helpu di?” pryd ddois i mewn ar ddiwrnod cynta’r tymor. Roedd hynna’n eitha od ond mae’n siwr oeddwn i’n edrych bach yn wahanol!
Oes gen ti hoff grys?
Hwn yw’r ffefryn. Mae pob dyn gyda ffefryn, os ydyn nhw’n dweud na mae nhw’n dweud celwydd. Fi wastad yn mynd a fe ffwrdd ‘da fi, trip gwaith neu ‘da ffrindiau, jyst rhag ofn bod angen crys smart ‘da fi ar gyfer rhyw achlysur. Ond ti ddim yn licio fe, fi’n gallu dweud o dy lygaid di!
Gad i mi weld dy siwtiau di...
Nes i brynu siwt. Oeddwn i’n meddwl, ti’n gwbod be, priodas chwaer fi, mae’n bryd i brynu siwt. Ges i wneud hi, ti’n gwybod pryd mae nhw’n neud e lan i ti? Smart?
Oes na wastad bwysau arna ti i edrych y rhan, Gethin?
Rwy’n credu bod e’n bwysig i edrych yn dda ar gamera, yn enwedig ar raglen i blant. Os fydde ni’n cyfarfod rhywun neu’n mynd mas, fydde ni wastad yn trio gwisgo rhywbeth smart. Fi’n credu bod gwisgo’n smart neu be ti’n wisgo yn bwysig o ran parchu pwy ti’n gyfarfod. Oedd dad wastad yn dweud hynna. Just o ran dy hunan-barch mwy na dim, beth y fi isho gwisgo a be sy’n bwysig i fi – dyna’r ffordd ydw i o ddydd i ddydd a dyna’r ffordd ydw i ar gamera.