Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Gillian Elisa
CWPWRDD DILLAD: Gillian Elisa | Gwilym Cox | Barbour
Gillian Elisa
Gillian Elisa
Gillian Elisa
Gillian Elisa

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Gillian Elisa yn actores amryddawn sy'n troi at ddillad am ysbrydoliaeth.

Dwi'n greadigol ofnadwy. Dwi'n dwli rhoi pethau hefo'i gilydd. Os mae cyfle yn dod i mi drio pethe mas, mi wnâi hynny, dwi byth yn colli cyfle.

Gillian Elisa

Oes rhywun wedi dylanwadu ar dy steil di dros y blynyddoedd?

Dwi'n dal i fod fel plentyn tu mewn. Pan o'n i'n fach ro'n i wastad yn mynd lan lofft a mynd mewn i ddrârs ym modryb a thynnu pethe mas. O, ro'n i'n cael rows! Ond ro'n i'n gwisgo lan gyda beads a high heels…roedd golwg y diawl arna'i! Roedd fy modryb, chwaer yn nhad, Anty Margaret, yn gwisgo'n smart iawn. Rodd hi'n classy, yn gwybod sut oedd dodi dillad at ei gilydd. Dwi'n lot fwy 'actressy' na hi. Doedd hi ddim yn gwisgo gormod o 'jingalêrs' fel oedd hi'n ei ddweud wrth y ngweld i ar y teledu ambell waith. Ond, mi oed hi'n ddylanwad mawr arna'i, os fydda' i'n gwisgo rhywbeth sy'n gomon, dwi'n gallu clywed ei llais hi'n dweud, "Oh, you're looking very common".

Gillian Elisa

Sut fydda ti'n disgrifio dy steil di?

Ma'n wardrobe i'n eitha' call a deud y gwir, dwi'n eitha' prowd ohono fe. Dwi'n mynd trwy gyfnod o wisgo lot o frown ar hyn o bryd. Amser Nadolig dwi fel Mary Christmas, dwi'n gwisgo cotiau gyda ffwr a dwi'n joio naws Nadolig. Unwaith ma' hynny drosodd, dwi mewn browns a dwi'n joio dod lawr a thawelu 'chydig bach. Wedyn yn yr haf mi fyddai'n lliwgar eto, mi fyddai'n goch ac ati! Dwi fel y tywydd, dwi'n newid gyda'r tymhorau.

Gillian Elisa

Be fydda ti'n ei ddweud ydy dy hoff ddilledyn di?

Dwi'n licio cotiau a jacedi, yn enwedig cotiau hir. Dwi'n teimlo eu bod nhw'n fy fframio fi'n neis.

Gillian Elisa

Mae'r gôt hir ddu yma yn blaen ar y tu allan ac yn lliwgar ar y tu mewn. Ydy hi'n cynrychioli dwy ochr dy gymeriad di?

Fel arall rownd falle, swnllyd tu fas a thawel tu mewn ydw i! Ma' gen i siaced fach liwgar arall hefyd, ond Versace ydy honno. Ma' hon yn edrych yn grêt gyda phethau plaen o dano yn yr haf. Mi alli di wisgo cryau-t gwahanol o dano fe a ma' hi'n unigryw. Dwi wrth fy modd yn ei gwisgo hi a ma' hi'n cael dod allan bob blwyddyn achos dydy hi ddim yn mynd mas o ffasiwn.

Gillian Elisa

Be ydy hanes y ffrog goch yma?

Dwi wedi gwisgo hon nes ei bod hi jyst a cwmpo off. Coatdress ydy hon a ma' hi'n grêt . Ma' yna broderie anglaise ar y gwaelod sy'n anarferol iawn. Wedyn ma' gen i got leder yr un steil eto gyda'r broderie a dwi wedi gwisgo hon lot. Ma hi jyst yn edrych yn neis os ydach chi'n gwisgo rhywbeth plaen o dano fe ac wedyn mae'r patrymau arni'n unigryw.

Gillian Elisa

Mae gen ti ddau gwpwrdd dillad yn does, un ar gyfer bob dydd a'r llall ar gyfer y llwyfan?

Oes, mae gen i ddillad showbiz sy'n dangos yn ochr arall i mi, yr ochr merch ffair ohona'i achos ma' pob math o betha' yn y cwpwrdd yna. Dwi wrth fy modd hefo creu cymeriad a'r broses o greu un. Er enghraifft, dwi ddim yn licio clywed pobl yn siarad hefo fi pan dwi'n rhoi colur llygaid ymlaen achos mae'n broses personol, mae'n tawelu fi a dwi'n meddwl mewn i'r rhan. Dwi'n rhoi fy ngwaith i gynta' lot i ddweud y gwir a dwi ddim yn licio bod yn slap-dash amdano fe, dwi'n licio gwneud y gore o'r cymeriad.

Gillian Elisa

Mi wyt ti'n cadw dy ddillad showbiz mewn ystafell arwahan a ma' hi fel boudoir!

Ma' gwestai yn dod i aros fan hyn ambell waith a ma' nhw'n cael modd i fyw yn gweld y 'clagg' fel ma' nghariad i'n eu galw nhw! Dwi wedi prynu loads o bethau yn B J Jones dros y blynyddoedd, ond ma fe wedi cau nawr. Ro nhw'n gwerthu popeth yn y siop erbyn y diwedd….pethe fel doorstops a phennau i roi hetiau arnyn nhw! Mi brynais i ddeg het yno a dwi wedi defnyddio chwech ohonyn nhw'n barod. Dwi'n dwli ar hetiau, ond pan dwi'n rhoi het ar fy mhen, dwi'n dechra' mynd mewn i gymeriad - ma het jyst yn gwneud rhywbeth i mi ac yn gwneud i mi chwerthin. Ma siwrne i bob cymeriad i ddeud y gwir, falle neith o ddechre gyda het, falle neith e ddechre gyda acen. Fyddai'n mynd mewn i siop er enghraifft a falle y bydd rhywbeth yn tynnu fy llygad i a mi fyddai'n meddwl, www, falla' brynai hwnna rŵan a fyddai'n meddwl, ydw i'n mynd i wastio yn arian yn fan hyn nawr, neu a oes yna rywbeth yn yr hyn dwi'n ei brynu yn mynd i'n ysbrydoli fi i neud rhywbeth?

Gillian Elisa

Ma, dy gymeriadau di'n rhai unigryw iawn yn dydyn, pob un gyda gwisg wahanol.

Ar gyfer Delyth Dawel fe hales i'n nghariad mewn i siop eitha', wel bydda chi byth yn mynd mewn i'r siop, felly hales i e mewn i brynu thigh boots PVC achos ro'n i moyn edrych yn gothic. Ma Delyth Dawel yn siarad yn ddiniwed, ond ma hi'n edrych fel pe bai hi'n 'hanging on to youth'. Dwi jyst yn licio dod ar y llwyfan a dweud dim byd a gweld ymateb pobl achos ma' nhw'n ffili credu mod i wedi neud fasiwn beth, menyw o'n oedran i wedi gwisgo lan fel 'na!

Gillian Elisa

Ydy'r diddordeb mewn dillad yn bennaf yn deillio o'r ffaith dy fod di'n licio eu defnyddio nhw i gymeriadu neu a oes gen ti ddiddordeb mewn steil a ffasiwn?

Rhyw ddwy flynedd yn ôl mi ofynnais i ffrind sy'n gwnïo a fydda hi'n fodlon gwneud côt i mi sy'n debyg iawn i gôt ro'n i wedi prynu eisoes ond mod i moyn hi mewn coch tywyll, tywyll a phiws. "Reit," wedodd hi bach yn betrusgar. Dwi'n licio risgio pethe weithie hefo dillad. Beth bynnag, mi nath hi'r gôt ac mi rois i hi 'mlaen a wedodd hi, "ma hi'n edrych yn grêt!"

Gillian Elisa

Mae'r ffrog binc a du yma yn anhygoel, o le ges di hon?

Dwi'n licio cael bargen pan dwi'n cynllunio dillad. Mi brynais i'r ffrog felfed du yma sy'n cyrraedd lawr i'r pen-glin am ryw £5 mewn siop ail law. Wedyn mi ofynnais i Bryan Mallem, sy'n cynllunio gwisgoedd Shân Cothi i gyd, i wneud rhywbeth Marilyn Monroe'aidd i'r ffrog a mi ddewisodd o'r pinc yma, a ma' gen i siôl i fynd hefo fo a ma hi'n edrych a million dollars ond dim ond rhyw £10 oedd hi!

Gillian Elisa

Be mae dillad yn ei olygu i ti?

Pan dwi'n gwisgo dillad dwi'n cael teimladau - dwi'n teimlo'n wahanol ym mhob dilledyn. Dyna pam dwi'n actores achos fod dillad yn neud i fi deimlo'n ffantastig. Ma'n neud i fi deimlo'n urddasol ag yn wahanol. Dwi jyst yn chwara allan ym mreuddwydion i a dweud y gwir. Ta ble dwi'n mynd, mi drïai greu ryw wardrobe bach i fi'n hunan - wardrobeaholic!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales