<?xml version="1.0" encoding="iso-8859-1"?>
<!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN"
        "http://www.w3.org/TR/2000/REC-xhtml1-20000126/DTD/xhtml1-transitional.dtd">
<html xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml">
<head>
<meta http-equiv="content-type" content="text/html; charset=UTF-8" />

<title>S4C - Cwpwrdd Dillad</title>

<link href="css/screen.css" rel="stylesheet" type="text/css" />
</head>

<body>



<div id="content">

<div id="banner">
<object classid="clsid:D27CDB6E-AE6D-11cf-96B8-444553540000" codebase="http://download.macromedia.com/pub/shockwave/cabs/flash/swflash.cab#version=6,0,29,0" width="710" height="170">
<param name="movie" value="banner.swf">
<param name="quality" value="high">
<embed src="banner.swf" quality="high" pluginspage="http://www.macromedia.com/go/getflashplayer" type="application/x-shockwave-flash" width="710" height="170"></embed></object>
</div>


<div id="navcontainer"> 
<ul id="navlist">
<li><a href="c_index.shtml">Hafan</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_05_new.shtml">Y Gyfres Hon</a></li>
<li><a href="http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=337675343">Gwylio ar Clic</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_01_new.shtml">Archif Cyfres 1</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_02_new.shtml">Archif Cyfres 2</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_03_new.shtml">Archif Cyfres 3</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_04_new.shtml">Archif Cyfres 4</a></li>
<!--li><a href="c_wardrobes_04.shtml">Archif Cyfres 4</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_05.shtml">Archif Cyfres 5</a></li>
<li><a href="c_competition_llon.shtml">Cystadleuaeth</a></li>-->
<li><a href="c_tips_women.shtml">Tips Ffasiwn</a></li>
<li><a href="c_lens.shtml">Troi'r Camer&acirc;u</a></li>
<li><a href="c_capsule_women.shtml">Y Cwpwrdd Capsiwl</a></li>
<li><a href="c_decades20.shtml">Degawdau</a></li>

<li><a href="e_cupboards_gwen.shtml">English</a></li>
</ul>
</div>
 

<div id="pagetitle">Cwpwrdd Dillad: Gwen Anwyl Thomas</div>

<div id="pagecontent">
	
<div class="lightpanel">
CWPWRDD DILLAD: <a href="c_cupboards_heather.shtml">Heather Jones</a> | <a href="c_cupboards_elle.shtml">Elle Frieze</a> | <a href="c_cupboards_gwen.shtml">Gwen Anwyl Thomas</a> </p>
</div>

<div class="thumbnail"><img src="images/gwen.jpg" width="95" height="95" alt="*" /></div>
<div class="thumbnail"><img src="images/gwen_generic2.jpg" width="95" height="95" alt="*" /></div>
<div class="thumbnail"><img src="images/gwen_generic6.jpg" width="95" height="95" alt="*" /></div>
<div class="thumbnail"><img src="images/gwen_generic7.jpg" width="95" height="95" alt="*" /></div>
<br />
<p class="largetxt">Yn yr oes hon o ymchwiliadau gan y cyfryngau a datgeliadau gan gyn-aelodau o'r llys, mae'n rhaid bod y gallu i gadw cyfrinachau yn un o'r rhinweddau mwyaf gwerthfawr ar gyfer gweinyddion Brenhinol.  Mae'n rhinwedd sydd gan Gwen Anwyl Thomas ddigonedd ohono wrth s&ocirc;n ei chyfnod fel cyn Lady-in-Waiting i'r diweddar Dywysoges Margaret</p>
<p class="largetxt">"Ma' dillad yn rhan mawr o'm mywyd i er yn blentyn bach. Dwi wrth fy modd efo dillad. Fuodd Mam yn gwneud lot o ddillad i ni ac odd hi'n gwirioni fy ngweld i wedi gwisgo fyny."</p>


<div class="panel">
<img src="images/gwen_charles2.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Sut y llwyddoch chi i gael y swydd o fod yn gynorthwywraig i'r Dywysoges Margaret? </h2>
<p><strong>Gwen: </strong>Cael llythyr yn fy ngwahodd am gyfweliad gyda'r Dywysoges Margaret. Fel oedd hi'n digwydd bod, o'n i'n mynd i Lundain am y diwrnod beth bynnag. Yn ystod y cyfweliad, dyma nhw'n gofyn be fyddwn i'n ei wneud yn Llundain ar ben fy hun y noson honno? "Wel, fel ma' hi'n digwydd bod, dwi'n cael cinio gyda Prince Charles" meddwn a dyma nhw'n gofyn lle oedd Prince Charles yn mynd i'm cyfarfod, a dyma fi'n meddwl mai nid fy lle i oedd datgelu hynny. Dwi'n meddwl bod y 'discreetness' yna wedi helpu. A dyma'r union ffrog nes i ei gwisgo ar gyfer y cyfweliad a'r cinio gyda Charles yn yr Hilton.</p>
</div>

<div class="panel">
<img src="images/gwen_generic3.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Dach chi'n meddwl bod eich cyfnod chi yn y palas wedi dylanwadu ar eich steil chi?</h2>
<p><strong>Gwen: </strong> Yn sicr. O'n i 'di gweld bywyd nag oeddwn i erioed wedi'i weld o'r blaen. </p>
</div>

<div class="panel">
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Dach chi'n aml yn rhoi enwau ar eich ffrogiau chi dydach?</h2>
<br />
<img src="images/gwen_blue.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p><strong>Gwen: </strong> Enw'r ffrog las ydi Ffrog Diana gan i mi ei gwisgo i'w chyfarfod hi mewn cinio yng Nghaerdydd yn 1980.</p>
<br class="clearboth" /><br /><br />


<img src="images/gwen_harlech.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p><strong>Gwen: </strong> Dyma ffrog Harlech a wisgais ar gyfer angladd yr Arglwydd Harlech yn Abaty Westminster yn 1985.</p>
<br class="clearboth" /><br /><br />

<img src="images/gwen_frank.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p><strong>Gwen: </strong> Y ffefryn yw ffrog Frank. Gwisgais y ffrog Jean Muir yma ar fy niwrnod cyntaf yn y Palas. Roeddwn i'n reit nerfus ond roeddwn i wrth fy modd gyda'm ffrog newydd.  Roedd Frank Sinatra yno a dywedodd o "I like your dress".  Roeddwn i wedi cynhyrfu'n l&acirc;n am hynny - roedd yn ddyn neis iawn.</p>
</div>

<div class="panel">
<img src="images/gwen_generic4.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Beth fasech chi'n ei ddweud ydi'ch steil chi?</h2>
<p><strong>Gwen: </strong> Dillad sy' ddim dros y top yn ormodol. Dillad da. Tydi'r dillad heb ddyddio gymaint a hynny, dim ond y dillad blodeuog falle - er, ma' rheini'n dod n&ocirc;l rwan. Dwi wrth fy modd efo blodau, lilis ydi'r ffefryn. </p>
<br />
</div>

<div class="panel">
<img src="images/gwen_charles.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Newch chi byth daflu dilledyn ar gadair?</h2>
<p><strong>Gwen: </strong> O, byth! Mi faswn i'n meddwl bo' rhywbeth yn bod efo mi os faswn i'n gwneud hynny.</p>
<br /><br />
</div>

<div class="panel"><img src="images/gwen_diamante.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> A dyma'r ffrog y gwisgoch chi i gwrdd &acirc; Lady Thatcher? </h2>
<p><strong>Gwen: </strong> Ffrog un lawes gyda deiamwntau ar y blaen ydi hon. Mae hi dal yn y plastig y d&ocirc;th hi n&ocirc;l ynddo ar &ocirc;l cael ei gwisgo. Glanhawyr y teulu brenhinol oeddan nhw. Y tro dwetha' i mi ei gwisgo hi oedd pan fues i'n Llundain i'r opera. Ma' hon yn esgus i wisgo deiamwntau. Pan o'n i'n mynd allan i'r palas odd y camer&acirc;u ym mhobman gyda'r ffrog hon. </p>
</div>

<div class="panel"><img src="images/gwen_generic.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Oedd yna bwysau arnoch chi i wisgo'n smart?</h2>
<p><strong>Gwen: </strong> O'n i ddim i fod i wisgo'n fwy smart na beth fyddwn i'n ei wneud yn arferol. Mi faswn i'n cael cyngor weithiau fel "Well, I wouldn't wear that if I were you. No, she won't like it", felly mi fyddwn i'n mynd i newid wedyn a gwisgo i lawr. </p>
</div>

<div class="panel"><img src="images/gwen_het.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Mae gennych chi lwyth o hetiau?</h2>
<p><strong>Gwen: </strong> Ma' cael het yn gorffen gwisg a ma' cael het ddramatig yn werth y byd. Nes i wisgo het goch un tro i fynd i Abaty Westminster a mi oedd pawb yn fy nghanlyn i gyda'r het goch yma. Ond, yn siomedig iawn nath pawb sylwi bod Dame Shirley Porter yn gwisgo'r un het, felly nath pawb ddechrau ei chanlyn hi yn lle fy nghanlyn i! Ond tydi hynny ddim yn ddrwg mewn gwirionedd i gael yr un het a Dame Shirley Porter ond mi faswn i 'di licio cael ei harian hi!</p>
</div>

<div class="panel"><img src="images/gwen_generic7.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="*" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> O le ydach chi'n cael eich dillad chi felly?</h2>
<p><strong>Gwen: </strong> Dwi'm yn meddwl y dylech chi rannu'r gyfrinach yna gyda neb. Dwi'n meddwl bo' hynny'n beth pwysig. Tydach chi ddim yn dweud dwi 'di prynu yn y siop yma ac yn y siop arall, ma' hynny'n gyfrinach. Ella base rhywun yn mynd a phrynu yr un peth felly ma' hynny'n gyfrinach mawr a fydda i byth yn dweud wrth neb lle fydda i'n mynd i siopa. </p>
</div>

<div class="panel">
<p><strong>Gwen ar ddillad...</strong><br />Dwi'n meddwl bod eich cymeriad chi yn eich dillad chi a falle bod dillad yn rhoi cymeriad i chi hefyd.</p>
</div>

<div id="indextx">
<ul>
<li>CWPWRDD DILLAD</li>
<!--li>Bob nos Fawrth 21:00</li-->
</ul>
</div>

<!--<div id="indextx">
<strong>CWPWRDD DILLAD</strong><br />
Cyfres yn dychwelyd nos Wener 2 Tachwedd 20:25
</div>-->


<script src="http://www.google-analytics.com/urchin.js" type="text/javascript">
</script>
<script type="text/javascript">
_uacct = "UA-2122504-2";
urchinTracker();
</script>


</div>


</div>


</body>
</html>

