Cwpwrdd Dillad: Gwen Siôn
Gwen Sion
Gwen Sion
Gwen Sion
Gwen Sion

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Gwen Siôn yn gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus ac wedi symud yn ddiweddar o Gaerdydd i Gwm y Glo. Fel merch fach fe fuodd yn dawnsio ballet, thema sy’n parhau yn amlwg yn ei chwpwrdd dillad.

Gwen Sion

Beth sydd wedi dylanwadu ar dy steil di?

O'n i’n dawnsio lot, tan o'n i tua 18, ac mae gwisgoedd dawnsio wedi cael dylanwad ar be dwi’n licio wisgo rwan. Dwi’n licio petha sy’n ffitio’n iawn a hefyd y defnyddiau gwahanol sy’n cael eu defnyddio, y satin, silk, a’r netting. Ma’ nhw i gyd yn dal yn llygaid i os dwi’n siopa, y ffordd ma nhw’n edrych, y math o silhouette ti’n ei gael hefo’r math yna o ddefnyddiau.

Pryd ti mewn stiwdio ddawns ti’n gorfod edrych mewn drych yn aml, a dwi’n meddwl fod hynny, er mod i’n berson eitha’ swil, dwi’n reit hyderus wrth edrych arnaf fy hun achos dwi wedi arfer gwneud hynny drwy ddawnsio. Ti yn gorfod neud yn siŵr fod dy fraich di yn y lle iawn ac unwaith ma’r sgidia dawnsio ‘na ‘mlaen ti yn dianc i rywla arall sydd yn le neis iawn i fod.


Gwen Sion

Mae gen ti gasgliad sylweddol o gylchgronau, wyt ti wastad wedi eu darllen nhw a bod yn ymwybodol o ffasiwn?

I fi, Vogue ydy'r Beibl ffasiwn, y man cychwyn, ac wedyn ti’n gallu mynd ag addasu hynny i’r stryd fawr. Ma gen i steil reit syml dwi’n meddwl. Achos mod i’n eitha’ bach dwi’n licio gwisgo petha sy’n ffitio fi’n iawn. Dwi ddim yn gwisgo lot o batrymau, dwi’n gwisgo lot o liwia mewn blocia. Dwi hefyd yn gwisgo lot o ffrogia' os dwi allan, mi faswn ni’n dewis ffrog yn hytrach na dim byd arall.


Gwen Sion

Wyt ti’n meddwl ers i ti symud o’r ddinas i gefn gwlad bo chdi wedi gorfod newid neu gyfaddawdu o ran dy steil di?

Na ddim o gwbl. Falla fod hynny yn swnio’n reit od a ninna' yn byw yn ganol cefn gwlad ond dwi ddim yn rili weld o fel’na. Er bod y lle yma mor wyllt dwi’n meddwl fod yna gymaint o harddwch yma a ma’r tirwedd mor ddel mae o dal run peth. Ma’r dillad dwi’n wisgo, hwyrach eu bod nhw’n eitha’ glamorous a dwi ddim yn cael cymaint â hynny o gyfle i wisgo nhw yn fa’ma, ond dwi ddim yn berson sy’n mynd i roi nhw i gyd mewn sach a dechra gwisgo jeans achos dwi ddim di newid, dwi dal isho edrych fel’na. A dwi ddim yn poeni be ma pobol yn feddwl cymaint â hynny.


Gwen Sion

Beth ydy dy steil di?

I ryw radda' dwi di dechra ffendio’n steil rŵan, dwi 'di rhoi mewn i’r ffaith mod i yn hogan sy’n licio petha reit feminine a dwi ddim yn trio cwffio hynna cymaint ddim mwy. Dwi yn licio defnydd neis fel satin a silk a dwi wir yn licio cashmere a sut mae o’n teimlo, i mi ma’ dillad yn gorfod teimlo’n neis yn ogystal ag edrych yn neis.


Gwen Sion

Mae yna amrywiaeth mawr o liwia yma ac ma’r glas yna yn edrych yn ffantastig hefo dy lygaid di.

Tydi hwn ddim yn liw y baswn ni fel arfer yn mynd amdano fo, ond nes i drio fo ‘mlaen ag o'n i yn licio’r lliw, felly mi nes i brynu o i fynd i briodas yn ffrind.


Gwen Sion

Mae hon yn ffrog fendigedig.

Mae’r ffrog yma’n debyg i rywbeth Sarah Jessica Parker neu rywun fel ‘na. Ma’ hon yn un sy’n dod a lot o atgofion hapus i mi achos hon nes i wisgo ar yn hen night i’n ddiweddar achos dwi newydd briodi, a dwi wedi i gwisgo hi i gwpwl o briodasau ffrindia'. Ma’ hon yn good-time-dress. O’n i’n gwybod pryd nes i phrynu hi ei bod hi’n mynd i fod yn ffrog hwyl. Fasa ti ddim yn peidio gallu cael hwyl yn hon. Gobeithio bydd hon o hyd yn ffrog hapus.


Gwen Sion

Oes yna ddisgwyliadau yn dy swydd di i wisgo mewn ffordd arbennig?

Dwi’n meddwl fod hynna yn ddiddorol, y ffordd ma pobol yn gwisgo ar gyfer eu gwaith. Does ganddo’ ni ddim rheol o gwbl yn y gwaith o ran be da ni yn cael gwisgo, ond dwi’n teimlo’n lot fwy hyderus a lot mwy yn y zone os dwi yn gwisgo yn smart. Mae o yn fusnes sy’n amlwg yn ymdrin lot hefo delwedd, felly mae first impressions yn bwysig. Dwi’n meddwl ers i mi raddio dwi wedi bod yn sicr ei bod hi’n bwysig i wisgo am y job ti isho yn hytrach nag y job sydd gen ti ar y pryd. Mae o yn dangos bod ti yn cymryd dy yrfa o ddifri, dwi’n gobeithio i fod o yn un ffordd o anelu yn uwch yn dy swydd.


Gwen Sion

Ma siâp y ffrog yma yn atgoffa rhywun o’r 50au tydi?

Dwi’n meddwl fod steil y 50au yn gweddu i’n siâp i. Os wyt ti’n reit fach ti’n gorfod bod yn ofalus peidio gwisgo betha’ sydd ddim yn ffitio ti’n iawn neu mae o yn dy foddi di. Hefo hwn mae yna detail ar y top ac wedyn yn disgyn i lawr yn neis o’r wast ond tydi o ddim yn liw y baswn ni fel arfer yn ddewis, ond yma mae o’n gweithio’n dda dwi’n meddwl.


Gwen Sion

Mae gen ti dipyn o ddillad hefo smotiau arnyn nhw.

Eto mae hwn yn elfen o steil y 1950au yna, tydi o ddim yn batrwm sydd yn rhy brysur, mae o jyst yn rhywbeth ychwanegol sydd yn gweithio hefo’r lliwia’ eraill.


Gwen Sion

Be mae dillad yn ei olygu i ti?

Dwi’m yn meddwl mod i yn obsesiynol hefo dillad... Mae gen i rywfaint o bersbectif a dwi yn gwbod na dillad ydy dillad, ond dwi’n meddwl i bod nhw yn cyfoethogi dy fywyd di. Dwi’n meddwl os ydy dillad yn rhoi rhywbeth i dy fywyd di yna mae’n bwysig i ti wneud hynna. Mae yna rai pobl sy’n mynd i feddwl mod i’n gwisgo fyny bach gormod,ond mae o’n neud fi’n hapus so dwi’n mynd i gario 'mlaen i neud o. Rho ddwy flynedd arall i mi a hwyrach fyddai wedi newid fy meddwl, ond mi wnâi aros yn fy nillad ffansi am rwan.