Cwpwrdd Dillad: Gwenfudd James
Gwenfudd James
Gwenfudd James
Gwenfudd James
Gwenfudd James

"Dyw'r dillad ddim jyst yn sefyll yna'n gwneud dim byd. Ma' nhw'n gallu bod yn bersonau bach fel petai. Allwch chi siarad gyda nhw a dyw nhw ddim yn siarad nôl ond ma' nhw'n gwmni."

Dechreuodd Gwenfudd James gasglu dillad fel hobi. Dros y blynyddoedd, mae'r dillad wedi tyfu a thyfu.

Gwenfudd James

Nia: Oes gennych chi hoff eitem?

Gwenfudd: O! Chi wedi dala fi nawr. Ma' 'da fi lot. Alla i ddim a phigo un mas o'r llall, fydde fe ddim yn deg ar y dillad felly allai'm rhoi ateb i'r cwestiwn yna.

Gwenfudd James

Nia: Pryd ddechreuoch chi gasglu'r holl ddillad?

Gwenfudd: Ddechreuodd e gyda Mam yn cadw holl ddillad Mamgu a fi sydd wedi eu hetifeddu. Ma' rhagor o ddillad gyda fi i ddod eto.

Nia: A lle dach chi'n mynd i'w rhoi nhw i gyd?

Gwenfudd: Wel, gyda'r holl ddillad eraill wrth gwrs. Ma' digon o le. So chi'n meddwl Nia?!

Gwenfudd James

Nia: Fedrai ddim credu faint o ddillad sydd gan Gwenfudd. Dwi erioed wedi gweld y fath beth yn fy mywyd. Siwtiau, ffrogiau, hetiau, mae'n anhygoel. Mae'n amlwg bod Gwenfudd yn angerddol iawn am ei dillad hi ond ddim am y ffordd ma' hi'n ei storio nhw! Mae yna hefyd batrymau a chylchgronau yma sy'n ymwneud â ffasiwn!

Gwenfudd James

Nia: Sdim posib agor rhai o'r drysau fyny grisie gan bod gymaint o ddillad yn yr ystafelloedd!

Gwenfudd: Ie, fi wedi trio. Wy'n eu rhoi nhw'n deidi bob hyn a hyn!

Gwenfudd James

Nia: Mae ychydig mwy o drefn yn un o'r ystafelloedd- mae yna ddillad wedi eu gosod ar hangers ynddi!

Gwenfudd: Yr emporiwm! Fues i'n gweithio yn Theatr Felin Fach fel meistres y gwisgoedd a ddes i wybod am lot o bethe pan fues i fan yna. Roeddwn i'n arfer hurio dillad allan bryd hynny a wy'n dal i hurio peth gwisgoedd mas nawr ond ddim cymaint ag o'n i'n ei arfer. Ma' gen i un cwsmer sy'n dod yn rheolaidd a ma' fe'n gwneud clorie i nofelau. Ma' fe'n hurio dillad a modelau a'n tynnu eu lluniau ar gyfer gwahanol glorie. Wy'n mynd fewn i siop lyfrau wedyn a wy'n gweud fy ngwisgoedd i yw rheini a ma' pobl yn edrych yn dwp arna i!


Nia: Pan dach chi'n hurio'r dillad allan, ydach chi' gwneud busnes bach neis allan o hynny?

Gwenfudd: Nadw! Wy'n anobeithiol! Dyw pobl ddim yn hoffi talu i gael eu benthyg nhw. Ma' cael eu glanhau yn costio tipyn cofiwch - bron beth ma' rhywun yn fy nhalu i'w hurio nhw.

Gwenfudd James

Nia: Felly ydach chi bron yn teimlo bo' chi ddim eisiau i neb arall eu gwisgo nhw?

Gwenfudd: O na, fydddwn i ddim yn dweud hynny. Dim ond eu bod nhw'n edrych ar eu hôl nhw. Weithiau, mae'r dillad yn cael eu dychwelyd mewn bag bin sy'n mynd dan fy nghroen i achos dim sbwriel ydyn nhw, ma' nhw'n ddillad neis.


Gwenfudd James

Nia: Ydach chi'n hoffi ryw gyfnod ffasiwn arbennig?

Gwenfudd: O'n i'n blentyn yn y 40au felly'n hoff iawn o'r cyfnod hwnnw. Dwi'n meddwl ei fod yn deillio o'r ffaith bod fy chwaer gyda llawer o ddillad neis bryd hynny hefyd.

Gwenfudd James

Gwenfudd: Mae'r ffrog binc yma'n dod o ardal Salem ac odd y fenyw ges i hi ganddi am ei thowlu mas ond wedes i na, peidiwch oherwydd ma' hi'n ffrog briodas wreiddiol o'r 40au. Mae manylion y 40au mor glir ynddi. A bydden i'n meddwl y bydde'r briodferch wedi bod a bwnsied mawr o flodau gyda hi.

Gwenfudd James

Gwenfudd: Mae defnydd y ffrog yma'n ddefnydd Liberty o Lundain. Mae siâp 'Mrs Simpson' i'r ffrog yma.

Gwenfudd James

Gwenfudd: Gwisg ferlota ma' nhw'n galw hon a ma' 'na wasgod i fynd gyda hi ond ma' pobl yn ei hurio hi fel gwisg Fictorianaidd.

Gwenfudd ar ddillad...
Mae fy nwy ferch yn meddwl bod y dillad wedi mynd yn drech na fi ond wy ddim yn credu hynny. Wy ddim yn gwrando pan glywai hynny, fewn trwy un glust ac allan drwy'r llall yw hi bryd hynny. Wy ddim yn gwybod sut fydden i hebddyn nhw, fydden i ar goll. Bydde ddim gwerth byw falle. Wy'n meddwl y byd o'm gwisgoedd.

    CWPWRDD DILLAD

  • Cyfres yn dychwelyd nos Fercher 3 Medi 20:25