Cwpwrdd Dillad: Gwenno Saunders
Gwenno Saunders
Gwenno Saunders
Gwenno Saunders
Gwenno Saunders

"Allwn i siarad am ddillad drwy'r dydd yn ddi-stop. Bysen i bron a dweud fy mod i'n mynd mor ecseited am ddillad ag ydw i am gerddoriaeth. Mewn ffordd hollol wahanol ond ma' jyst y wefr o ffeindio rhywbeth yn jyst anhygoel. Dyw e ddim yn hala fi i grio fel ma' gig yn weithie ond mae'n hala fi deimlo'n anhygoel pan wy 'n ffeindio rhywbeth. "

Nid yn unig cantores yw Gwenno ond ma' hi hefyd wedi bod yn ddawnswraig gyda River Dance ac yn fwy diweddar gyda Michael Flately a chriw Lord of the Dance.

Gwenno Saunders

Nia: Ydi'r dawnsio wedi dylanwadu ar dy steil dillad?

Gwenno: Wy'n credu fod y dawnsio gwyddeleg wedi cael dylanwad mawr arnai oherwydd mae'r ffrogiau ti'n gorfod eu gwisgo yn gywrain iawn a ti wastad yn gorfod cyrlio dy wallt i fynd ar y llwyfan. Felly os faswn i ddim yn dawnsio, mi fydde fy steil ffasiwn wedi troi mas yn hollol wahanol.

Gwenno Saunders

Nia: Cwpwrdd Dillad? Mae mwy fel ystafell ddillad!

Gwenno: Ydi, mae'r dillad wedi cymryd yr ystafell drosodd erbyn hyn!

Gwenno Saunders

Nia: Y peth cyntaf sy'n fy nharo i ydi'r holl fagiau, sgarffiau a hetiau sy'n hongian ar y wal.

Gwenno: Wel, o'n i ddim yn gallu dod o hyd iddyn nhw os nad oeddwn nhw wedi'u hongian lan, ac o'n i'n meddwl eu bod nhw'n edrych yn eitha' neis. Wrth eu cael fyny ar y wal, ma' nhw hefyd yn rhoi bach mwy o ysbrydoliaeth i ti pan ti'n dod fewn i ddewis dillad.

Gwenno Saunders

Nia: Ar yr olwg gyntaf, mae'r dilledyn yma'n edrych fel stribed o ddefnydd!

Gwenno: Mae hwn yn un dwi wedi'i wneud fy hun a wy'n gwisgo hwn gyda jîns. Mae'n mynd rownd y top fel 'halterneck'. Sai'n gwybod lle ges i'r syniad. Dwi'n caru'r lliw hefyd.

Gwenno Saunders

Gwenno: Dyma'r 'dreaded top'...es i mas i glwb comedi ynddi a fe gwmpes i lawr y grishie a thorri fy nannedd felly ers hynny dwi byth wedi'i gwisgo. Dwi wir yn ei hoffi ond wy ddim yn gallu'i gwisgo oherwydd bo' fi wedi cael anlwc gyda hi.

Gwenno Saunders

Gwenno: Dwi ddim yn gwisgo dillad dwi wedi eu gwneud mwyach achos o'n i mond yn gwneud topiau bach oedd yn cuddio prin dim!


Gwenno Saunders

Nia: Tydi o ddim yn deimlad 'ych-a-fi' gwisgo sgidie rhywun arall?

Gwenno: Na. O'n i'n arfer meddwl fel 'na hefyd ond dwi jyst wedi arfer ei wneud e nawr. Dwi ddim yn eu gwisgo heb sanau beth bynnag. Os ti'n siopa ar gyfer dillad 'vintage', alli di'm bod fel 'na oherwydd yr holl bwynt ydi bod rhywun arall wedi eu gwisgo nhw cyn ti a bod hanes iddynt. Ges i rhain yn PDSA am £2. Ma' nhw'n gret oherwydd ma' nhw'n rhai go iawn o'r 70au.

Gwenno Saunders

Nia: Beth am dy ffrogiau?

Gwenno: Y ffrog ddu yma yw fy ffefryn oherwydd mai Mamgu wnaeth hi yn y 40au. Wy'n cofio ei gweld hi gan Mam a meddwl ma' hwnna'n edrych yn rili gwael ond wedyn pan ti'n rhoi e mlaen ma'n rili gweddu, mae'n gorwedd yn neis ac os ti'n cael 'diwrnod tew', ti'n dal i edrych yn neis yn ei gwisgo hi. Mae'n lyfli.

Nia: Sut fyddet ti'n disgrifio dy steil di felly?

Gwenno: Y peth pwysica' yw 'mod i'n gyfforddus gyda'r corff sy' gen i. Dwi'n gwybod beth sy'n fy siwtio a beth sy' ddim. Unrhyw beth 'tailored' sy'n gweddu ac unrhyw beth merchetaidd rili.

*

Nia: Ma' hon mor ddramatig!

Gwenno: Ma' hon yn gret. Ges i hon o siop ym Mhwllheli. Ffrog 'showgirl' yw hi a dwi'n dueddol o wisgo hon dros jîns i gig acwstig gyda phiano, er enghraifft.

*

Gwenno: Un peth wy'n caru am fy nillad yw eu bod nhw'n rhoi math arbennig o deimlad i mi pan wy'n eu gwisgo. Mae'n rhoi teimlad i ti o ba fath o ddiwrnod ti'n mynd i'w gael. Er enghraifft, gyda'r ffrog hon, fydd dy ddiwrnod di ddim yn un normal! Wy'n dychmygu fy hun yn rhedeg trwy'r gwair yn hon yn y 70au! Ma' hwnna'n rhan mawr o ffasiwn i mi hefyd sef creu rhyw fath o ddihangfa gwahanol yn ddibynnol ar beth wy'n ei wisgo.

Gwenno ar ddillad...
Achos bo' fi 'di dod o hyd i'r ffordd dwi ishe gwisgo, ma' fel ffeindio dy lais di am y tro cyntaf a ma' dillad bendant yn cynrychioli pwy ydw i.

    CWPWRDD DILLAD