



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Gwilym yn ddyluniwr ifanc sy'n hoff o gael hwyl gyda'i steil.
Wyt ti'n mwynhau'r broses o ddewis dillad gwahanol?
Dwi'n hoffi mynd mas i siopa a phrynu pethau newydd a rhoi mathau gwahanol o ddillad gyda'i gilydd, lliwiau gwahanol, patrymau gwahanol - pethau fel'na. Pethau ma' rhai pobl yn meddwl sydd ddim yn mynd hefo'i gilydd, dwi'n hoffi eu rhoi nhw gyda'i gilydd. Os ydyn nhw'n mynd gyda'i gilydd, brilliant, os dydy nhw ddim, dwi'n eu taflu dros fy ysgwydd a symud 'mlaen i'r edrychiad nesa.
O le ddaeth dy ddiddordeb di mewn ffasiwn?
Dwi'n gweithio fel graphic designer a thrwy hynny a diddordeb mewn graphic design, mae'n dylanwadu ar beth dwi'n ei wisgo. Dwi'n hoffi crysau-t clasurol fel y rhai I ♥ NY - mae'n classic. Ma' gen i hefyd grys-t y Rolling Stones gyda'r gwefus a'r tafod yn dod mas sydd yn eitha classic. Dwi'n gweithio i gwmni marchnata felly mae'n rhaid i mi wisgo lawr tipyn yn y gwaith - dwi'n gwisgo crysau, trowsus du a sgidiau. Lliwiau fel du, brown a gwyn - eitha' niwtral. Rhywbeth casual ond smart, wedyn pan dwi' mynd mas ma' petha'n newid! Ma'r gwallt yn mynd yn hiwj a ma'r lliwia' a'r sgarffiau yn dod mas. Mae o fel Jekyll and Hide!
Be sy'n wahanol yn dy edrychiad di?
Dwi'n gwisgo llawer o liw a llawer o accessories fel modrwya', breichledau a sgarffiau ac ati. Dwi'n methu mynd mas o'r tŷ heb wisgo rhywbeth o amgylch fy ngarddwn - dwi'n teimlo'n noeth heb rywbeth am fy ngarddwn!
Lle wyt ti'n cael dy fodrwyau i gyd?
Mi wnes i brynu'r un penglog yma oddi ar e-bay a ma' gen i un mawr gwyrdd sy'n perthyn i nghariad i a dwi wedi ei dwyn hi! Dwi fel pioden, dwi'n hoffi petha' sy'n sgleinio!
Sut fath o ddillad fyddi di'n eu gwisgo ar noson allan?
Ar noson mas mi fyddai'n gwisgo rhywbeth fel crys lliwgar a hefyd rhywbeth fel trowsus coch. Sa i'n gwisgo'r trowsus llawer, ond pan ma' nhw yn dod mas, ma' nhw'n rywbeth reit epig rili!
Mi wyt ti'n hoff iawn o gerddoriaeth. Wyt ti'n credu fod cerddoriaeth wedi dylanwadu ar dy steil di o gwbl?
Sa' i'n hoffi cerddoriaeth fodern i fod yn onest, ma' cerddoriaeth 70au a'r 80au wedi dylanwadu mwy arna'i. Stwff fel glam-rock David Bowie a T-Rex hyd at stwff yr 80au fel Bon Jovi, Aerosmith, Guns N' Roses, Cult, The Cure a phetha' fel 'na. Ma'r ffordd oedden nhw'n gwisgo wedi dylanwadu arna'i hefyd, y gwallt mawr a'r jîns tenau, sgarffiau ac ati - flamboyant!
Oes yna un person wyt ti'n meddwl sydd fel ryw fath o eicon steil i chdi?
Dwi'n cofio pan o'n i'n gweithio mewn hen job mod i wedi gorfod sganio llun o Rod Stewart, a mi nes i brintio fe mas a'i roi o ar y wal yn y swyddfa achos ei fod o'n edrych yn amazing. Roedd ei wallt o'n massive! A ro'n i'n edrych arno fo a meddwl, dyna ni'r targed!
Be ydy ymateb pobl eraill pan ma' nhw'n gweld dy steil di?
Y peth cynta' ma nhw'n ei weld ydy'r gwallt. Ma' llawer o ferched yn dod lan ata'i a dweud, "dwi'n lyfo gwallt ti", ond ma' yna lot o fechgyn yn dod lan ata'i a dweud mod i'n edrych fel Russell Brand. Mae o'n rhywbeth sy'n sefyll mas. Dydy'n ffrindiau fi byth yn cael sioc wrth weld be dwi'n ei wisgo nawr. Pan nes i orffen coleg roedd y ngwallt i'n ddu, ddu fel cigfran a mi ddywedodd Mam gu wrtha'i, "Helo Gwilym. Gwallt neis. Ti'n edrych fel Cher!"
Mae gen ti gasgliad da o esgidiau yma. Wyt ti'n hoffi prynu 'sgidiau?
Dwi'n prynu sgidia drwy'r amser - dwi'n credu fod sgidia'n gwneud i outfit edrych yn rili da. Be dwi'n hoffi am y boots du yma ydy'r detail. Dwi'n credu, achos fy mod i yn ddyluniwr, fod pethe bach yn sefyll mas i mi, fel y ffordd mae'r lastig ar rain fel mellten a'r patrwm ar y blaen. Hefyd yn y golau ma nhw'n troi yn efydd sy'n rili cŵl.
Ma'r bŵts coch a gwyn yma'n grêt. O le ges di rhain?
Boxing boots ydy rhain. Nes i gael nhw ar wefan Puma. Da chi ddim yn gallu eu cael nhw mewn siop, felly mi oedd yn rhaid i mi fynd ar y we - ma nhw'n wicked!
Pa rai o'r esgidiau yma ydy dy hoff bâr di?
Y boots brown yma ydy'r sgidia' gorau yn y byd dwi erioed wedi eu prynu. Dwi wedi eu cael nhw ers blynyddoedd a ma nhw'n wrecked. Ma' nhw bron a mynd trwyddo yn y gwaelod, ond pan â nhw drwyddo, dwi am roi beermat yna fel cowboy go iawn! Ma' nhw'n brilliant. Nes i dalu £45 am rain a ma' nhw mor gyfforddus - yn sgidia gora fi!
Wyt ti'n meddwl fod dy steil di yn rhan o dy bersonoliaeth di?
Be dwi'n ei wisgo ydw i. Ma'n dangos ym mhersonoliaeth i - lliwgar, eccentric, ond eitha' cyfeillgar, neis a bubbly - dwi'n caru bywyd rili!
- CWPWRDD DILLAD