Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Gwion Evans
CWPWRDD DILLAD: Jill Rowlands | Gwion Evans | Elen Elias
Gwion Evans
Gwion Evans
Gwion Evans
Gwion Evans

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Gwion Evans

Be oeddet ti'n arfer ei wisgo yn dy hen swydd?

Ro'n i'n gweithio ym maes Llywodraeth Leol i Gyngor Abertawe. Roedd e'n rhwydd iawn dewis be i wisgo; sef crys a thei, doedd dim ishe siwt a doedd e ddim mor ffurfiol â hynny. Bob hyn a hyn fe fyddai siwt yn addas, ond o ddydd i ddydd, crys a thei - rhwydd iawn.

Gwion Evans

Be ydy dy swydd newydd di?

Dwi'n swyddog cyswllt y Cynulliad i'r Comisiynydd Plant yng Nghymru, felly mewn ffordd, dwi'n hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn amddiffyn eu buddiannau nhw o fewn y broses wleidyddol. Felly dwi'n siarad gyda gwleidyddion, pobl sy'n llunio polisïau a gweision sifil.

Gwion Evans

Wyt ti'n gwisgo'n wahanol pan ti'n mynd allan i gyfarfod y plant a phobl ifanc? Wyt ti'n gorfod gwisgo'n ffurfiol ac yn anffurfiol ar wahanol adegau?

Ydw. Plant a phobl ifanc sydd yn bwydo a chyfeirio'r maes y mae'r Comisiynydd yn gweithio ynddo ac yn dewis beth yw'r blaenoriaethau. O safbwynt fy ngwaith i yn y swyddfa yn Abertawe, ma' nhw wedi dweud wrtha'i nad ydyn nhw eisiau'r swyddfa fod yn le mae pobl yn gwisgo siwt a thei am ei fod yn creu rhyw fath o barrier. Felly ma' ngwisg i'n ddeublyg mewn ffordd.

Gwion Evans

Eleanor Gardener: Wyt ti'n mwynhau'r profiad o siopa?

Does dim ots 'da fi siopa. Ond, o ran dillad gwaith dwi'n ei ffeindio'n anoddach achos mod i'n gyndyn o wario'n arian ar ddillad gwaith oherwydd ma' pethe gwell 'da fi wario'n arian arnyn nhw. Ond dwi yn eithaf indecisive mewn ffordd, dwi'n ansicr wrth feddwl 'ydy hwn tu allan i'n 'comfort zone' i?'

Gwion Evans

Eleanor: Wyt ti'n ei chael hi'n anodd cael dillad sy'n dy ffitio di'n iawn?

Ydw. Mae'n hit and miss arnai yn aml iawn a dwi'n dueddol o fod yn ddibynnol ar enw, cwmni neu siop arbennig.

Gwion Evans

Eleanor: Mae gan Gwion ffrâm eitha' bach a does yna ddim cymaint o ddewis i ddynion sydd yn fyr. Mae'n anodd cael siaced i ffitio'n dwt ac yn daclus. Ond ma' gan Gwion siâp corff triongl –ysgwyddau llydan ac yn llai ar y gwaelod.

Gwion Evans

Eleanor: Mae llawer o ddillad bob dydd Gwion wedi dyddio, a does ganddo ddim llawer o ddillad smart yn ei gwpwrdd. Mae ganddo siwmperi o Tesco, ddim y rhai gorau, crysau sydd wedi mynd yn flêr, dim llawer o grysau ffurfiol a does ganddo ddim un blazer!

Mae gan Gwion griw da o ffrindiau a ma' hogiau'n dueddol o ddilyn ei gilydd fel defaid gyda ffasiwn. Ma' pobl yn dueddol o wneud hynny gan eu bod nhw'n teimlo'n saffach yn be' ma' nhw'n ei wisgo. Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i Gwion dorri i ffwrdd a dechrau datblygu steil newydd.

Gwion Evans

Eleanor: Dwi'n hoffi'r lliw yma, mae'r charcoal yn edrych yn grêt ar Gwion! Ma'r siwt yn un slim fitted, ac felly'n dangos siâp y corff yn dda a ma' hyd y siaced yma'n fyrrach ac felly'n helpu i wneud y coesau edrych yn hirach. Mae'r trowsus yn flat fronted, a rheiny ydy'r gorau i Gwion gan y byddai pleat yn y ffrynt yn gwneud iddo edrych yn fwy.

Gwion Evans

Nia: Eleanor beth fydda' dy 'top-tips' di i ddynion sydd am wella'u delwedd i gyd-fynd a'u statws?

Eleanor:

  • Dewiswch grys sydd â lliwiau tebyg i'ch tei
  • I edrych yn dalach, gwisgwch yr un lliw ar y top ac ar y gwaelod
  • Esgidiau brown, belt brown. Esgidiau du, belt du
  • Rhowch drefn ar eich cwpwrdd dillad - cwpwrdd trefnus, bywyd trefnus!

Gwion Evans

Nia: Sut brofiad oedd cael Eleanor yn dweud wrtha ti beth i'w wisgo?

Ges i syndod bod Eleanor mor onest! Ond dwi'n credu fod e'n bwysig ei bod hi'n gallu bod yn onest 'hefo fi, a finnau wedyn yn gallu bod yn onest gyda hi. Yn y pen draw dwi'n credu mai hi sy'n iawn a ma' hi wedi ngorfodi i wynebu rhyw wirionedd anghyfforddus ynglŷn â'r angen i symud 'mlaen a thyfu lan. Fe allai gyrraedd rhyw bwynt dwi'n credu, ond falle un cam ar y tro fydd e. Ymgyfarwyddo; proses nid digwyddiad!

  • CWPWRDD DILLAD