



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Sut fyddet ti’n disgrifio dy steil di?
Dwi’n meddwl fod gen i natur reit hapus, a bod 'y nillad i 'run fath, yn llachar hefo lliw yn bob man. Ma’ gennai steil fy hun, ond dwi hefyd yn dilyn ffasiwn. Fedrai ddim helpu hynny achos dwi’n i licio fo’ gymaint, mae o mor ddiddorol.
Oes yna rywbeth yn dylanwadu ar y ffordd wyt ti’n gwisgo?
Mae’n anoddach bod yn wahanol mewn lle gwledig, does ‘na ddim cymaint ar gael a ti ddim yn gweld gymaint o stwff gwahanol. Dros y blynyddoedd dwi’n poeni llai am be ma’ pobl yn meddwl ohono’ i a dwi just yn gwisgo be’ bynnag dwi isio. Dwi’n mwynhau rhoi stwff at ei gilydd fel gwisgo ffrog fel sgert, neu dop fel ffrog. Weithia’ dwi’n lapio petha’ rownd neu’n eu clymu nhw mewn ffordd wahanol.
Ti hefyd yn creu ffasiwn dy hun yn dwyt?
Dwi’n gwneud gemwaith ac yn gwneud pymps. Gyda’r pymps, dwi’n eu prynu nhw’n blaen ac yn dylunio arnyn nhw, gneud patrymau ac ati a dwi’n gneud tipyn o ddillad hefyd. Dwi’n licio patrymau achos ma' nhw’n edrych yn ddiddorol ar bethau plaen. Pan 'dwi’n gwneud gemwaith mae’r patrymau’n helpu wrth eu rhoi at ei gilydd ac yn gwneud siapiau diddorol. Da’n ni’n gwerthu mewn marchnad yn Cathays. Ma’ hi’n neis cael lle i werthu petha’ yng Nghaerdydd achos does ‘na ddim cymaint o lefydd i fynd i gael stwff gwahanol yma.
Be ydy hanes y crysau-t yma?
Nes i brynu’r crys-t gwyrdd yma pan o’n i’n Brisbane. Dwi’n i hoffi o achos fod gennai rhywbeth am drionglau. Mi feddyliais i wedyn mod i isho gneud crysau-t fy hun a’r crys glas yma oedd y crys-t cynta’ nes i. Ma' gwaith argraffu’n gwneud iddo fo swnio’n grand achos be dwi’n ‘neud ydy torri tatan i mewn i siâp triongl a’i stampio gyda phaent ffabrig ac wedyn gwnïo’r labeli tu mewn ar y cefn.
Ma’r leggings yma’n grêt ac mor lliwgar!
Dwi’n licio'r rhain oherwydd y patrymau geometrig. Ro’n i isio rhywbeth gwahanol i fynd hefo ffrog werdd o’n i wedi ei phrynu ar stondin farchnad fy ffrind i fynd i barti. Roedd y ffrog yma ganddi ar y stondin a rodd ei mam wedi dweud wrthi, ‘you’ll never sell that - whatever you get for it I’ll give you the same!’ Mi dalais i ryw saith bunt amdani a ro’n i’n meddwl ei bod hi’n wych!
Mae’r ffrog yma’n fendigedig, o le ges di hon?
Hen ffrog Nain nes i achub o ryw fin yn rhywle ydy hon. Dwi’n rili licio hi o achos y lliw a ma’ hi’n ffitio’n neis. Ma' hi mewn ffasiwn ar hyn o bryd hefyd achos i fod hi’n reit nautical a phan 'dwi’n ei gwisgo hi dwi’n teimlo’n reit sentimental.
Er dy fod di’n gweithio mewn marchnad, wyt ti’n siopa yno hefyd?
Yndw, dyna’r lle gora’ i ffeindio petha’ gwahanol na s’gen neb arall. Mae’r gardigan yma’n dod o San Francisco a mi brynais o mewn warws mawr oedd yn llawn o bob math o ddillad, rhes ar ôl rhes o hen ddillad. Ma’ nhw bron yn antiques ma nhw mor hen!
Ydy dy steil di’n newid o un diwrnod i’r llall?
Dwi’n ffeindio hi’n anodd disgrifio’n steil i achos mae o’n newid reit aml. Un diwrnod nai wisgo petha’ newydd dydy pobl heb weld o’r blaen a lliwiau hollol lachar, wedyn nai wisgo du i gyd!
- Bob nos Fercher 20:25