



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Hannah Daniel yn ferch sy'n chwilota ym marchnadoedd Llundain.
Oes yna un dilledyn sy'n sefyll allan yn dy gwpwrdd di?
Ma' gen i bâr o drowsus coch check a dwi'n edrych bach fel clown ynddyn nhw. Ond ma' nhw'n rhoi cymaint o bleser i mi a dwi wastad yn cael hwyl pan dwi'n eu gwisgo nhw.
Sut fydda ti'n disgrifio dy steil di?
Dwi'n ffeindio fo'n eitha' anodd i roi fy mys ar be yn union ydy'n steil i achos ma'n newid o ddydd i ddydd. Ma' nghwpwrdd i'n gymaint o gymysgedd o ddillad. Ma' gen i lot o ddenim, lot o ledr a ma' jîns yn hanfodol. Dwi'n licio steil yr 80au, y 'sgwyddau mawr, shoulder pads, lliwiau llachar, petha' fel 'na. Be dwi'n licio neud ydy cymryd syniadau o'r catwalk a rhoi 'chydig o'n steil yn hun iddyn nhw achos dwi ddim y gallu fforddio petha' designer, felly ma'n neis gallu cymryd syniadau a wedyn trio gneud yr un peth hefo fy syniada' yn hun.
Lle fyddi di'n mynd i siopa?
Dwi'n siopa lot yn ardal Brick Lane. Dwi'n byw yn Nwyrain Llundain a mi o'n i'n gweithio mewn tafarn yno. Ma yna lot o siopa ail law a siopa vintage yna a hefyd ma' marchnad Spitalfields lawr y ffordd. Bob dydd Sul ro'n i'n gweithio yn y dafarn ac mi oedden nhw'n rhoi flyers i mi fynd mas i'r marchnadoedd. Mi o'n i'n rhoi'r flyers yn y mag ac yn gwario fy nghyflog i gyd ar ddillad.
Ti'n cyflwyno'r rhaglen Garej ar S4C. Ydy hynny'n rhoi'r cyfle i chdi arbrofi hefo dy ddillad?
Ro'n i'n lwcus i ddeud y gwir achos fod Garej yn raglen am geir a gadgets, doedd yna ddim gofyn am wisg or-ferchetaidd achos dwi ddim yn gneud hynny'n dda iawn! Dwi'n cal y ngalw yn tomboy eitha' lot, felly ro'n i'n cael gwisgo jîns, lledr a bŵts lledr ar gyfer y rhaglen.
Ydy dillad yn ychydig o sbort a hwyl i ti?
Ma nhw'n gallu bod. Weithia' dwi'n anghofio'n hun yng nghanol siop ac yn gweld rhywbeth sy'n edrych yn grêt ar yr hanger, wedyn dwi'n dod a fo adre ag yn meddwl beth ar y ddaear dwi wedi ei brynu! Ma'r siwmper lachar yma'n un o rheiny. Dwi wedi gwisgo hwn o'r blaen, ond ma rhaid i mi fod mewn hwyliau da i wisgo hwn.
Mae gen ti hefyd dipyn o siacedi. Wyt ti'n hoff o ddillad sydd wedi eu teilwra?
Dwi'n tueddu i wisgo ychydig bach yn scryffi fel arfer ond weithia' ma'n neis gwisgo bach fwy smart a dwi'n credu mai drwy wisgo siaced dwi'n neud e. Ro'n i'n gwisgo'r siaced ddu yma i fynd i'r llyfrgell tra o'n i'n adolygu gyda sbectol fawr gan eu bod nhw'n neud i mi deimlo'n glyfar!
Mi wyt ti'n hoff iawn o siopa mewn siopau ail law yn dwyt?
Ges i'r siaced ledr yma o Fangor am £4 mewn siop elusen. Dwi'n ffeindio bod siopa mewn siop elusen yn bach o gystadleuaeth - trio ffeindio bargen a ffeindio rhywbeth unigryw does neb arall yn ei wisgo.
Ma'r gardigan yma'n edrych fel rhywbeth o'r 80au. O le ges di hon?
Ges i hon yng Nghaerdydd. Tra o'n i'n ffilmio Garej ro'n i'n mynd i'r siop 'ma o leiaf unwaith yr wythnos i brynu rhywbeth achos roedd yna wastad rywbeth ro'n i'n ei licio. Nes i fynd mewn un wythnos ac mi oedd y dyn oedd yn berchen y lle wedi cadw hon i un ochr achos ei fod e'n gwybod y byddwn i yn ei licio fe.
Pan mae hi'n dod at ddillad oes gen ti wendid o gwbl?
Sgidie yw fy mheth i. Dwi ddim yn gwario lot ar ddillad fel arfer ond dwi'n licio gwario lot o arian ar sgidie. Tymor cynta' yn y coleg mi nesh i redeg i Selfridges a phrynu pâr o sgidiau Miu Miu gyda benthyciad myfyriwr. Mi oedden nhw'n £400, ond fy menthyciad cyntaf i oedd e a wedyn mi nes i fwyta pha pob am dri mis ar ôl hynny, felly nes i ddysgu ngwers.
Oes gen ti un hoff wisg yn y cwpwrdd?
Oes. Siaced ledr, pâr o siorts denim a fest cyhyrog. Dwi'n gwisgo rhain hefo teits a sodlau uchel a ma'n gweithio bob tro!
Ma'r wisg yna'n cyfuno dy ddau hoff ddeunydd, denim a lledr a chyffyrddiadau o'r 80au, pob dim ti'n ei licio mewn un wisg!
- CWPWRDD DILLAD