Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Hannah Parr
Hannah Parr
Hannah Parr
Hannah Parr
Hannah Parr

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Ers pan oedd hi'n ferch fach mae ceffylau wedi bod yn ganolog i fywyd Hannah Parr, bellach mae ganddi lygad am ffasiwn, a phen dynes busnes.

Hannah Parr

Rwyt ti a dy fam yn rhedeg cwmni dillad marchogaeth o hen stabl ar y fferm, ond sut gychwynnodd y fenter?

Mam gychwynnodd y busnes ar fy nghyfer i. Pan o'n i'n fach mi oeddwn i'n dal a thenau hefo breichiau hir a doeddwn i byth yn gallu cael dillad i fy ffitio heb sôn am siaced reidio. Felly mi benderfynodd dad rhyw ddiwrnod nad oedd yn fodlon gwario £150 i £200 ar siaced os oedd rhaid ei haddasu. Mi ofynnodd wrth mam pam na fyddai hi'n gwneud siaced i mi gan ei bod hi wedi astudio tecstilau yn y coleg, felly dyna wnaeth hi! Mi es i i'r sioeau yn gwisgo fy siaced newydd, ac mi oedd pobl yn holi "o le ges di dy siaced?", ac fe aeth pobl i ofyn i mam wneud siaced iddyn nhw, a dyna oedd dechrau pethau.

Hannah Parr

Sut mae cwsmer yn mynd ati i gael dilledyn?

Mi ydych chi'n cael eich mesur gan mam, dewis eich defnydd ac wedyn y steil. Efallai eich bod wedi gweld rhywbeth mewn cylchgrawn, ond eisiau coler neu lawes wahanol. Wedyn mi wnawn ni addasu neu gynllunio cynllun newydd ar eich cyfer chi. Mae o fel couture y byd ceffylau! Mae'n bwysig iawn, yn enwedig heddiw gan fod pobl eisiau edrych y gore alle'n nhw. Dechreuodd Gucci drwy farchogaeth, felly dy chi ddim yn gwybod, falla mai fi fydd y Gucci nesa!

Hannah Parr

Pa fath o edrychiadau gwahanol sydd ar gael?

Mae'r siacedi tweed ar gyfer un gystadleuaeth ac yna mae'r wisg las ar gyfer y show ponies, sydd wastad yn gwisgo navy a byth yn gwisgo tweed. Dyma'r wisg side saddle. Yn yr hen ddyddiau mi fyddai wedi bod yn sgert lawn ond erbyn heddiw rydym ni wedi gallu ei addasu. I lygad y beirniad mae'n edrych fel sgert lawn, ond i chi'r marchogwr mae'n llawer haws i wisgo.

Hannah Parr

Ydy dillad marchogaeth fel hyn yn ddrud iawn?

Byddai siaced wedi ei wneud yn arbennig i chi yn costio tua £250, ond mae'n rhaid cofio fod bron pob cynllun wedi ei ddylunio gen i neu mam ac wedi eu gwneud â llaw.



Hannah Parr

Wyt ti dal yn ymwybodol o ffasiwn wrth fynd ati i gynllunio dillad marchogaeth?

Ydw, mae'n rhaid i mi fod. Fi sydd yn y ring, fi yw'r model ar gyfer y busnes felly mae'n rhaid i mi gael rhywbeth unigryw fel bod pobl yn holi i mi o le ges i'r dillad.


Hannah Parr

Mae gen ti ddilad tweed yn y dy gwpwrdd dillad personol di hefyd, ydy dy gwpwrdd di'n estyniad o'r byd ceffylau?

Ydy, dyma fy hoff gôt yn y byd. Mi gymerodd hi sbel fach i mi neud i dad sylweddoli bo fi angen un. Dwi'n ei wisgo fe i siopa, i fynd mas am fwyd neu mas i'r dre - popeth. Dwi jyst yn dwli arno fe.

Hannah Parr

Ar yr olwg gyntaf mae'r siaced werdd yma'n edrych yn draddodiadol oherwydd y defnydd, ond mae ei siâp hi'n gwneud iddi edrych yn ifanc ac yn wahanol yn dydy?

Wrth addasu ac ychwanegu'r defnyddiau gwahanol ar y llewys, mae'n creu twist neis ar rywbeth traddodiadol. Tro cyntaf i mi weld y siaced yma ro'n i'n meddwl ei bod hi'n rywbeth neis ar gyfer pobl ifanc, ond dwi wedi gweld pobl hŷn yn ei gwisgo ers hynny, ac mae'n edrych yr un mor dda a modern arnyn nhw.

Hannah Parr

Hefo beth fydda ti'n gwisgo'r siaced werdd yma?

Fel arfer dwi'i gwisgo skinny jeans gyda phopeth. Gan fod melyn a glas yn y siaced dwi un a'i yn gwisgo jîns glas tywyll neu skinny jîns gwyn sy'n mynd yn rili neis gyda fe, ond os ydw i'n mynd i sioe, dwi ddim rili eisie gwisgo gwyn. Mae gen i jîns Victoria Beckham hefyd - os ydw i'n mynd i rywle posh nai wisgo'r jîns hynny gyda'r siaced.

Hannah Parr

Ma'r belt brown yma yn un anghyffredin, o le ges di hwn?

Ges i'r belt yma o un o'r sioeau mawr a mae o'n edrych yn rili neis gyda phâr o jîns. Dyw e ddim yn Gucci ond does neb arall yn gwybod hynny!



Hannah Parr

Wyt ti'n licio'r syniad o gyfuno'r traddodiadol hefo pethau ifanc, newydd?

Ydw. Merch ifanc ydw i, a dwi'n licio'r high streets a'r ffasiwn sydd yn y cylchgronau, ond oherwydd y byd ces i fy magu ynddo dwi'n hoffi'r tweeds a'r defnyddiau traddodiadol hefyd. Trwy gyfuno'r ddau dwi'n creu steil fy hunan a dwi'n credu ei fod e'n gweithio.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales