



Mae e fel salwch mewn ffordd. Os ma' rhywbeth yn digwydd yn fy mywyd pan dwi ddim yn hapus, dwi'n siopa. Os ma' rhywbeth yn digwydd yn fy mywyd pan dwi yn hapus, dwi'n siopa. Pa bynnag ffordd dwi'n teimlo, dwi ishe siopa. Wy wedi bod i seicolegydd, wy'n gwybod 'mod i'n drist ond odd e'n dweud does dim o'i le jyst 'mod i'n hoffi dillad a'n hoffi prynu pethe...
Nia: Mae'n anhygoel eich bod chi wedi cadw'r ffrog fach binc yna am gymaint o amser. Oes yna atgofion arbennig amdani?
Heather: Wy'n cofio rhedeg o'r ysgol bob dydd ag odd y ffrog yn hongian tu ôl i'r drws a wy'n cofio rhedeg fyny'r grisie heb ddweud helo wrth neb a jyst edrych ar y ffrog a meddwl "Oh, it's mine, ma' mor gorgeous". Doeddwn i ddim ishe gwisgo hi rili, o'n i jyst ishe ei gweld hi! Dyna'r unig beth oedd yn goleuo'r 'stafell.
Mewn ffordd, dwi'n cael mwy o fwynhad o brynu dillad a meddwl eu bod nhw'n 'gorgeous' a jyst edrych arnynt heb eu gwisgo nhw. Mae'n well gyda fi jyst edrych ar y dillad fel darlun rywsut.
Nes i gwrdd â fy nghyn wr, Geraint Jarman, pan o'n i'n gwisgo'r ffrog werdd yma. Dwi hefyd yn cofio mynd fewn i'r castell ar gyfer gwersi canu a chwrdd â Mary Hopkin ag odd hi'n gwisgo yr un teip o ffrog! Un gwahaniaeth mawr rhwng fy ffrog i a Mary oedd mai fy Mam oedd wedi gwneud fy un i. Felly oes, mae atgofion hapus iawn gyda mi am y ffrog hon a dweud y gwir. Dwi hefyd yn cofio gwneud Cân i Gymru ynddi hefyd, ond nes i ddim ennill. Eleri Llwyd enillodd y flwyddyn honno gyda chân Dewi Pws, 'Nwy yn y Nen'.
Nia: Chi'n dal i licio dillad, licio siopa y dyddiau hyn?
Heather: Ydw, dwi'n dal i deimlo'r cyffro pan dwi'n gweld yr holl ddillad yn y siopau. Ond, weithiau ar ôl eu prynu nhw a dod adre, dwi ddim yn teimlo'n hapus rili. Dwi'n meddwl i mi fy hun o diar, dwi wedi gwario'r holl arian 'ma ar hwn a'r llall ond ar yr un pryd alla i ddim gadael iddynt fynd a'u cymryd yn ôl i'r siop.
Nia: Pan dach chi'n gwisgo'ch dillad perfformio, ydi o'n rhoi ryw fath o ffrynt i ddangos i'r byd?
Heather: Yn bendant. Yn enwedig ar ôl cwrdd â rhywun fel Meic Stevens. O'n i ishe gwisgo beth odd Meic yn wisgo. Odd Meic yn dod a dillad o Lundain ac o'n i'n meddwl bod e'n edrych mor 'stunning' a ffantastic yn y gwisgoedd. Odd e'n arfer dweud "Heather, ma rhaid i ti wisgo lan, bydd pawb yn gallu gweld bo' ti'n gantores". A weithiau o'n i'n mynd dros y top wedyn yn gwisgo bwts uchel a hetiau, a doeddwn i ddim wir yn hoffi gwisgo hetiau. Wedi dweud hyn, o'n i'n gwisgo hetiau pan o'n i yn y band gyda Geraint a Meic. Felly odd e'n hyfryd i wneud y gigs. Mewn ffordd odd e'n well gyda mi i wneud y gigs gyda'r holl ddillad yma er mwyn cael rhyw fath o ffrynt.
Nia: Beth am y steil swêd felly?
Heather: O'n i'n dwli ar y math yma o beth. Fe ddaeth Meic Stevens a llawer o ddillad fel hyn o Lundain i mi. Mi odd y math yma o ddillad gyda ffrinj ar y llewys hefyd yn dda ar gyfer rhywun odd yn chwarae gitâr.
Nia: Ffrog Laura Ashley ie?
Heather: Ie. Mae hi dipyn bach yn drwm. Ma' hi'n torri'r 'hangers' weithiau! Roedd hon yn ffrog i wisgo ar gyfer cyngherddau ond rhai 'posh' wrth gwrs. Yr unig beth amdani, oedd ei bod hi braidd yn rhy drwm i mi felly odd hi'n anodd canu gyda'r holl bwysau yn y ffrog. Mae'r ddraig arni ac mae'n dweud ar y label 'Made in Wales' felly dwi'n hoffi hynny'n fawr.
Nia: Oes yna steil unrhyw ddegawd dych chi wir yn licio?
Heather: Y 70au dwi'n meddwl. O'n i'n fwy poblogaidd yn y 70au. O'n i'n ifanc a doedd dim lot o ferched yn canu bryd hynny. O'n i yn hoffi ffrogiau hir hefyd achos o'n i mor fach ac i mi wisgo rhywbeth hir, o'n i'n edrych yn dalach.
Nia: Beth yw'r hanes tu ôl i'r ffrog goch hon?
Heather: Anrheg penblwydd neu nadolig gan Geraint yn 1975 dwi'n meddwl. Prynodd y ffrog yn King's Road a mi oedd hi'n £50. Odd e'n lot yn 1975, a dwi wedi ei gwisgo hi lot hyd nawr a ma' hi'n dda pan ti'n disgwyl babi!
Heather ar ddillad...
Mwy na'r gitârs a'r canu a cherddoriaeth mewn gwirionedd, ma' dillad wedi peintio fy mywyd i.
- Bob nos Fercher 20:25