



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Yn y 60au a'r 70au roedd ffrogiau llaes Laura Ashley yn boblogaidd tu hwnt. Ar un adeg roedd gan y cwmni bum mil o siopau ar draws y byd.
Dechreuwyd y busnes gan Laura, oedd yn hanu o Ddowlais ger Merthyr. Yng nghyd a'i gŵr, fe ddatblygodd y brand nes oedd ffatrïoedd i'w cael yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt. Mae'r gantores Heather Jones wedi bod yn ffan o ffrogiau Laura Ashley erioed ac wedi trysori'r darnau a brynodd flynyddoedd yn ôl.
Bu farw Laura Ashley yn drigain oed ym 1985, bellach mae'r busnes yn nwylo cwmni o Falaysia.
Beth oedd apêl dillad Laura Ashley i ti?
Roedd wastad rhywbeth gwahanol am ddillad Laura Ashley dwi'n meddwl. Ma' 'na lot o ddillad dyddiau yma sydd ddim yn cadw eu siâp, ond mae pethe Laura Ashley yn. Ma' nhw'n rili, rili da dwi'n meddwl!
O le ddaeth y diddordeb yn nillad Laura Ashley yn y lle cyntaf?
Ro'n i wedi gweld rhai o luniau dillad Laura Ashley mewn cylchgrawn a ro'n i'n meddwl, mae'n rhaid i mi gal ffrogiau Laura Ashley. Dwi'n cofio prynu'r un borffor yma achos ei bod hi dipyn bach yn wahanol a ro'n i eisiau sefyll allan ar lwyfan. Roedd rhai pobl yn deud "Mai'n edrych fel y ddraig goch" wrth weld y patrwm ar y ffrog.
Sut oedd dillad Laura Ashley yn ffitio mewn gyda dy ddelwedd perfformio di?
Roedd o jest y peth ar y foment a ro'n i eisiau bod mewn ffasiwn drwy'r amser. Ro'n i'n canu pethe fel Plaisir D'amour, pethe sweet, ac roedd y ffrogiau'n siwtio fy llais a'r gitâr i'r dim. Hefyd, doeddwn i ddim ishe gwisgo rhywbeth byr oherwydd bod fy nghoesau i yn edrych yn od o dan y gitâr, felly mi oedd e'n neis cael y ddelwedd yma o rywbeth laid back, love and peace.
Roedd Laura Ashley yn cael ei dylanwadu gan ddelweddau a phatrymau'r oes Fictoria. Ond roedd cefn gwlad Cymru hefyd yn ei hysbrydoli.
Dwi'n meddwl ei bod hi eisiau dianc, dianc o lefydd fel Dowlais a Merthyr, y De Diwydiannol. Dwi'n hoffi natur, dwi'n siŵr ei bod hithau'n hoffi natur. Roedd hi eisiau creu rhywbeth oedd ddim yna, rhywbeth benywaidd. Mae hi wedi dod a'r blodau yn ôl i ffasiwn ac roedd hi'n amlwg yn hoffi siâp menyw. Roedd Laura Ashley hefyd yn rhoi leg of mutton sleeves, ar bopeth a dyna beth o'n i'n hoffi achos ro'n i'n edrych yn fwy siapus mewn ffordd. Mi nes i brynu siwmper yn Laura Ashley yn ddiweddar a ma'r un siâp llawes arno fe! Ma'n gwneud i chdi edrych yn fwy stylish.
Pan gychwynnodd Bernard a Laura Ashley ar eu gwaith o greu eu defnyddiau eu hunain, ffedogau a sgarffiau pen oedd eu prif gynnyrch ynde?
Dwi'n cofio fy mam yn gwisgo sgarff yn ei gwallt gan fod ei gwallt hi mor fawr roedd rhaid cadw fe rhag y gwynt.
Roedd y patrymau cynnar yn llawer mwy geometrig na'r steiliau diweddara ac fe fu Laura yn arbrofi gyda siapiau gwahanol fel steil y shift dress.
Roedd y steil shift dress yn boblogaidd iawn yn y 60au. Dwi'n cofio mam yn gwneud un i fi mewn brown, ych a fi, mi oedd e'n horrible ond dyna oedd y steil. Rhywbeth arall oedd yn arbennig am ddillad Laura Ashley oedd bod 'made in Wales' wedi ei nodi ar bob dilledyn a ro'n i'n teimlo ei fod yn bwysig i mi wisgo rhywbeth o Gymru.
Yn ystod y 70au fe ddaeth y steil pync, beth felly oeddet ti yn ei wisgo i berfformio?
Ar ôl y love and peace fe ddaeth y punks ac wedyn wrth gwrs newidiodd y gerddoriaeth i ganu roc. Doeddet ti'n methu canu rhywbeth roc mewn ffrog hyfryd gan Laura Ashley. Ond dwi yn caru dillad Laura Ashley, mae'n nhw'n rhan o ngorffennol i. Fyddai byth yn cael gwared â'r ffrogiau yma ond yn anffodus dwi ddim yn gallu ffitio mewn iddyn nhw nawr.
- CWPWRDD DILLAD