



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Pwy a ŵyr be ydy’r cyfrinachau sydd yn llechu tu ôl i ddrysau swbwrbia. Y gwir ydy fod Helen Havard Griffiths yn cael affêr gyda Ffrainc! Mae’r plant Alenia a Marielle yn gwybod, felly hefyd ei gŵr Gareth.
Dwi’n lwcus iawn mewn un ffordd mod i wedi priodi dyn sydd â dim diddordeb mewn dillad o gwbl. Tydi o ddim yn sylwi os oes gen i ddwy got yr un fath, mae o’n meddwl mai’r run un ydi hi. Mae gen i fac, un yn frown ag un yn ddu, a ‘dio byth ‘di sylwi eu bod nhw’n wahanol!
Disgrifia dy steil personol di.
Ro’n i’n byw ym Mharis am ddwy flynedd a dwi’n meddwl fod hynny wedi rhoi'r cyfle i mi ddod yn gyfarwydd â ffasiwn Ffrainc. Maen nhw’n hoffi pethau benywaidd iawn ar y cyfan ac yn fodlon rhoi llawer o haenau dillad ar ben ei gilydd a gwahanol ddefnyddiau hefyd. Gan nad oes ganddom ni fywyd cymdeithasol mor llawn â hynny, dwi’n gwisgo’r dillad y bydda ran fwyaf o bobl yn gwisgo i fynd allan ynddyn nhw gyda’r nos i fynd allan i nôl y plant o’r ysgol. Ond dwi yn cael y cyfle i wisgo dillad mwy ffansi yn fy ngwaith fel telynores. Faswn i ddim yn deud mod i yn dilyn ffasiwn - dwi’n dilyn ‘yn ffasiwn ‘yn hun. Dwi’n dueddol o gadw pethau am flynyddoedd maith a dwi hefyd yn meddwl nad ydy’n steil i’n dyddio.
Oes gennych chi hoff gynllunydd?
Faswn i ddim yn deud ym mod i yn berson sydd yn mynd ar ôl gwaith cynllunwyr mawr, ond dwi di sylwi mod i o hyd yn cael fy nennu at yr un cynllunwyr. Mi faswn i’n meddwl o edrych drwy’r cwpwrdd dillad fod yna tua phedwar enw o hyd yn dod i’r wyneb; Jus d’Orange, Derhy, Zone Bleue a Cottonade.
Mae dy ddillad pob dydd di yn smart iawn. Oes gen ti lawer o ddillad Jus d’Orange?
Ambell beth oes! Ma' na rai yn mynd yn ôl ambell i flwyddyn a deud y gwir. Mae’r trowsus yma brynais i ym Mharis dwy neu dair blynedd yn ôl a dwi’n gwisgo nhw hefo’r siaced yma sydd hefo’r ruffles a’r siâp rosette, ac mae’n rhaid cael top hefo ruffles i fynd hefo fo!
Mae gen ti gasgliad helaeth o berets!
Ers rhai blynyddoedd rŵan dwi wedi dechra' gwisgo berets yn y gaeaf. Dwi’n prynu berets ddigon rhesymol o bob lliw a llun yn Ffrainc ac wedyn dwi’n hoffi ei haddurno nhw fy hun i gyd fynd â’r wisg dwi’n wisgo. Mae’n bwysig iawn gen i fod y beret yn cyd-fynd hefo’r dillad, y sgidie a’r bag. Erbyn hyn mae’r genod hefyd yn eu gwisgo nhw. Mae llawer o rieni yn cael trafferth mawr cael eu plant i wisgo hetiau ond mae’n rhai i wedi dechrau yn ddigon buan ac yn ddigon ifanc wedyn ma' nhw wedi arfer ac maen nhw yn gwisgo berets i fynd i’r ysgol hefo’i gwisg ysgol fel arfer.
Beth mae ffasiwn yn ei olygu i ti?
Mae o’n gallu bod yn dipyn o obsesiwn ac mae o yn creu problemau i mi hefo’r plant achos ma nhw rŵan yn ffysio weithiau hefo petha' pam dydyn nhw ddim yn mynd hefo’i gilydd. Ond erbyn hyn dwi’n lwcus gan eu bod nhw yn yr oedran lle mae ganddyn nhw syniad o be sy’n mynd hefo’i gilydd. Cyn hynny os oedden nhw adra hefo’u tad heb i mi fod yma mi oeddan nhw yn dod allan mewn gwisgoedd doniol iawn weithia, ac roedd yna adegau pan oeddan nhw yn gwisgo dillad ei gilydd.
Mae’r wisg wen yma yn fendigedig ac mae gen ti fag ac esgidiau i fynd gyda hi.
Oes, fyddai ddim yn newid petha’ ryw lawer. Dwi’n prynu nhw ar wahân mewn llefydd ond i fynd hefo’i gilydd. Ges i’r ffrog gynta' ac wedyn mi welais i’r gardigan, ac yn ddiweddar iawn ro’n i yn cerdded heibio ffenest siop yn Llandrillo yn Rhos pan weles i’r bag a’r sgidia. Mi oedd hi’n ddydd Sul ag roedd y siop wedi cau a do’n i ddim yna am ddiwrnod arall. Mi nes i ddigwydd sôn wrth fy rhieni mod i wedi gweld nhw, a chware teg iddyn nhw, rhai wythnosau yn ddiweddarach dyma nhw ar y ffôn a deud, “’Da ni mewn siop yn Llandrillo yn Rhos. Wyt ti’n sylweddoli fod yna felyn ar y bag?”- mi ‘oedda nhw yn poeni na faswn i ddim isho fo achos fod yna felyn ar y blode. Chwara teg iddyn nhw, mi natho' nhw brynu’r bag a’r sgidia’ a dod a nhw yma fatha anrheg i mi.
Oes yna lawer o bobl yn prynu dillad fel anrhegion i ti?
'Chydig iawn o bobl sydd yn prynu dillad fel anrhegion i mi, hyd yn oed fy rhieni i er eu bod nhw yn gwybod beth ydy’n chwaeth i. Druan o Gareth. Dwi weithia yn ei feio fo am beidio rhoi sypreis i mi, ond mi fasa fo yn bur amhosibl iddo fo brynu rhywbeth i’n chwaeth i!
Sut wyt ti’n penderfynu ar dy wisg ar gyfer perfformiad?
Dwi’n chwarae mewn deuawd hefo hogan sy’n canu’r ffliwt a da ni o hyd yn gorfod cael galwad ffôn yn ystod yr wythnos cyn y cyngerdd neu’r briodas i benderfynu be ydan ni am wisgo ac os ydy ei gwisg hi yn cydweddu hefo fy ngwisg i.
Sut fath o ddillad wyt ti’n wisgo i berfformio?
Mae’r dillad yma’n rhai brynais i’n ddiweddar. Ro'n i wedi gwirioni hefo steil y sgert hon - mae hi’n union beth dwi’n hoffi. Ges i anhawster cael rhywbeth ar y dechra i fynd hefo’r sgert felly mi benderfynais i brynu’r ffrog yma sydd yr un fath a phenderfynu rhoi'r ffrog hefo’r sgert a gwisgo’r ffrog fel top. Roedd gen i fag adref yn barod, felly dyma roi'r rhain i gyd hefo’i gilydd.
Mae gen ti rosod ar bob un dilledyn bron, o le ddaeth dy hoffter di ohonyn nhw?
Dwi’n meddwl eu bod nhw yn reit fenywaidd ac yn ychwanegu ansawdd gwahanol ar y defnydd fel bod y defnydd ddim yn fflat, ac wrth gwrs mae’n ddiddorol ac yn hwyl!
Mae hon yn wisg fendigedig.
Mi fyddai’n gwisgo ffrogia' llawn i berfformio ond dwi hefyd yn gwisgo trowsus reit aml hefo top ffansi iawn. O’n i yn teithio yn ôl drwy Ffrainc a thrwy Trois pan welais i’r flows yma a meddwl ei bod hi yn ddiddorol ac yn anarferol. Wedi ei phrynu mi wisgais i hi i briodas rhai dyddia' ar ôl dod yn ôl ac mae’n rhaid i mi ddeud mod i wedi cael llawer iawn o wisg ohoni ers hynny. Mae’r make yma’n anodd iawn i gael gafael arno fo, ond rŵan dwi wedi cael hyd i’r pencadlys ym Mharis a gwerthu i siopa ma’ nhw yn bennaf ond mi nes i lwyddo i’w perswadio i adael fi mewn yna hefo dau o blant wrth fy nghwt.
Mae’r got yma yn fendigedig ac yn anghyffredin.
Mae hon eto hefo rhosod arni. Ro’n i yn teithio mewn bws agored rownd Madrid ag roedden nhw yn paratoi ar gyfer priodas Frenhinol yna yn rhoi llawer o addurniadau a blode o gwmpas ac roeddwn i wedi gwisgo mewn dillad hafaidd iawn. Mi ddechreuodd hi dywallt y glaw ar y bws, felly dyma neidio lawr o’r bws a mynd mewn i siop a chael hyd i hon a'i rhoi amdanaf a nôl ar y bws ag ymlaen hefo’r daith. Os gwario ar rywbeth - gwario ar rywbeth neith bara’.
Wyt ti’n cael dy siomi hefo dillad o’r wlad hon?
Yn sicr does yna ddim yr un steil dwi’n hoff ohoni gan mod i’n hoffi dillad benywaidd iawn. Falla eu bod nhw yn fwy ymarferol na be dwi’n ei wisgo, ond i mi mae’r petha dwi’n gwisgo yn ddigon ymarferol achos dwi wedi arfer eu gwisgo nhw. Pan fyddai’n pacio i fynd ar wylia mai’n rhaid i mi fynd a pharau o sgidiau sydd yn cyd-fynd a phob gwisg. Mae gen i lond ces o bymps Besimon o Ffrainc, fedrai ddim dychmygu mynd ar wylia hebddyn nhw i gyd hefo fi. Dwi o hyd isho cadw lle yn y ces ar y ffordd adref i gael cyfle i brynu mwy o bethau ar gyfer y tymor wedyn. Dwi’n teimlo mor hapus yn gwisgo'r dillad yma, ac mae yna rywbeth amdanyn nhw, am eu bod nhw yn Ffrengig - a dwi’n caru pob dim Ffrengig, ma nhw yn gwneud i mi deimlo’n fodlon iawn.