Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Heulwen Haf
CWPWRDD DILLAD: Heulwen Haf | Lleucu Cravos | Alan Jones
Heulwen Haf
Heulwen Haf
Heulwen Haf
Heulwen Haf

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Heulwen Haf yn eicon Cymreig sy'n benderfynol o ddathlu bywyd mewn steil.

Heulwen Haf

Sut fyddech chi'n disgrifio'ch cwpwrdd dillad chi?

Dwi'n caru pob peth yn fy nghwpwrdd dillad i... y sgidia', y socks, y teits, y dillad isa', y dillad dwi'n wisgo nawr... ac os nad ydw i'n i garu o, dwi ddim isho fo. Ma'n rhaid i ti garu'r hyn sydd gen ti. Ma' dy gwpwrdd dillad di'n rhan o dy hanes di - lle ti di bod a lle wyt ti'n mynd.

Heulwen Haf

Lle ydych chi'n meddwl mae'r diddordeb, neu'r ddawn o wisgo yma wedi dod?

Falla ei fod o wedi dod gan mam achos mi oedd ganddi hi ffigwr da - fel egg timer, ac mi oedd hi'n beth bach ddel ac yn ffasiynol iawn. Roedd hi wastad yn gwisgo i harddu'r hyn oedd ganddi. Ond mi oedd ganddi steil go iawn oedd yn hollol gynhenid, hollol naturiol ynddi hi - wn i ddim lle ddoth o achos roedd nain yn blaen iawn! Gwallt tynn yn syth yn ôl, un handbag, goriad y tŷ a Polo mints yn hwnnw a chôt fawr - a fel'na fydda hi, ddim yn gwenu ryw lawer. Felly doedd o ddim wedi dod o fanno, ond rhywsut neu'i gilydd mae o wedi dod trwy mam ac ataf i.

Heulwen Haf

Ydach chi'n meddwl fod yna gysylltiad os ydach chi'n gwisgo'n osgeiddig a thrwsiadus ar y tu allan eich bod chi'n dechra' teimlo fel'na ar y tu mewn?

Dwi'n ryw ama' na'r ffordd arall mae o'n gweithio - fod y meddwl yn dynodi mwy sut wyt ti'n edrych ar y tu allan. Er enghraifft, mi fyddai o hyd yn gwisgo dillad isa' neis, neis, neis, achos dwi'n licio teimlo rhywbeth arbennig yn agos at yng nghorff. Mae'r holl beth yn tyfu o'r tu mewn allan wedyn - dyna wyt ti'n ddangos i'r byd sydd o dy gwmpas di - dyna ma' nhw'n weld. Ma nhw'n gweld rhywun sydd yn hollol gyfforddus â'u hunan, felly os weithi di ar dy hun o'r tu mewn allan, mi nei di deimlo hynny.

Heulwen Haf

Be ydy hanes y gôt hir ddu yma sydd hefo handbag yn sownd iddi?

Shearling ydy hon, sef oen am wn i a ma modd ei throi hi tu chwith allan os wyt ti isho. Mi oedd hi'n rhy hir i mi, felly ar ôl i mi ddod a hi adra, be nes i oedd torri'r hem a neud bag i mi fy hun a'i roi o ynghlwm fel bod gen i fag hefo fi drwy'r amser wedyn.

Heulwen Haf

Chi 'nath y bag felly? Ydach chi'n dipyn o wniadwraig ta?

Faswn i ddim yn licio i ti weld y pwytha', ond ma' petha'n aros cyhyd a sydd rhaid yn de!

Heulwen Haf

Dwi'n dechrau cael yr argraff fod croen a ffwr yn rhywbeth da chi'n hapus, ac yn licio ei wisgo, achos y dyddia' hyn, dydy pobl ddim yn nac ydyn? Ond da chi yn gyfforddus iawn yn gwisgo ffwr?

Ydw, mi ydw'i! Falla' na'r busnes mai croen ydy o. Ma' gen i gôt Mink hir a ma' honna'n glud. Os ti'n meddwl am naws y Mink, mae o'n gallu mynd trwy ddŵr, drwy eira a phob peth dydy, ac mae o dal yn dod allan yn sgleinio; a felly dwi'n teimlo. Ma'r anifail yma yn y gôt, pan y buo fo... wel sawl un ohonyn nhw, ma' nhw wedi cael bywyd da, a rŵan ma' nhw'n byw hefo fi - a dwi wrth fy modd!

Heulwen Haf

Roedd eich tad yn gigydd doedd, felly mewn ffordd mae'r syniad yna o ddefnyddio'r anifail i gyd, y croen hefyd yn rywbeth 'da chi wedi cael eich magu hefo?

Yn bendant, achos mi o'n i'n mynd lawr i'r tŷ lladd i chwarae - doedd o'n ddim byd newydd i mi gael gweld crwyn yr anifeiliaid a phopeth, felly mae o'n rhan ohona'i. Mi o'n i'n dipyn o tomboy, wn i ddim lle ddoth y peth merchetaidd 'ma, ond hyd yn oed pryd hynny, pan o'n i'n beth fach, ro'n i'n gwnïo ac yn gneud dillad bach i mi fy hun.

Heulwen Haf

Sut fath o ddillad oeddech chi'n ei wneud i chi'ch hun?

Mi nes i siwt haul a ma hi'n dal gen i. Ma hi'n felyn i gyd tu mewn ac yn wyrdd hefo strawberries coch tu allan a mi wnes i neud siôl a bag i fynd hefo hi - be haru fi dŵad?

Heulwen Haf

Ma gynnoch chi gwpl o siwtia' hir gwlân. Ai'r ffaith mai defnydd naturiol ydi o? Ydach chi'n licio gwlân a chashmere a ballu?

Wrth fy modd! Ma nhw'n glynu wrth y corff ac eto'n llac. Ma' nhw mor hawdd i'w gwisgo a ma'r un hufen sydd gen i wedi bod i Venice, ma hi wedi bod i Baris, ma hi wedi bod i sawl gwlad! A mi fyddai'n licio teithio mewn dillad smart - ma nhw jyst fel ail groen am dy gorff di a ma nhw'n golchi'n ffantastig.

Heulwen Haf

Ydach chi'n gwario lot ar eich dillad felly?

Dwi'n gwario lot ar rai petha', ond wedyn dwi'n mynd i'r pegwn arall ac yn gwario nesa peth i ddim. Dwi'n mynd i siop ail law, nai ddim dweud yn lle, a ma 'na rywun sy'n dod i fanno sydd yr un maint a fi ag yn gwisgo'n arbennig o dda, a dwi'n mynd allan hefo llwyth o betha' bob tro! Er enghraifft, y gôt suede frown - ail law ydy hi. Fyddwn i ddim wedi licio talu'r pris llawn amdani, ond mi ges i hi am snippet. Ma' hi tua maint 16, ond ma na lot o wrap iddi felly dwi'n gneud iddi weithio i mi, a ma' 'na felt yn mynd gyda hi fel bod modd i mi wisgo hi fel ffrog os dwi ishe, ffab!!

Heulwen Haf

Mae'r gôt yma'n ffantastig!

Ma'r gôt llewpard ffug yma eto o'r siop ail law a ma' hi'n lawer rhy fawr i mi, felly be dwi 'di neud ydy llechio'r gwddw allan a rhoi dau fotwm smart ar y blaen fel mod i'n cael llawnder yn y cefn a'i bod hi'n mynd allan ag yn ffitio'n well ar yr ysgwyddau. Ma hi dal i fynd!

Heulwen Haf

Be am gynllunwyr. Os ydach chi'n prynu'n ddrud, ydach chi'n dueddol o fynd am gasgliad rhywun yn arbennig?

Dwi'n meddwl bod Armani yn anodd ei guro. Dwi'n licio'r cut sydd ganddo fo a fel mae o'n gweithio hefo'r defnydd. Ma'r ffurf yn dod mewn i'r wast fel bod ti'n edrych yn ffeiniach nag wyt ti a chwyddo allan chydig bach, run fath ar y cuffs - ryw fanylder arbennig, a fel ma' ymyl y gwddw yn fflat fel ei fod o'n neud i chdi edrych yn dda.

Heulwen Haf

Sut fyddech chi'n disgrifio neu'n crisialu eich steil chi?

Ma rhan fwyaf o bobol yn deud, "O, ti'n hogan glamorous". Dwi ddim yn gweld fy hun fel'na - creadigol wrach a chic! Gai ddweud rhywbeth rŵan? Tair wythnos yn ôl ges i'r wybod fod cancer y fron arna'i, ac mewn tridiau mi fyddai'n dechrau triniaeth chemotherapi, felly pwy a ŵyr be fyddai'n wisgo, beth fyddai fel, a pha fwclis, sgarffiau, hetiau a dillad fyddai'n wisgo, ond, mi fyddwn ni'n dal i fod yn chic!

Chi fydd y ddynes fwya' glamorous ar y ward!

  • CWPWRDD DILLAD