



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Yn ôl pob sôn mae’n syniad da i beidio â chymysgu busnes hefo pleser. Wrth deithio’r byd mae’n amlwg fod Hugh Edwin Jones wedi gallu croesi’r ffin hwnnw hyd yn oed yng Nghaernarfon.
Mae hwn yn grys llawn hwyl.
‘Falla bod yna fwy o gyswllt gwaith i’r crysa’ Hawai yma achos yn fy ngyrfa cynnar fel comisiynydd ffilm roeddwn i’n mynd drosodd i America.
Crys ydy hwn oeddwn i’n ei ddefnyddio pan oeddwn i draw yn America yn trio perswadio cynhyrchwyr i ddod i ffilmio i Gymru. Ro ni’n trio bod yn un o’r criw mewn ffordd. Roedd gen i drowsus gwyn a sgidia heb sana' a sbectol haul i fynd hefo fo. Mae’r sbectol haul yn rhan o’r edrychiad! Dwi’n meddwl i fod o’n bwysicach fyth i gael nhw ar dy ben di yn hytrach na’ o flaen dy llygada di! Brynais i ddau o’r crysa’ yma o Burtons flynyddoedd yn ôl a ma nhw i weld yn ffitio mewn yn America gryn dipyn. Dechra felly nes i, ac wedyn roedd o’n rywbeth oedd hyd yn oed 'chydig o bobol yn America yn tynnu nghoes i amdano fo ag yn deud mod i yn ffitio mewn yna achos mod i’n gwisgo dillad fatha nhw - wedyn adeiladu ar hynny nes i i radda’.
Mi wisgais i’r crys yma ar fy mis mêl yn Las Vegas, ac roedd pawb wrth gwrs yn gwisgo’r math yma o grys felly mi ro’n i’n teimlo’n gartrefol iawn yno.
Os oeddet ti’n gwisgo dillad i ffitio mewn yn America, oedden nhw yn cael effaith i’r gwrthwyneb yma?
O fewn cyfundrefn llywodraeth leol falla bod yna ychydig yn sbïo dros sbectol ar rywun fel fi, ond wedi deud hynny, roedd yna dderbyniad fod Hugh yn gweithio mewn maes dipyn gwahanol i waith canolog y cyngor. Felly mi oedd yna ryw dderbyniad mod i ychydig bach yn wahanol - peg gron mewn twll sgwâr felly!
Mae hwn yn wisg anghyffredin iawn.
Mae gen i ddillad sydd yn gysylltiedig â gwledydd dwi wedi bod ynddyn nhw. Mae hwn o’r diwydiant ffilm gan mod i wedi bod ar daith i India i Bollywood i'w gweld yn ffilmio. Roeddwn i yno i weld cynhyrchydd yn Bollywood ac fe aeth o a fi i ryw fath o Marks and Sparks yn Bollywood ac mi brynodd ychydig o grysa' i mi a hwn. Roedd o isho i mi wisgo hwn mewn parti oedd o wedi ei drefnu gyda’r nos, ac roedd ei fam oedd yn ei 80au yn dod lawr o’r mynyddoedd i gyfarfod â’r dyn yma o Gymru a oedd wedi cynorthwyo ei mab i wneud ffilm.
Wyt ti’n cael y cyfle i’w wisgo fo yma?
Wel mi fyddai’n i wisgo fo ar nos Sul ar ôl cael bath! Ond dwi’n gobeithio’n fawr iawn y cai ei wisgo fo flwyddyn nesa yn Goa yn India pan fydda i’n mynd yno ar wylia.
Dwi ‘rioed wedi gweld un o rain gan Gymro o’r blaen!
Mi ges i hwn ar wylia yn yr Aifft pan aethon ni i Ceiro. Pan dwi’n i wisgo fo dwi’n gallu mynd yn ôl a meddwl am y siop yn Ceiro hefo cannoedd o bobl o gwmpas a’r dyn bach yn eistedd fi lawr ag yn cychwyn ar y pris ‘ma oedd yn swnio fel crocbris, ag yn landio hefo pris lle oedd y ddau ohono ni’n cytuno yn y diwedd. A finna' yn prynu rhywbeth oeddwn i wir ddim wedi i fwriadu prynu. Mae rhywun yn gallu eu gwisgo nhw a mwynhau eu gwisgo nhw. Mae o hefyd yn adwy yn ôl i’r cofion sydd gan rywun -yn agor y drws yn ôl i be mae rhywun wedi ei brofi ac ‘falla wedi ei anghofio.