Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Huw Evans
Huw Evans
Huw Evans
Huw Evans
Huw Evans

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Huw Evans yn ddyn sy'n nythu mewn pentyrrau o ddillad.

Huw Evans

Wyt ti'n un sy'n casglu dillad?

Dwi'n gasglwr o bob math o betha'. Dwi'n gasglwr recordiau, posteri gwahanol, lluniau - a ma' dillad yn rhan o hynny. Yn lle mod i'n mynd allan a phrynu nhw o unrhyw le, dwi'n mwynhau mynd allan a ffeindio pethau gwahanol. Dwi fel pioden, achos os dwi'n gweld rhywbeth dwi'n ei hoffi dwi'n mynd ag o adref. Ma'n stafell wely i fel nyth!

Huw Evans

Ydy cerddoriaeth yn dylanwadu ar be ti'n wisgo?

Ydi, mai'n siŵr ei fod o mewn ffordd. Dwi'n prynu lot o grysau-t os dwi'n mynd i gigs a ballu. Ma' gen i gasgliad o grysau bandiau gwahanol. Dwi'n gwrando ar lot o gerddoriaeth o'r 60au a'r 70au, felly dwi'n licio'r steil yna o ddillad, crysau cowboi a choleri mawr, felly ydy, ma'n siŵr fod cerddoriaeth yn dylanwadu arna'i. Dwi ddim yn hoffi gwisgo rhywbeth os dwi'n meddwl fod pobl eraill yn mynd i fod yn ei wisgo fo. Felly os fasa fo'n fand mawr mi faswn i'n fwy tebygol o beidio prynu eu crys-t nhw. Mi faswn i'n fwy tebygol o brynu crys-t band oedd yn hollol, hollol uffernol o wael ond bod eu crys-t nhw'n neis!

Huw Evans

Wyt ti'n un sy'n cadw dy ddillad y daclus?

Ma'n stafell i fel nyth pioden achos dwi'n berson sydd os dwi'n gweld rhywbeth dwi'n hoffi, dim ots beth ydi o, mi allith fod yn unrhywbeth, hyd yn oed rhywbeth dwi 'di ei ffeindio mewn sgip. Os dwi'n ei hoffi fe ag yn hoffi'r ffordd ma'n edrych, mae'n mynd mewn i'n stafell wely i yn rhywle.

Huw Evans

Lle fyddi di'n prynu dy ddillad?

Dwi'n hoffi prynu pethau o siopa ail law. Y siop ail law gora' yn y byd ydy'r siop Mind yn Rhyl. Nes i ffeindio lot fawr o betha' yn y siop honno felly dwi'n mwynhau prynu o siopau elusennol. Ma' hi'n anodd erbyn hyn achos fod siopa elusenol wedi sylwi eu bod nhw'n gwerthu petha' am 50c sydd wedyn yn mynd ar ebay am £30. Felly ma' ebay wedi lladd siopa mewn siopau elusenol.

Huw Evans

Mae gen ti lot o ddillad hefo lluniau adar arnyn nhw. Pam dy fod di mor hoff o adar?

Dwi jyst yn hoffi llunia o adar ar ddillad. Ma' gen i adar ar yn het a dwi'n hoff iawn o dylluanod! Y dilledyn adar cynta' ges i oedd y crys cowboi hyfryd glas yma. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n edrych fel parot, ond dwi'n ama' mai canaries ydyn nhw. Dwi'n hoffi'r crys achos dydy o ddim yn edrych fel rhywbeth sydd wedi ei wneud mewn siop. Ma'n edrych fel cyrs ma' rywun wedi ei brynu, mynd a fo adra a wedi gneud y gwaith yma i hunan dwi'n meddwl.

Huw Evans

Lle ges di'r crys-t tylluanod yma?

Mi nath y nghariad i brynu hwn i mi 'Dolig achos fod gen i'r thing yma am dylluanod. Fel ti'n gweld, mae o wedi cal ei wisgo lot, dwi'n gwisgo petha nes dwi ddim yn gallu eu gwisgo nhw ddim mwy. Dwi'm yn gwisgo hwn nawr achos fod yna gwpwl o staenau arno fo sydd ddim yn dod i ffwrdd. Ma'r staen oren am y goler yn edrych fel cyri, ond be ydi o ydy staen rhwd oddi ar y ceffyl hongian dillad sydd gen i yn y tŷ.

Huw Evans

Ma' yna gasgliad o adar ar y crys-t yma, o le ges di hwn?

Mi es i ar wylia' yn weddol ddiweddar i Thailand a mi oedd yna fenyw yn gwerthu crysa-t ar ochr y stryd. Dwi'n cymryd mai hi oedd wedi cynllunio nhw ei hunan. Felly nesh i ffeindio hwn a mi o'n i'n methu peidio prynu fo. Hwn ydy'n hoff grys-t fi ar hyn o bryd. Ma' yna lot o adar neis arno fo. Mi es i allan yn ddiweddar a mi nath Gareth Bonello, y cerddor weld hwn a mi oedd o'n gallu enw pob aderyn arno fo!

Huw Evans

Ma' gen ti gasgliad da o siwmperi hyll yn does. Be sy'n dy ddenu di atyn nhw?

Ma' gen i broblem hefo pobol sy'n galw'r siwmperi yma'n hyll achos dwi'n ddim yn meddwl eu bod nhw'n hyll, dwi'n meddwl eu bod nhw'n hyfryd. Ma' lot o bobl yn gweld fi'n gwisgo hwn ag yn meddwl ei fod o'n rhyw fath o jôc a fod Huw yn gwisgo siwmper Nadoligaidd. Dwi'n casáu pobl sy'n dweud 'na ti siwmper Nadolig, ond i mi mae o jyst yn siwmper neis. Taswn i'n byw yng Ngwlad yr Iâ mi faswn i'n foi reit cŵl taswn i' mynd o gwmpas y lle yn gwisgo hwn.

Huw Evans

O le ges di'r siwmper streipïog yma?

Ma'r siwmper yma'n dod o felin wlân pentref y nghariad i yn Penboer, o'r amgueddfa wlân yno. Felly ma' hwn yn siwmper dwi'n ei hoffi'n fawr iawn er i fod o 'chydig bach yn dynn.

Huw Evans

O le ges di'r siwmper argyle yma?

Ma hwn digwydd bod yn un nes i ffeindio ym marchnad Jacob, siwmper golff hufen, hyfryd, hefo lot o dyllau - ma' rywbeth wedi bod yn bwyta'r siwmper yma.

Huw Evans

Be ma' dy ffrindiau di'n feddwl o dy steil di?

Mi nath ffrind i mi ffonio fi'n ddiweddar achos fod ganddo fo noson allan hefo gwaith. Mi o'n i'n ypset achos nath o'n ffonio fi a deud, 'Haia Huw, ma gen i noson siwmperi gwael yn y gwaith, ga'i fenthyg un o dy siwmperi di?'. Dy'n nhw ddim yn siwmperi gwael!

Huw Evans

Ma'r siwt yma yn un unigryw iawn, o le ges di hon?

Nath y nghariad i a fi fynd i deithio Ewrop am ychydig, a'r syniad oedd ein bod ni'n mynd i deithio a pheidio gwario dim achos doedd ganddo ni ddim arian ar y pryd felly doedden ni ddim yn gallu mynd yn wyllt ar y gwylia. Ar ddiwedd y daith mi athon ni i Berlin a nathon ni ffeindio'r siop 'ma oedd yn hollol higl-di-pigl a petha' yn bob man. Nesh i ffeindio rhes o siwtiau oedd erioed wedi cael eu defnyddio o'r blaen. Mi oedd y fenyw yn y siop wedi dod o hyd iddyn nhw mewn warws. Ma'r trowsus yn flares, syth o'r 70au, a ma' hi'n siwt anhygoel a doedd hi erioed wedi cael ei gwisgo. Ond, mi oedd hi'n costio tua £100 sydd jyst yn wirion. Y noson gynta' nesh i wisgo'r siwt yma allan mi o'n i wedi cyffroi yn cael gwisgo'n siwt newydd a nes i neud ryw fath o lunge i mewn i'r gwely a rhwygo crotch y siwt. Felly mond unwaith dwi wedi gwisgo'r siwt cyfa' ar yn gwylia' ni! Felly, be ges i am £100 oedd siaced ddrud!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales