



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Fel ymgynghorydd ffasiwn mae Huw Rees, o Lannon ger Rhydaman, yn gwneud bywoliaeth o siopa dillad. Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru – gan gynnwys y gantores o Gaerdydd, Charlotte Church, ac mae hefyd yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C fel ymgynghorydd steil Wedi 3 a Wedi 7.
Huw ar siopa...
Mae ’mywyd i jyst yn siopa, na’i gyd wy’n wneud trwy’n mywyd yw siopa. Fi’n codi’n y bore a fi’n siopa, fyddai’n siopa naill ai ar gyfer modelau, ar gyfer rhywun sy’n feichiog, siopa ar gyfer personal shoppers, ac wrth gwrs yn y cyfnod ’ny fyd, fi wastad yn chwilio mas am rhywbeth i fi fy hun - felly weden i mod i wedi cael fy ngeni yn siopwr proffesiynol!
Mae’n rhaid fod o’n deimlad ffantastig i fedru gweld rhywun yn trawsffurfio fel ’na wrth i chdi steilio nhw?
Mae’n rhaid dweud wy’n teimlo mod i’n cael gymaint mas o’r profiad weithie a mae’r bobl sy’n talu am fy ngwasanaeth i’n cael.
Beth am dy ddillad personol di, ta?
Mae ’nillad personol i yn rhwydd iawn i’w ddisgrifio, du. Na’i gyd wy’n wisgo bron yw du, a mae pawb sy’n fy nabod i’n gwybod mae dillad du sy’ ’da fi. Fydde nhw byth yn meiddio prynu dillad i mi blaw bod nhw’n ddu, ond petai rhywun yn prynu rhywbeth i mi, dweder siwmper porffor neu grys glas, bydde ni byth yn agor y pecyn oherwydd na’i gyd wy’n wisgo yw du!
Ti’n amlwg yn treulio’r rhan fwyaf o dy amser yn siopa ond mae’n rhaid fod na rhywbeth ti’n neud i ymlacio hefyd?
Rhan mawr o'm mywyd i wrth gwrs yw byd y ceffylau, hynny yw, cystadlu ceffylau, edrych ar ôl y ceffylau, a mae hwnna i gyd yn digwydd ar y ffarm wrth gwrs. Felly mae’r dillad wy’n wisgo ar y ffarm yn hollol wahanol i beth wy’n wisgo trwy’r wythnos. Fan hyn ar y ffarm wrth gwrs, delwedd yw’r peth diwetha sydd ar eich meddwl chi nes i chi baratoi ar gyfer y sioeau.