



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Iago Griffiths yn weithiwr proffesiynol ifanc yn ne ddwyrain Llundain, ac yn wreiddiol o Borth y Gest ger Porthmadog. Cawn ddysgu sut y mae bod yn un o Gymry Llundain wedi dylanwadu ar ei steil personol ef.
Sut fath o ardal yw Bermondsey?
Mae Bermondsey’n ardal reit ‘up and coming’, mae o’n agos at ganol y ddinas, Canary Wharf a’r canolfannau ariannol. Fe gath yr ardal ei chwalu’n gyfan gwbl yn ystod y Blitz, felly does 'na ddim lot o hen adeiladau yma, dim ond lot o stadau cyngor a adeiladwyd yma yn y pumdegau wedi’r rhyfel. Ma’ na drawstoriad rhyfedd yma rhwng y bobl broffesiynol ifanc a’r hen gymuned ‘Cockney’ traddodiadol. Yn y bore mae llif o bobl yn eu siwtiau crand yn gadael i fynd i’r gwaith, wedyn ar ôl tua 10 mae’r Cockneys yn ail-feddiannu’r lle. Dwi’n gweithio i Gyngor Lambeth, fel swyddog adfywio yn delio gyda buddsoddiadau mewnol.
Er dy fod di’n byw yn y ddinas, wyt ti’n hogyn traddodiadol ac yn hoffi’r syniad o fyw mewn cymuned?
Dwi’n licio pethau traddodiadol a theuluol ac yn hoff o’u cymysgu gyda phethau mwy modern, yn enwedig yn fy steil dillad. Er enghraifft, mae hon yn edrych fel rhywbeth eithaf modern y byddi rhywun yn medru ei gael o Diesel, ond mae o’n rhan o lifrau milwrol fy hen ewythr, brawd Nain, ac mi oedd o’n gwisgo hon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Oes gen ti steil gwahanol ar gyfer y gwaith ac ar gyfer cymdeithasu?
Mae disgwyl i’r dynion wisgo siwtiau a chrysau i’r gwaith. Mewn un ffordd dwi’n licio hynny achos dwi ddim yn gorfod poeni am be’ i wisgo yn y bore, yr unig ddewis sy’n rhaid i mi wneud yw pa dei! Dwi’n hoff o wisgo siwt oherwydd mae’n creu ryw fath o bersona gwaith ac am mod i’n gwisgo’n broffesiynol, dwi’n teimlo’n fwy proffesiynol. Ma’ hynny’n golygu fod gen i ffin rhwng dillad gwaith a bywyd cymdeithasol a dwi’n hoffi eu cadw’n wahanol iawn. Ym mhob rhan o Lundain mae fel petai naws gwahanol yno, ac fe fydda i’n gwisgo i adlewyrchu’r naws hynny. Er enghraifft yn ardaloedd Shoreditch a Hoxton, mae pobl yn gwisgo steil sy’n debyg i’r hyn mae Russell Brand yn ei wisgo, waistcoats ac ati.
Beth sy’n arbennig am yr ardal yma o Lundain?
Dwi’n hoff iawn o’r ffaith mod i ger y dŵr. Ges i’n magu ym Morth-y-gest, a phan ti’n cael dy fagu wrth ymyl y dŵr ma’ ‘na rhyw ymlyniad â’r môr sy’n gwneud i ti hiraethu amdano. Dwi’n dueddol i fynd i ganol y ddinas i siopa am ddillad. Ond ma’ ‘na le reit ddiddorol ym marchnad Spitalfields lle maen nhw’n gwerthu dillad vintage reit resymol.
Ydy’r ffaith dy fod ti’n Gymro yn effeithio ar yr hyn wyt ti’n ei wisgo?
Efallai ei fod o’n effeithio’r lliwiau dwi’n gwisgo. Mae lot ohonyn nhw’n frown neu’n wyrdd ac yn adlewyrchu byd natur a chefn gwlad. Efallai fod hynny’n arwydd o le dwi’n dod. Dwi’n hoff o ddefnyddiau fel brethyn a gwlân sy’n cael eu hystyried yn ddefnyddiau gwladaidd. Yn Llundain mae rhywun mor anhysbys yng nghanol y dorf. Mi fedr rywun gerdded i lawr y stryd mewn rhywbeth outrageous a does neb yn sylwi a neb yn sbïo, felly ma’ hynny’n wedi’n ysbrydoli fi i arbrofi gyda lliwiau gwahanol.
Wyt ti’n debygol o ddychwelyd i Gymru yn y dyfodol?
Ar hyn o bryd dwi’n hapus iawn gyda’r bywyd sydd gen i yn Llundain, ond pwy a ŵyr, hwyrach mewn deng mlynedd y bydda i wedi ‘laru ar y lle!
- Bob nos Fercher 20:25