Cwpwrdd Dillad: Ian Cottrell
CWPWRDD DILLAD: Ian Cottrell | Wendy Edwards
Ian Cottrell
Ian Cottrell
Ian Cottrell
Ian Cottrell

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae bron popeth ym mywyd Ian Cottrell yn troi o amgylch cerddoriaeth, gan gynnwys ei ddillad.

Ian Cottrell

Ydy ffasiwn yn bwysig i ti?

Dwi’m yn meddwl mod i’n dilyn ffasiwn. Dwi’n meddwl mod i wedi cyrraedd ryw fath o oedran a meddylfryd lle dwi ddim yn gorfod mynd i’r stryd fawr bob dydd Sadwrn. Dwi jyst wedi ffendio ryw fath o steil lle dwi’n gyfforddus hefo fo. Dwi wastad wedi ei weld o’n drist os wyt ti’n dilyn ffasiwn ac yn edrych fatha pawb arall.

Ian Cottrell

Beth ydy dy steil di?

Ma’n steil i yn eitha’ syml. Dwi’n dewis petha’ sy’n gyfforddus arna i a sy’ ddim yn deud, “hei pawb edrych arna i, fi ydy Ian Cottrell.” Ond weithia ma hi’n neis cael cwpwl o grysa-t pan ti’n DJ’o sy’n deud pwy wyt ti a sy’n trosglwyddo’r neges o be ti’n trio ‘neud.

Ian Cottrell

Mae gen ti gasgliad mawr o grysau-t!

Dwi wastad wedi bod mewn caraid â cerddoriaeth felly mae lot o’r grysau-t a chrysau sydd gen i yn adlewyrchu y math o gerddoriaeth oedd o gwmpas yn y cyfnod pan o’n i yn prynu nhw. Dwi’n edrych yn ôl dros rhai o’r grwpia o’n i’n hoffi a ma’ nhw dal yn eitha cool.

The Smiths, Hatful of Hollow, syml iawn ond dal yn effeithiol.

Ian Cottrell

Mae’r crys yma yn edrych yn hen!

Dyma un o’r petha’ hyna sy’ gen i, a ges i o yn y ‘Radio 1 Roadshow’ enwog oedda nhw yn arfer ‘neud ar ddiwedd yr 1980au. Mi ddoth o i Fae Colwyn neu Rhyl yn ‘88 dwi’n meddwl. A dwi dal i wisgo’r crys-t rwan a ma’ pobl yn dod ata fi a deud, “where did you get that t-shirt from?”

Ian Cottrell

O le wyt ti’n cael yr holl grysa-t yma?

Be dwi’n hoffi ‘neud ydy prynu lot o grysa-t pan dwi’n mynd i gigs achos ti’n methu prynu lot o’r rheiny yn y siopa. Ti ond yn gallu ei cael nhw yn y gigs felly ma’ nhw yn betha prin. Dwi’n cymryd lot fawr o amser yn edrych ar betha ac os oes yna rywbeth yna dwi ddim cweit yn siwr amdano fo, er enghraifft, o’n i mewn gig a mi oedd y grŵp yma yn chwara, We are Scientists, a dwi ddim yn hoffi porffor. Nes i dreulio tua 20 munud yn sbio ar y crys yma a meddwl, ydy hwn yn mynd i weithio neu beidio?

Ian Cottrell

O le ddaeth y crys-t yma hefo chwaraewr recordiau arno fo?

Ma hwn gan grŵp Ffrengig o’r enw Phoenix a dwi jyst yn licio’r cynllun ar y crys.

Mae’n ddiddorol achos taswn i yn dy weld di’n gwisgo’r crys yma fasa gen i ddim syniad mai enw band ydi o, ond ma ‘na rywun yn rwla sy’n mynd i gael yr un tast mewn cerddoriaeth - a mae o’n cysylltu chi rywsut wedyn tydi.

Mae o fel perthyn i ryw glwb cudd dwi’n meddwl!

Ian Cottrell

Be ydy’r dylanwad mwya ar dy steil di?

Yn hoff grŵp i erioed ydy’r Pet Shop Boys, jyst oherwydd bod ganddyn nhw gymaint o ddychymyg o ran eu delwedd. Ma’ nhw yn cymryd cymaint o ofal dros yr holl fyd ma’ nhw yn ei greu, a ma hwnna yn debyg iawn i’n chwaeth i mewn dillad, cerddoriaeth, steil, cartre a phopeth. Ond doedd hynna byth rili wedi benthyg ei hun i ‘Diffiniad’, achos dwi’n meddwl mai dim ond fi oedd yn hoffi y math yna o beth. Roeddan i yn eitha ymwybodol yn bod ni ar lwyfan ac yn perfformio, ond dwi’n meddwl mai dim ond ar ddiwedd ein cyfnod ni wnaethon ni benderfynnu y dyla ni i gyd wisgo yr un peth. Felly ar gyfer ein gig ola ni, naethon ni i gyd wisgo glas neu du……roedd hynna wedi cymryd lot o feddwl!!

Dwi ddim yn gwisgo hwn, mae o jyst yma i fy atgoffa fi pa mor fawr oedd y crysa-t ar ddechrau 90au!! Crys-t ‘Diffiniad’ ydy hwn hefo Bethan Richards ar y ffrynt.

Dwi’n hoffi Brigyn. Ma nhw yn un o’r grwpiau sydd hefo delwedd eitha’ cry’ yng Nghymru. Ma’ nhw yn cynllunio popeth ei hunain hefyd o ran i cloriau recordiau, crysau-t a’r holl becynnu - ma hynny yn cyd-fynd a’n aesthetics i o gerddoriaeth.

Ian Cottrell

Ydy steil yn rywbeth sydd yn y teulu?

Roedd yn nhad yn tynnu llawer o luniau. Roedd o wastad hefo camera, felly dwi’n cofio fo’n tynnu lot o luniau o fi a’n chwaer ac ro’n i’n edrych ar luniau hefyd, felly roeddwn i’n eitha ymwybodol o ddelwedd o oedran ifanc. Dwi’n gwisgo lot o grysa fy nhad a crysa fy nhaid hefyd. Dwi’n cofio mynd drwy gwpwrdd fy nhad a fy nhaid pan o’n i tua 15 neu 16 pan o’n i’n dechra ffendio ryw fath o steil fy hun ac yn trio cael one up ar fy ffrindiau, felly nes i fynd i’r cwpwrdd dillad.

Ian Cottrell

Crys-t dy daid ydy hwn ynte, wyt ti’n ei gofio fo yn ei wisgo?

Hwn ydy fy hoff grys erioed. Hwn oedd crys fy nhaid o ddiwedd y 60au, dechrau’r 70au. Dwi wedi gweld llunia ohono fo yn gwisgo hwn a dwi jyst yn meddwl i fod o yn timeless. Dwi wedi bod yn ei wisgo fo ers i mi ffendio fo yn y cwpwrdd dillad 15 mlynedd yn ôl – a mae o dal i ffitio.

Nes i ffendio rhain hefyd a dwi’n gwisgo nhw lot. Mae’n rhaid ei bod nhw wedi dod fel pâr, matching set. Ma’r lliw yn briliant, mae’n neis dal i allu i gwisgo nhw. Dwi’n cofio yn ‘Steddfod Wyddgrug yn 1991 pan o’n i yn 18, o’n i yn gwisgo côt fy nhaid oedd newydd farw y flwyddyn yna a mi nath rhywun roi sigaret wrth ymyl y gôt a llosgi twll ynddi. Mi es i yn wallgo, yn mental! Mae o fel dy fod di dal yn cadw gafal ar rhan o dy deulu, yn rhywbeth tangible sydd gen ti i gadw cof ohonyn nhw.

Ian Cottrell

Mae gen ti ddipyn o gotiau hefyd.

Un ail law ydy’r siaced yma, tua £15, a dwi’n i charu hi, mai’n lyfli. Mae o’n gneud i mi deimlo fel Barry Sheen neu rhywun fel’na.

Mae hwn yn ail law hefyd a ‘nes i gal o mewn siop yn un o’r arcades yng Nghaerdydd. Ti ddim yn cael llawer o siacedi hefo’r peth crwn ar y gwaelod, felly pan ti’n gwisgo fo mae’r ffit yn edrych yn rili neis.

Mae hon yn un gwych arall eto, ma hi’n eitha fitted ac yn retro. Mae’n edrych fel rwbath allan o Starsky and Hutch yn y 70au. Dyma oedd fy nhad yn wisgo yn ganol y 70au, felly ‘falla mod i jyst yn trio bod fatha fo!

Ian Cottrell

Mae cerddoriaeth yn newid trwy’r amser, yn esblygu, be am dy steil di? Ydio’n mynd i newid yn yr un ffordd?

Dwi’m yn meddwl y gneith o newid lot. Dwi’n edrych ar bobl sydd ‘falla chydig bach yn hŷn na fi a dwi’n meddwl ei bod nhw’n edrych yn eitha cool, mi faswn i’n licio gwisgo fel nhw. Ond ma ‘na rai pobl dwi’n sbio arnyn nhw a ma nhw yr un oedran, a dwi’n meddwl ‘no way, grow up!’ Ond mi faswn i yn ddigon hapus yn gwisgo crys-t gwyn, jeans a trainers. Petha ddigon syml ti’n teimlo’n gyfforddus a hollol hamddenol ynddyn nhw. Dwi’n meddwl fod gen i bersonoliaeth ddigon cry’ sy’n dod drosodd fel bo fi ddim yn gorfod gwisgo dillad i neud i fyny am y ffaith yna.