



Be dwi'n hoffi am ddillad ydi details bach, dwi'n edrych am siap y pethe ac at y defnydd, ond hefyd at fanylion. Dwi'n edrych yn fanwl ar bethau.
Darlithydd a chyfarwydwr ffilm ydi Ieuan Morris ac mae ei gwpwrdd yn orlawn o ddillad difyr.
Nia: Ti'n cofio pan oeddet ti'n blentyn bod yn ymwybodol o ddillad a steil a ffasiwn o gwbl?
Ieuan: Dim o ran dewis fy nillad i ond dwi'n cofio wir casau dilledyn - pâr o drowsus brown oren llachar ac oedd mam isio fi wisgo nhw, ma' rhaid bo' fi tua 6 neu 7 ac oedd gas gen i'r trowsus ma a'g o'n i'n cuddio nhw mewn gwahanol lefydd ac oedd hi'n ffeindio nhw tu ôl i gypyrddau. Dwi'n meddwl yn ddiweddar am bo' fi'n heneiddio, a chyrraedd hanner cant, dwi'n meddwl dwi 'di dechrau bod yn fwy dewr yn fy newisiadau, fel ryw 'final fling' er mwyn gwneud ryw argraff ar bobl. Dwi ddim yn gwybod pam.
Ieuan: Nes i brynu hon mewn lle ail law. Dwi'n meddwl mai un saithdegau wreiddiol ydi hi a Co-op nath neud hi - 'di o ddim yn designer label, ond ma' hon rhy fach i fi a dweud y gwir ond oedd raid i mi ei phrynu oherwydd y patrwm. Mae rhain i gyd o'r un siop, ac mae nhw'n grysau 70'au gwreiddiol. Mae'n siwr bo' nhw wedi ffeindio nhw mewn warws neu rwbeth ond o nhw gyd yn llai na £20, mae nhw gyd yn polyester cynnar a'n crafu tipyn. Ond, mae'r cynlluniau yn wych.
Ieuan: Nes i brynu hon yn Mexico City ryw bymtheg mlynedd yn ôl. Dwi'n cofio'r siop - fatha Gents Outfitters - oedd yn llawn dillad bob dydd achos mae'r steil yma yn boblogaidd yn Ne America. Guyabera - just crys efo pedwar poced, alli di ei gwisgo fel siaced mewn gwirionedd.
Ieuan: Oedd mam yn deud ddylwn i byth wisgo coch efo fy ngwallt, wel sgeni i ddim gwallt ar ôl erbyn hyn - gwallt coch sy' gen i, oedd gen i. Felly ma' gen i un crys coch - crys cowboy, sy'n neis, ond dwi ddim di gwisgo hi lot. Dwi'n meddwl na i wisgo hi ar gyfer y gêm rygbi nesa.
Ieuan: Os 'sa gen i fwy o bres fyswn i'n gwario mwy ar sgidiau. Dwi 'di bod a diddordeb mewn sgidiau erioed a ma' gen i rai sy wedi para ers blynyddoedd. Mae gen i bâr o cowboy boots brynes i yn Mexico tua pymtheg mlynedd yn ôl. Dwi ddim yn gwisgo nhw'n aml iawn, ond mae nhw'n sgidiau neis.
Nia: Rwan ta, mae'r jaced yma yn lloerig! Mae'n gret, ma'r tu fewn cystal a'r tu allan!
Ieuan: Wel, odd dyn odd yn byw dau neu dri drws i lawr y stryd jest yn clirio ei gwpwrdd allan a nath o ofyn os o'n i eisiau edrych i weld os oedd 'na unrhywbeth o'n i eisiau. Roedd rhaid i mi gael hon. Mae hi'n silc.
Nia: A'r siwt yma, mae na hanes efo hon d'oes?
Ieuan: Wel, nes i wisgo hon yn ddiweddar ar gyfer seremoni gwobrwyo Baftas yn Llundain. Oedd y ffilm fer nes i neud flwyddyn dwytha wedi cael enwebu am wobr ac o'n i ddim eisiau gwisgo siwt gyffredin. Es i lawr i gwmni gwisgoedd theatrig i weld beth oedd gennyn nhw. Steil Regency ydi hi yn amlwg a nes i wisgo hi gyda throwsus nes i brynu mewn sêl £10 a crys t du a hances boced ddu.
Ieuan ar ddillad...
Weithie ti jest yn gweld pethe a ti'n gwybod bo raid ti gael nhw a mae rhai pethau dwi dal i gofio nes i ddim prynu a ddylen i wedi gwneud.