Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Ifanwy Williams
Ifanwy Williams
Ifanwy Williams
Ifanwy Williams
Ifanwy Williams

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Ifanwy Williams yn wraig sy'n hen law ar gael bargen.

Ifanwy Williams

Be mae dillad yn ei olygu i chi?

Dwi'n meddwl fod eich dillad chi yn adlewyrchiad o'ch personoliaeth chi. Ac os ydy pobl yn dweud, "mae huna'n edrych yn olreit", wel, dwi'n teimlo'n well, mae'n rhoi ryw buzz i rywun.

Ifanwy Williams

Dwi wedi clywed eich bod chi'n ddynes sy'n licio bargen, ydy hynny'n wir?

Pan dwi'n mynd i mewn i siop, mae'r 'Sale Rail' yn fy nenu i ar unwaith. Mae o fel tasa fo'n deud, "Dewch, dewch ata i gynta'". Mae'n golygu bod rhywun yn cael defnydd o ansawdd ac eto heb orfod talu pris mawr iawn maen nhw ofyn am ddillad dyddiau yma.

Ifanwy Williams

Pa wisg ydy'r fargen orau 'da chi wedi ei gael?

Ar ôl bod yn siopa, dwi'n cadw'r labeli sydd ar y dillad am hwyl. Mi oedd y siwt biws yma i fod yn £500, ond, wnewch chi ddim credu hyn, dim ond £25 dalais i amdani. Dwi'n teimlo'n hapus yn ei gwisgo hi.

Ifanwy Williams

Pam fod gennych chi gymaint o ddiddordeb mewn dillad?

Ma' hwna'n gwestiwn go fawr. Roedd gen i chwaer hŷn a mi gollodd hi blentyn bach. Roedd hi'n ddynes eitha' doeth a dwi'n cofio hi'n dweud wrtha'i'r adeg hynny, "Gwisgwch eich dillad gorau rŵan, mae hwnna yn rhoi hyder i chi i wynebu unrhyw anhawster", a dwi'n licio meddwl erbyn hyn, fod gen i ddigon o ddillad i wynebu unrhyw amgylchiad.

Ifanwy Williams

Pa bleser ydych chi'n ei gael o ddillad?

Ar ddydd Sul, ar ôl bod yn y Capel yn y bore, dwi'n mynd i weld fy mrawd sydd yn 94. Erbyn hyn mae o wedi mynd yn dawel ac yn ddi-ddweud a dim llawer o ddiddordeb, ond pan fyddai'n mynd yna, mai'i llygada o fel tasan nhw'n goleuo. Mae o'n licio cael gafael ar rywbeth sidan, rhyw sgarff neu rywbeth mae'n ei hoffi, mae'n amlwg bod o'n rhoi pleser iddo fo, mae o felly'n rhoi pleser i mi.

Ifanwy Williams

Mae'r siwt a'r sgarff yma yn fendigedig, o le gafoch chi hon?

Mi brynais i'r siwt yma'n gymharol ddiweddar, yn Llandudno, a wedyn ges i'r sgarff yn Efrog. Ma' hi'n sidan ac mae fy mrawd wrth ei fodd â hi.

Ifanwy Williams

Ydych chi'n un sydd yn gwisgo fyny pob dydd?

Yndw. Gweithiwr cymdeithasol oedd fy ngwaith i, ac wedyn mi gychwynnais wneud gwaith gwirfoddol. Ma' yna beryg wrth i ni fynd yn hŷn, mae'r ffaith ein bod ni'n codi yn y bore, yn gwisgo, rhoi colur ac yn mynd allan - dwi'n meddwl fod hynna yn ychwanegu at werth eich bywyd chi a hefyd mae'n sicr yn rhoi pleser mewn bywyd.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales