Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Ilid Anne Jones
Ilid Anne Jones
Ilid Anne Jones
Ilid Anne Jones
Ilid Anne Jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Ilid Anne Jones yn arweinydd trwsiadus côr Hogiau'r Ddwylan.

Ilid Anne Jones

Ydych chi wedi bod yn hoff o ddillad erioed?

Miwsig, dillad a bwyd yw'r tri chariad mwyaf sydd gen i dwi'n meddwl. Dwi wedi licio dillad erioed a dwi'n meddwl fod o'n rhedeg yn y teulu i ddweud y gwir. 'Da chi 'di cael eich magu a gweld eich rhieni a'ch teulu yn cymeryd pride yn y ffordd maen nhw'n troi allan a wedyn da chi wedi cael eich magu yn y ddelwedd ffasiwn.

Ilid Anne Jones

Mae gennych chi swydd bwysig iawn gyda chôr Hogiau'r Ddwylan yn does?

Dwi'n arwain côr Hogiau'r Ddwylan sy'n hanu o ddwy ochr yr Afon Menai. Mae'r cyfartaledd oed o gwmpas y pedwar deg, pedwar deg pump, felly 'da ni'n gôr anarferol o ifanc o ran oed. Mae gen i ddynion eitha' ffasiynol yn y côr a maen nhw'n gwybod be sydd yn eu siwtio nhw.

Ilid Anne Jones

Ydy o'n bwysig bod eich dillad chi fel yr arweinydd yn cydweddu gyda gwisg y côr?

Ydy, achos does yna ddim byd gwaeth na gweld rhywun yn sefyll o flaen côr, mewn ffrog oren, a'r côr yn gwisgo 'tei-bôs' coch. Da chi'n trio rhoi rhyw fath o ddarlun hyfryd i'r gynulleidfa edrych arno fo. Person ffrog ydw i ar y cyfan, ond dim byd rhy fussy neu rhy brysur. Dwi'n hoffi lliwiau fel du, navy blue, piws tywyll, lliwiau daear, tywyll.

Ilid Anne Jones

Mae'r gôt ddu a gwyn yma'n fendigedig, o le gafoch chi hon?

Côt Karen Millen ydi hon a ma' 'na stori arbennig tu ôl iddi. Mi oedd mam a fi ar wylia yn Llundain haf diwetha', a mi aethom ni am fwyd i'r bwyty 'ma wrth ymyl gwesty'r Ritz. Mi eisteddon ni lawr, a dyma mam yn dweud wrtha i, "Mae 'na ddyn yn eistedd tu ôl i ti yn fanna, dwi'n gwybod pwy 'di o, ond 'di o ddim yn stopio syllu arnom ni" medda'i. Peth nesa dyma'r waiter yn dod atom ni a gofyn, "There's a gentleman in here asking what you two ladies are drinking?" A dyma fi'n gofyn am Chablis a mam am sudd oren. Hanner awr wedyn dyma'r waiter yn ôl, a deud "The gentleman is asking again, could he buy you another drink?" A dyma fi'n deud "Yes please, I'll have another Chablis" a dyma mam yn deud, "I'm fine thank you, I can't drink any more orange juice". Fel oeddem ni'n talu ag yn mynd allan dyma ni'n digwydd gofyn pwy oedd yn gyrru'r diodydd, ac os mai'r dyn oedd yn syllu arnom ni oedd o. Ac roedd mam yn iawn, Alan Sugar oedd o. Ma'n amlwg fod y gôt yma wedi creu argraff fawr arno fo!

Ilid Anne Jones

Pan mae'n dod at y côr, ydych chi'n berson ofergoelus?

Dwi yn berson ofergoelus mewn rhai pethau. Os ydy'r côr wedi colli cystadleuaeth a finnau mewn ffrog, go brin y gwnâi wisgo'r ffrog honno yn fuan iawn wedyn mewn cystadleuaeth. Mae gen i nifer o ffrogiau neis na wnai'm eu gwisgo nhw rŵan oherwydd ein bod ni heb gael llwyddiant. Y ffrog sequins yma ydy'r ffrog ddryta' dwi wedi prynu erioed, er, fyddai ddim yn gwisgo llawer arni hi rŵan oherwydd ein bod ni heb ennill yn y genedlaethol yr un tro nes i ei gwisgo hi.

Ilid Anne Jones

Mae'r ffrog efydd yma yn un gwahanol, ar gyfer pa achlysur y prynoch chi hon?

Mi brynais i hon ar gyfer priodas ffrind. Ond, mi aeth Dewi a fi ar ein gwyliau i Dubai llynedd ar achlysur pen-blwydd priodas 25 mlynedd ac mi wisgais i hon yno hefyd. Mi aethon ni i'r Burj al Arab, sef y gwesty 6 seren sydd yno a mi ddaeth yna Arab i eistedd atom ni ar y bwrdd, ac oedden ni yn methu cael gwared ohono fo. Mi oedd o'n siarad efo fi yn fwy nag efo Dewi, ond pan es i i'r tŷ bach, mi ofynnodd i Dewi os oedd o awydd fy ngwerthu i ychydig o gamelod!

Ilid Anne Jones

Mae'r ffrog yma dipyn yn wahanol i'r gweddill, ma' hi'n fyr ac yn batrymog. At ba achlysur gawsoch chi'n ffrog yma?

Mae hon yn ffrog newydd sbon. Mai'n torri tir newydd yn gyfan gwbl i mi! Ffrogiau plaen sydd gen i i gyd, ond ma' hon yn ffrog batrymog o Karen Millen. Mi brinish i hon i fynd i'r seremoni yn neuadd prifysgol Bangor lle oedden nhw'n anrhydeddu'r archesgob Desmond Tutu o Affrica a David Attenborough y naturiaethwr a'r cynhyrchydd ffilmiau. Mi oedd y côr yn canu i'r bobl arbennig yma a gan fod y perfformiad yn digwydd yn y bore, doedd o ddim yn addas i mi wisgo ffrog hir.

Ilid Anne Jones

Pa mor bwysig yw dillad i chi?

Pan da chi'n sefyll o flaen côr neu o flaen dosbarth, mi fyddai wastad yn teimlo fod gen i hyder ynof fi'n hun oherwydd mod i'n gwisgo'r wisg berthnasol i'r achlysur hwnnw. Pan fo dynes yn sefyll o flaen deugain o ddynion, dydy hynny ddim yn hawdd, yn enwedig o flaen deugain o ddynion proffesiynol sy'n gwybod mwy na chi am nifer fawr o bynciau! Ond 'da chi'n teimlo bod gennych chi hyder pan dai chi mewn siwt neu pan da chi mewn ffrog dda.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales