



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Sut es di ati i brynu’r holl ddillad ar gyfer mynd mewn i dŷ’r Big Brother?
Ro’n i eisiau gwisgo rhywbeth classy i fynd mewn, a dod mas mewn rhywbeth sexy. Ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w brynu. Gan ei bod hi’n ddechrau haf roedd hi’n anodd. Roedd yn rhaid i mi brynu bikini, ond doedden nhw ddim allan yn y siopau eto.
Oedd gen ti rywun hefo ti yn siopa, fel ffrind neu steilydd i dy gynghori di?
Daeth ffrind gyda mi am benwythnos o siopa, ond ro’n i’n methu dweud y gwir wrthi pam mod i yn mynd i siopa. So, mi ddudes i mod i yn mynd ar wyliau am bythefnos ac felly fe ddaeth hi gyda mi.
Sut nes di benderfynu ar y dillad oeddet ti am wisgo ar y noson gyntaf?
Pan o’n i’n mynd mewn, o’n i’n meddwl fod pawb yn mynd i ngweld i, opening night, ac o’n i wir eisiau gwisgo rhywbeth classy. Pan weles i’r sgert hir, mi feddyliais i ‘perfect’! Dyna’n union o’n i ishe, rhywbeth summery i fynd gyda’r top melyn. O’n i ishe gwisgo rhywbeth oedd yn Caribbean neu Spanish style. Ro’n i am fynd fewn yn classy a dod mas fel merch rywiol, a dyna be nes i.
Mi nes di wisgo tipyn o’r dyngaraîs yma yn y tŷ yn do?
Ma’ nhw jyst mor gyfforddus o gwmpas y tŷ, a dyna pam nes i brynu nhw er mwyn mynd a nhw hefo fi i’r tŷ.
Ro’n i’n meddwl mai Nikki oedd bia’r top yma?
Na. Fi sydd bia’r top yma, ond roedd Nikki’n ei wisgo fo bob dydd hefo hotpants. Dwi’n meddwl ei bod hi’n ei hoffi e lot.
Pam wnes di ddewis gwisgo’r top hwn gyda’r shorts bach i adael y tŷ?
Ro’n i’n meddwl fod hon bach yn rhywiol i wisgo i ddod allan. Nes i ddim gwisgo fest o danno, ond mi oedd gen i fra oedd yn cuddio popeth!
Roeddet ti’n gwisgo lot o ddillad casual yn y tŷ. Ai dyna beth wyt ti’n wisgo fel arfer?
Ie. Pan dwi o gwmpas y tŷ dwi bob tro’n gwisgo capiau, siwmperi a throwsusau llac, cyfforddus, am mod i jyst ishe ymlacio.
Pam dy fod di wedi dewis y ffrog yma ar gyfer cystadleuaeth Miss Wales?
O’n i’n licio’r lliw, baby pink, ac roedd yr holl sbarcyls yn edrych yn grêt ar y llwyfan. Ro’n i hefyd yn licio’r boob-tube effect, yn dynn ar y top ac yn mynd allan ar y gwaelod. Dwi’n falch rŵan mod i wedi dewis hon.
Es di ‘mlaen wedyn i gystadlu yn Miss World a gwisgo hon.
Mi wisgais i hon yn China ar gyfer Miss World, noson fy mhen blwydd i yn un ar hugain. Dwi dal i’w gwisgo hi nawr i bartïon a dwi bob tro yn cael lwc wrth ei gwisgo hi!
Dyma wisgais di i’r finale?
Ie, roedd y merched i gyd yng nghystadluaeth Miss World yn gorfod gwisgo’r ffrog yma ar gyfer y finale mawr.
Disgrifia dy noson ola’ yn nhŷ’r Brawd Mawr.
Roedd rhywbeth yn fy mhen i yn dweud mod i’n gadael y noson honno. Felly roeddwn i’n paratoi drwy’r dydd, yn rhoi colur ymlaen, gwneud fy ngwallt ac ymlacio. Roeddwn i’n barod i fynd erbyn hynny, a ro’n i eisiau mynd allan yn edrych fy ngorau, a dyna wnes i.