Cwpwrdd Dillad: Islwyn Parry
Islwyn Parry
Islwyn Parry
Islwyn Parry
Islwyn Parry

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Islwyn Parry

Sut fydda chi’n disgrifio eich steil chi?

Mae cyd-weddu yn bwysig iawn i mi, pethau sy’n mynd gyda’i gilydd. Dydw i ddim yn ddilynwr mewn unrhyw beth dwi’n ei wneud, dwi isho torri fy mhwyth fy hun. Dwi’n hoff o wneud pethau gwahanol - nid er mwyn bod yn wahanol, ond er mwyn bod yn fi fy hun. Mae o’n ymestyniad o mhersonoliaeth i a deud y gwir - y pethau dwi’n wisgo a’r lliwiau dwi’n ei wisgo, a’u bod nhw yn cyd-weddu, achos dwi’n licio bod yn drefnus.

Islwyn Parry

O le ddaeth y diddordeb mewn ffasiwn?

Roedd fy nheulu i’n drwsiadus. Roedd fy nhad yn ddreifar bws a oedd bob amser yn gwisgo siaced a throwsus y cwmni, bob amser yn drwsiadus a chap pig ganddo ar ei ben. A dwi’n ryw ddyfalu fod rhan ohono wedi dod o fan yna. Roeddwn i’n hoff iawn o wisgo blazer hefo’r bathodynnau, ar tei a chrys gwyn pan o’n i’n y coleg, roedd bod yn drwsiadus felly yn bwysig iawn i mi yn y cyfnod hwnnw hefyd. Ar ôl ymddeol, chi sy’n trefnu eich bywyd eich hunan, a phan fyddai yn y gawod dwi’n meddwl, tybed beth dwi’n mynd i wisgo heddiw? Ond mae’n rhoi lot o bleser i mi - y broses o benderfynu. Allech chi ddweud yn y diwedd mai rhyw fath o ‘hunch’ ydio, ac a dweud y gwir dwi’n byw mywyd braidd felly, ar ‘hunches’ neu intuition, a ma' hynny'r un mor wir am be chi’n wisgo. Ond mae’n rhaid i mi deimlo’n gyfforddus, ac mae’r broses o fynd drwy’r penderfyniad o be dwi’n mynd i wisgo yn rhan o mywyd i.

Islwyn Parry

Mae hon yn siwt anghyffredin iawn!

Dwi’n hoff iawn o hon, mae ganddi goler Nero, ac mae hon wedi dod o’r Eidal, mae’r leining yn biws a’r gwneuthuriad yn dda. Un o’r pethau am siwtiau o’r cyfandir ydy, tyda’ chi byth yn cael siwt hefo trowsus sydd wedi ei fesur yn barod. Maen nhw’n eich mesur, ac yna yn ei dorri i chi yn y siop fel rhan o’r gwasanaeth.

Islwyn Parry

O le da chi’n cael eich dillad i gyd?

Ar y cyfan erbyn hyn ma’ nhw’n dod o Ffrainc bron yn ddieithriad. A’r rheswm dwi’n meddwl ydy, ma’r merched a’r dynion yn Ffrainc yn dangos parch at ddillad. Dwi’n ddyn sy’n defnyddio bag llaw, achos mi gollish i sbectol yn Ffrainc flynyddoedd yn ôl oherwydd mod i’n ei chario hi yn fy llaw. Mae pobol yn sbïo yn amheus arna’i pan mae gen i bwrs yn fy llaw, ond sgen i ddim problem o gwbl. Dwi’n hoff ohonyn nhw ac mae popeth yn daclus a threfnus, a tydi mhocedi fi ddim yn sticio allan!

Islwyn Parry

Mae gennych chi bentwr o ddillad yma.

Siwmperi haf ydy'r rhain. Dwi’n licio'r rhain, ac wrth gwrs mae yna grys i fynd hefo pob un. Crys oren hefo siwmper oren, crys glas hefo siwmper las. Mae’r ffaith eu bod nhw yn mynd hefo’i gilydd yn bwysig iawn. Dwi’n hoffi lliw, ac mae yna duedd i ddynion wisgo llwyd a du, a rhyw liwiau felly, ond dwi di bod yn wahanol erioed. Dyna sydd tu ôl i’r ffordd dwi’n dewis dillad ac ati, mod i ishe mynegi fy hun.

Islwyn Parry

Ydych chi’n gwisgo hetiau?

Dwi’n ddyn het. Pan mae’r gwallt y cyflwr mae o gen i, yn enwedig pan mae hi’n wyntog, mae’n rhaid cael het. Het lwyd hefo dillad tywyll, ond byth hefo dillad brown. Het frown gyda dillad brown.

Islwyn Parry

O ble ddaeth eich diddordeb mewn lliwiau?

Mi faswn i’n licio meddwl mai fi ydy’r meistr, ond y ffaith ydy bod gen i wraig sydd hefo diddordeb mawr mewn lliwiau. Mae’n wniadwraig reit dda hefyd, ac mae hi’n gwneud ambell i grafat a sgarff i mi.

Islwyn Parry

Rydych chi’n sgïo hefyd ?

Mi ddechreuais i sgïo trawsgwlad ar ôl i mi ymddeol. Digwydd mynd i Norwy yn y campervan, a dyma fi’n gweld y merched ‘ma yn i bicinis yn sgïo - dyna syniad da medda fi wrth fy hun! Dyma fi i’r siop, ac am £43 fe ges i bâr o sgis, sgidiau a ffyn. Da chi’n gwisgo lycra du, sawl leiar pan da chi’n gwneud sgio trawsgwlad, fel bo’ chi’n gallu eu tynnu nhw yn ôl y tywydd.

Islwyn Parry

Mae popeth yn cydweddu gyda’i gilydd gennych chi!

Dyma’n dressing gown i, ac fel da chi’n gweld ma hon yn cydweddu gyda gweddill y llofft. Ond nid yn unig hynna, mae yna hefyd ddau drowsus bach a fest sydd yn mynd hefo’i gilydd, ac ar ben hynny wrth gwrs mae’n rhaid cael pâr o slipars. Mi fyddai’n cael fy slipars yn Ffrainc, a fyswn ni byth yn meiddio gwisgo slipars hefo dillad sydd ddim yn cyd-weddu. Felly dwi’n trio cael rhai eithaf cyffredinol - rhain ydy’r flavour of the month ar y funud, wedyn os da ni’n newid y llofft mi fydd yn rhaid mi newid rhain hefyd! Cofiwch mai’r llofft sy’n dod gyntaf ac wedyn rhain, fyddai’r wraig ddim yn caniatáu i mi addurno’r llofft i siwtio be dwi’n wisgo!

Islwyn Parry

Fasa fo’n hunllef i chi droi fyny mewn priodas a rhywun arall yn gwisgo’r un siwt?

Allai ddim dychmygu ffasiwn beth yn digwydd. Fasa’n rhaid iddyn nhw deithio’n bell i wneud hynny. Ond, na, fasa fo ddim yn gymaint o hunllef a fasa fo i ferched. Mi faswn i’n dotio fod gan rywun chwaeth yr un fath a fi. Tydi ddim yn fy mhoeni i fod yna rhywun arall tebyg, ond dwi ddim di gweld y person hwnnw eto!