



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Jamie, o Gorseinion, Abertawe, yn perfformio’n rheolaidd fel Jelvis ac wrth ei fodd gyda phopeth sy’n ymwneud â Elvis.
O ble ddaeth yr holl luniau o Elvis sydd gennyt ti?
Wel, y rhan fwyaf ohonyn nhw dwi’n cael fel anrhegion Nadolig neu ben-blwydd oddi wrth fy nheulu neu ffrindiau eraill.
O ble ddaeth yr enw Jelvis? Achos Jamie ac Elvis yn amlwg?
Wel ie, fe wnaeth e ddechre pryd oeddwn i yn Blwyddyn 7, roedd pawb yn galw fi’n Jelvis - ddim gyda ‘J’ ond gyda ‘G’ oherwydd mod i’n defnyddio gymaint o ‘gel’ yn fy ngwallt i, a dwi dal yn defnyddio fe nawr! Felly dyma fi’n dod lan gyda’r Jelvis gyda J oherwydd mae Jamie yw fy enw i.
Wyt ti’n gwneud dy wallt bob bore?
Mae fy mam yn ei wneud e, ond mae hi’n cymryd rhyw 20 munud i wneud o. Dwi’n hoffi edrych yn dda i fynd i’r ysgol.
Ti sydd yn y llun yma?
Ie, mae fy ffrind i Keighley yn gwneud ffotograffiaeth nawr yn y brifysgol, ac roedd hi wedi tynnu hwnna pryd oeddwn i’n gwneud gig. Dwi’n credu mai yn Y Fenni oedd e.
O ble ges di dy sgidiau swêd glas?
Ges i nhw o Unicorn, lle yn Nottingham. Yn 2004 roeddwn i wedi cymryd rhan yn yr Elvis Convention sy’n cymryd lle ym Mhorthcawl. Oeddwn i’n canu ‘Blue Suede Shoes’, ond doedd gen i ddim blue suede shoes felly roeddwn i wedi ymddangos ym mhapur lleol Abertawe yn gofyn am rhai ac yn y diwedd roedd pobl yn ffonio ni i ddweud ble gallwn ni gael nhw o.
O ble ges di'r bŵts cowboi yma?
Gefais i rain gan fy nhad fel anrheg pen-blwydd o America, o le o enw Sheplers, roedden nhw’n tua 100 punt neu fwy ond dwi’n hoffi nhw. Dwi ddim yn gwybod os na’i wisgo nhw fel Jelvis ond dwi’n hoffi’r steil Apache/Native American hefyd. Dwi’n hoffi defnyddio’r siaced yma gyda jîns, a bŵts, mae’n edrych yn dda.
Beth yw hanes y siwt yma?
Hwn oedd fy ngwisg cynta’ i. Yn 2004 pan oeddwn i’n Blwyddyn 7, roedd rhaid i mi gynrychioli fy nosbarth, a doeddwn i ddim wedi gwneud Elvis o’r blaen. Oedden nhw fel ‘You’ve got the hair, you may as well do it!’ felly wnes i ofyn i Hazel, sy’n byw lawr y rhewl, i wneud e i mi. Oedd e’n dda iawn oherwydd mewn dau ddiwrnod roedd hi wedi creu hwn ac felly roedd e wedi mynd yn rili da yn y cyngerdd.
Beth yw hanes y siaced aur?
Nawr mae hwn yn sbesial iawn i mi oherwydd mis yn ôl roeddwn i wedi troi’n un deg chwech, ac roedd hon wedi cael ei danfon drwy’r post o America gan fy ffrind Craig Parker – sef y No.1 Elvis Tribute Artist yn America. Mae e’n cael ei reoli gan Charles Stone sydd yn ex-tour manager i Elvis hefyd. Felly oedd e’n rili da iddo fe anfon hwn draw i mi.
O ble ges di'r wisg lledr ffantastig?
Nes i gael ei wneud e rhai misoedd yn ôl - roedd rhaid i fi gael fy mesur ac roedd e’n cymryd tua wythnos, pythefnos i’w wneud. Ond pryd es i fas ar y llwyfan am y tro cynta’ yn hwn, oedd y menywod fel ‘wow’ felly roedd e’n rili effeithiol ac yn gweithio’n dda o dan y goleuadau hefyd.
- CWPWRDD DILLAD