Cwpwrdd Dillad: Jane Davies
jane davies
jane davies
jane davies
jane davies

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Dillad a defnyddiau ydi bywyd y gynllunwraig Jane Davies o Ddinbych.

jane davies

Nia: Ai felma nes di ddychmygu fyse dy fywyd di?

David: Wel ie. Pan o’n i’n fach o’n i’n caru gwisgo fyny a nawr pan dwi’n edrych ar beth dwi’n wneud mae’n debyg iawn a dweud y gwir dim ond fy mod yn gwisgo fyny fel oedolyn nawr. Ni’n creu pethau gwych fan hyn, fel 'one-offs’ a phan dwi’n gweld rhywun yn eu gwisgo ar y teledu dwi’n meddwl “Gosh, I did that” felly mae mor 'rewarding’ ac fel breuddwyd sydd wedi’i gwireddu mewn gwirionedd.

jane davies

Nia: Ma’ hyn fel breuddwyd unrhyw ferch tydi, cwpwrdd dillad yma ac adre. Wyt ti’n cael mynd a phethau o’r cwpwrdd gwaith adre weithiau?

David: Galla i os dwishe ond dwi’m yn gallu ffitio fewn i gyd ohonyn nhw! Ond dwi’n lwcus iawn oherwydd alla i wneud un arall i fy ffitio.

jane davies

Nia: Tase rhywun yn dy ffonio heno a’n dweud ma’ 'na barti heno, pa ffrog fyddet ti’n mynd amdani’n syth i’w gwisgo?

David: Tipyn bach o bling dwi’n meddwl. Rhywbeth 'girly’ a coch yw fy lliw i. Rhywbeth rili 'sassy’ a dramatig fel hon.

jane davies

Nia: Mae yna lot o goch yn dy gwpwrdd dillad di adre…

David: Dwi’n caru coch. Ma’ coch yn liw hapus i mi. Dyma eitem dwi ddim yn siwr os yw’n 'cool’ neu’n 'uncool’ a dwi’n gwisgo hwn i’r gwaith neu i siopa neu i brynu bwyd.

jane davies

David: Ac ma’ hwn dros y top yn gyfangwbl. Ma’ lot yn dweud 'mod i’n edrych fel Elmo o Sesame Street ond dwi’n ei garu!



jane davies

David: Dyma siwt sy’n ffantastig ymlaen. Ffrog 'shift’ syml sy’n edrych yn ffantastig gyda pherlau.



jane davies

Nia: Oes gyda ti ddillad ecsglwsif ar gyfer y nosweithiau?

David: Oes a dim ond fi sydd â’r ffrogiau hyn. Ma’ hon yn ffrog i bartio ynddi. Dwi’n ei charu. Ma’ hi’n edrych yn wych gyda sgidie coch a minlliw coch llachar.

jane davies

David: Dyma fy ffefryn ar gyfer y nos. Mae’n neis gyda phinc gan bod pinc ar y gwaelod. Ma’ hon yn ffrog 'Million Dollar’ a dwi’n teimlo’n ffantastig ynddi.


jane davies

David: Un arall o fy ffefrynnau oherwydd bod y lliw mor ddramatig (oren) ond mae ganddi siâp mor syml. Ma’ hi’n sentimental iawn oherwydd nes i wisgo hon ar gyfer priodas ar y traeth a dwi’n cofio cerdded ar hyd y traeth gyda photel o siampaen mewn un llaw a gwydr yn y llall. Mae symudiad hyfryd i’r ffabrig.

jane davies

Nia: Dwi’n gwybod dy fod yn hoffi dy nosweithiau allan a gwisgo fyny. Un rhan o hynny yn amlwg ydi bod popeth yn mynd gyda’i gilydd. O ran sgidie a bagie dwyt ti ddim yn gallu maddau iddyn nhw nagwyt?

David: Ma’ rhain yn wendid i mi pan dwi’n mynd i siopa ac oherwydd nad ydw i’n ddylunydd sgidie a bagiau, mae’n 'luxury’ bach i mi.

jane davies

David: Mae’r sgidiau coch yn rai dawnsio a dwi’n teimlo’n ffantastig ynddyn nhw!



jane davies

David: Mae rhain yn hyfryd ond allai’m cerdded yn dda ynddyn nhw!



Nia: Beth fyddet ti’n ddweud sy’n rhoi’r wefr fwyaf i ti o ran dillad?

David: Pethau fel sgidiau, bagiau, ffrogiau a jyst gwisgo fyny a dweud y gwir a rhoi popeth at ei gilydd a mynd allan, ffantastig. Dyna’r uchafbwynt, mynd allan a phan ma’ Pete yn dweud wrtha i 'ti’n edrych yn ffantastig heno’!


    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25