



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
O le ddaeth eich diddordeb chi mewn dillad?
Dwi’n cofio bod yn ferch fach hefo diddordeb mewn dillad. Dwi ddim yn siŵr o ble ddaeth y diddordeb, ond yr unig le fedra’ i feddwl, yw bod dwy chwaer hŷn gen i, ac roeddwn i’n licio eu gwylio nhw yn gwisgo lan i fynd mas. Roedd mam wastad yn dweud “pinciwch lan nawr ferched!”
Oedd cynllunio dillad wastad yn cymryd eich bryd chi?
Roedd gen i wastad ddiddordeb, oherwydd wrth dyfu lan yn y 1950au yn y wlad, roedd hi mor wahanol i heddiw, gan fod dim teledu na magazines. Roedd prinder papur hefyd. Roedd ychydig o lyfrau yn y tŷ ac roeddwn i’n arfer mynd a chwato gan wneud lluniau bach o ffrogiau yng nghefn y llyfrau a’u rhoi yn ôl ar y silff.
Beth yw hanes y ffrog yma?
Dyma’r ffrog hynaf sydd gen i. Ges i hon pan o’n i yn y coleg yn y 1940au, ac mae manylion bach hyfryd arni. Roeddwn i’n arfer gwisgo hon ar ddydd Nadolig, ar ôl dod yn ôl o’r eglwys byddwn ni’n newid, ac mi fyddwn yn hon trwy’r dydd. Oedd e jyst yn neis.
Fyddwch chi’n hoffi mynd allan i siopa?
Dwi’n meddwl, os oes syniadau cryf gennych chi am beth ydych chi eisiau ffeindio, hyd yn oed nawr, ambell waith mi fyddai’n mynd i siopa, a dwi’n dod yn ôl heb ddim byd achos dwi ddim yn gallu ffeindio beth o’n i ishe. Fel dwi’n mynd yn hŷn dwi’n tueddu i roi lliwiau gwahanol gyda’i gilydd, achos dwi jyst yn cael trafferth ffeindio pethau newydd.
Pa liwiau ydych chi’n hoffi ei rhoi gyda’i gilydd?
Dwi’n credu mai’r peth gorau fedrai ddweud ydy, does dim ofn lliw arna’i. Mi fyddai’n gwisgo pethau llachar, coch a phorffor gyda’i gilydd neu binc a coch gyda’i gilydd. Does dim ots da fi. Mae o i gyd yn dibynnu hefyd ar y mood. Ambell waith dwi ishe rhywbeth glas, neu liw tawel - mae’n dibynnu faint o egni sydd gen i'r bore hwnnw.
Oes yna rai lliwiau na wnewch chi ei gwisgo?
Dwi byth yn gwisgo beige. Dwi ddim yn berson beige!!
O le gaffoch chi hon?
Mae hon yn hollol wahanol, caftan o’r 1970au. Ond dwi’n licio’r lliwiau, dyna pam wnes i ei dewis hi. Dwi’n credu mai hon yw’r unig beth dwi erioed wedi ei brynu o Harrods. Pan brynais i hon dwi’n cofio yr aethom ni am de gyntaf i’r restaurant neis oedd yn Harrods a chael afternoon tea. Wedyn ro’n i mewn hwyl i fynd i siopa!
Beth ydych chi’n feddwl o siopa’r stryd fawr?
Dwi’n cael trafferth hefo nhw. Mae yna rai dwi’n hoff iawn ohonyn nhw, ond mae rhai eraill dwi ddim yn gallu mynd mewn iddyn nhw. Mae yna le anferth yng Nghaerdydd, lle ambell waith dwi’n mynd trwy’r drws a meddwl - na, does yna ddim ffordd y medrai fynd mewn i fan hyn heddiw, a dwi’n gorfod troi rownd a mynd mas achos fod gormod o’r un peth. Ond mae yna lefydd eraill ar y stryd fawr sydd yn dda iawn, a ti yn gallu cael pethau da oddi yna.
O le ddaeth y crys yma?
Dwi’n credu mai’r cynllunydd dwi’n licio fwyaf fyddai’n rhaid i mi ddweud oedd Ossie Clark yn y 1960au yn Llundain. Roedd e’n briod gyda menyw o’r enw Celia Britwell, a hi oedd yn gwneud y prints. Mae hi wedi gwneud casgliad i Topshop nawr. Mae hon yn grys nes i brynu cyn y Nadolig, ac mae hi’n edrych fel dwy flows, ond mae hi’n glyfar iawn, gan fod y llewys yn hir a llewys arall yn mynd drosto wedyn. Mae cymysgedd o’r ddau brint gyda’i gilydd. Ond mae hwn yn brint y mae hi wedi ei ddefnyddio o’r blaen, ac mae hi wedi ei ail greu ar gyfer Topshop, ma’ nhw wedi dod yn boblogaidd iawn.
Beth yw hanes y bag yma?
Dyma un o’r hoff bethau sydd gen i, mae’n hen fag. Beth dwi’n ei hoffi fwyaf amdano ydy’r sŵn mae’n ei wneud! Ac mae o’n neis tu mewn hefyd gyda label Bond Street. Mae’n lyfli a dwi wrth fy modd hefo fo, mae o’n fy atgoffa i o’r hen ffilmiau.
Sut berthynas sydd rhyngoch chi a’ch dillad?
Dwi’n edrych ar ôl yn nillad, a hefyd dwi’n mynd yn precious amdanyn nhw. Dwi’n meddwl os ydw i wedi eu cael nhw ers blynyddoedd mod i wedi eu magu nhw, felly dwi ddim yn licio eu taflu nhw, sydd yn creu bach yn drafferth. Ond dwi’n meddwl y bydd yn rhaid i mi ddechrau taflu rhai yn reit fuan!