



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Jenny: Y’n i’n lico beth y’n ni’n lico – blow pobl eraill, y’n ni’n neud fel ni ishe!
Sara: Naethon ni’n dwy briodi yn y gaeaf...
Jenny: Ac mae’r ffrogiau’n reit debyg...
Sara: Ydyn, ma’ nhw’n debyg iawn a dweud y gwir. Naethon ni drefnu nhw’n eitha’ cyflym hefyd...
Jenny: Naethon ni ddim ‘wili bawan’ fel ni’n 'weud yn Sir Benfro - rhag ofon y bydden nhw’n newid eu meddwl!!
Jenny: Flynyddoedd yn ôl, odd e fel petai’n briodas y pentre’ - ac mi roedd bysus wedi dod lan o rywle i wylio’r briodas!
O’n i’n gwybod fy meddwl, ac o’n i’n gwybod be’ o’n i’n edrych am a gweud y gwir. Gan fy mod wedi byw a gweithio yn Llundain cyn i mi ddod 'nôl i Gaerdydd o’n i’n gwybod y llefydd i fynd.
Es i ddim i Harrods. O’n i’n arfer gwneud sioeau ffasiwn yno, ond o’n i hefyd yn gwybod faint oedden nhw’n gofyn am ffrog! Es i lan am ddiwrnod gyda Euryn. O’dd Gwyn Llywelyn yno hefyd achos o’n nhw’n ffilmio rhywbeth i’r ‘Dydd’ ac odd ishe ffrog briodas arno’i felly nes i gael ‘look round’! Fe es i D.H. Evans ar Oxford St - ac odd yr un ffrog yna, un weddol Empire Line, melfed, gwyn a ffwr arni, ffwr o’r ysgwydd lawr yn syth i’r trail a dyna ni. O’n i’n gwybod yn iawn mai honna o’n i ishe! A gan ein bod ni’n priodi ar Ionawr y 1af, odd hi’n addas wedyn – o’dd dim ishe fest arna’i achos odd hi’n felfed!
Oddach chi wastad wedi breuddwydio am briodi ac wedi dychmygu’ch hun mewn ffrog debyg i honna?
Jenny: Wel, o’n i ‘di meddwl priodi. Cyn priodi Euryn, we’n i’n caru - ond we’n i mor ifanc, dwy ar bymtheg, a fi’n cofio dod 'nôl o Lundain a Dad yn pigo fi lan o stesion Abertawe. Dyma finnau’n gweud, ‘reit dwi’n mynd i briodi’ - a Mam a Dad yn meddwl bod e’n ridiculous, ond dwi’n cofio pryd ‘ny trefnu beth o’n i’n mynd i wisgo. Aeth hwnnw i’r gwynt wrth gwrs. Diolch byth! We’n i’n ifanc bryd ‘ny wrth gwrs. Ond un ar hugain o’n i pan briodes i Euryn ta beth.
Oedd eich priodas chi yn ‘celebrity wedding’ yn doedd? A dy briodas di Sara?
Jenny: Oedd mewn ffordd, ac yn ‘news eitem’ y noson ‘ny.
Sara: Oedd achos o’n i’n wyneb Caerdydd ar y pryd, odd y Western Mail yna a chylchgrawn y Wedding Day yna – ond naethon ni ddim neud OK Magazine!
O’n i ishe i bawb deimlo’n sbesial – a ddim ishe sefyll mas gyment gyda phawb arall yn gwisgo siwts ‘mother of the bride’ ag odd pawb yn glitzy! O’n i ishe i bawb deimlo fel sêr!
O’n i’n benderfynol bod Mam heb weld y ffrog cyn dydd y briodas!
Jenny: Ag er bod Sara wedi dod a’r ffrog i lawr y noswaith gynt, a wedd hi yn y bag yn ei ystafell gwely, nes i ddim hyd oed cael pip arno. We’n i yn tempted!
Sara: O’n i'n gwybod mod i ddim yn hoffi ffrogiau meringue-y ac o’n i ishe rhywbeth plaen a syml. Doeddwn i ddim yn gwybod pa ffordd i fynd ond wedyn wrth i fi eistedd lawr gyda’r gynllunwraig a ffeindio llun o ffrog mam dyma ni’n ei chopïo!
Jenny: Weles i hi a meddwl mai fy ffrog hi oedd honna!
Sara: Na, o’n i wir ddim yn gwybod bo’ fi’n mynd i gael un odd yn edrych mor debyg.
Faint o fewnbwn gawsoch chi i brynu ffrog Sara?
Jenny: Ges i un profiad a sa i’n moyn profiad fel ’na byth eto - mynd i Lundain i chwilio am fotymau!
Sara: Dyna’r unig beth y gwnes i benderfynu gyda’r gynllunwraig oedd bo’ fi moyn botymau'r holl ffordd lawr y cefn, achos mae’n bwysig iawn fod y cefn yn edrych yn neis pan chi’n sefyll yn y capel a bod pawb yn gweld eich cefn chi - ond es i ddim am fotymau yn y diwedd.
Jenny: Ethon ni rownd bob siop yn Soho, neu rhywle o gwmpas lle mae’r Haberdashers i gyd, ac yn y diwedd o’n i’n begian i Sara newid ei chynllun, 'sdim ishe botymau.
Sara: Es i ddim am fotymau yn y diwedd, a sa i’n gwybod pam o’n i’n hollol obsessed gyda botymau!
Jenny: Wedyn aethon ni i’r 5th floor yn Harvey Nicks i gael Bellini yr un – couldn’t handle it.
Dwi’n mynd nôl forty-two years wrth sôn am fy mhriodas i. Dim ond brecwast priodas odd, a doedd dim son am barti priodas pryd ‘ny. Nes di’n gall yn priodi’n hwyr yn y prynhawn a mynd yn syth i mewn i’r parti nos - os bydden i’n cael fy amser yn ôl, fydden i’n neud fel Sara a bydden i’n mynd strêt mewn i barti!