



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Sut fyddech chi’n disgrifio eich steil chi?
Dwi’n joio pethe’ neis. Dwi ddim yn gwisgo lot o bethe’ flashy, na lot o bethe’ gyda phatrwm a lliwia, ond dwi yn hoffi cael rhywbeth gwahanol!
Ers pryd mae gennych chi ddiddordeb mewn ffasiwn?
Pan o’n i’n tua thair blwydd oed, dwi’n cofio’r gweinidog yn dod draw i’r tŷ a ro’n i wedi gwisgo dillad mam a high heels, ac fe ddwedodd y gweinidog; ‘Ww! ‘Da chi ‘di gwisgo lan!’ ac atebais i ‘nage, new look yw hwn!’ Daeth new look Dior mas yn 1947 ac roedd hi siŵr o fod wedi cymryd blwyddyn i gyrraedd Drefach.
Rydych chi’n hoffi dillad ers yn ifanc iawn felly?
Bob dydd cyn mynd i’r ysgol roedd hi’n troi’n ffrae achos o’n i ddim moyn gwisgo beth o’dd mam moyn. Dwi’n cofio mam yn mynd a fi i siop yn Llanelli i brynu dillad newydd a mi dries i bopeth yn y siop, a doeddwn i ddim yn licio dim byd ac yn gwrthod prynu dim. Ac fe ddywedodd dyn y siop; ‘gewch chi byth ŵr - chi’n lot rhy fussy!’ Ac roedd e’n iawn!
Sut y datblygodd eich diddordeb chi mewn ffasiwn?
Ro’n i moyn rhywbeth mwy. Doeddwn i’m yn gwybod beth ar y pryd am mod i’n rhy ifanc. Dwi’n cofio’n ffrindiau i gyd yn dweud eu bod nhw am briodi a chael bachgen a merch a bod nhw moyn tŷ a television a double bed a phethe fel’na. Ond doedd gen i ddim diddordeb yn hynny! Ro’n i moyn teithio ar y Silk Road a mynd i’r Bosphorus. Pan es i i Baris, fe gwympais i mewn cariad gyda’r lle a dwi’n dal i fynd yno unwaith neu ddwy'r flwyddyn! Dwi hefyd yn hoffi mynd i’r dwyrain ac i Foroco, Tunisia a’r Aifft. Dwi hefyd wedi bod yn India, Istanbul a Hwngari. Lle bynnag fyddai’n mynd dwi’n prynu rhyw fath o ddillad, jewellery neu textiles.
Mae’r clogyn blodeuog yma’n ffantastig. Lle gawsoch chi hon?
Antique Moroccan robe yw hon. Pan es i i Marakesh ar fy mhen blwydd yn 60 fe brynodd fy nwy chwaer i hon i mi. Mae’n rhyfedd i’w gwisgo gan ei bod hi yn fregus ond mae hi mor brydferth. Mae wedi ei wneud o sidan gyda gold braiding lawr y ffrynt. Mae’n wisg ryfedd ond mae’n fy atgoffa i o’r amser pan es i Marakesh.
Beth sydd wedi dylanwadu ar eich steil chi dros y blynyddoedd?
Mi wnes i adael Drefach yn 1964 i fynd i’r Brifysgol yn East Anglia. Cyn hynny dwi’n meddwl mai Audrey Hepburn oedd yn dylanwadu arna’i. Gwisgo siwtiau a high heels. Fy highlight i oedd mynd i’r gymanfa a gwisgo het a siwt newydd ac esgidiau, menig a bag i gyd fynd a phethe fel’na. Ond, unwaith i mi fod yn fyfyriwr ro’n i’n gwisgo jeans a siwmperi mawr. Pam es i i Baris yn y 60au tra’n fyfyrwraig roedd pawb yn gwisgo du, polo-necks du a berets du. Felly roedd o fel mynd o Audrey Hepburn i Juliette Greco.
Pam fod gennych chi Gimono?
Antique Japanese robe yw hon. Nes i'w phrynu hi mewn siop wrth Portobello Road flynyddoedd yn ôl. Dim ond tie kimonos oedd y siop yn werthu ac roeddet ti’n gallu mynd nôl a gwneud part-exchange ar ôl blwyddyn! Felly ti’n prynu un, casglu mwy o arian a mynd a hi nôl a phrynu un drytach. Dwi wedi newid tua thair neu bedair ‘cimono’ i gael hon - mae’n lyfli.
Fe wnaeth colli eich partner chi newid eich ffordd chi o fyw yn do?
Roedd Cedric yn fabulous! Fe gwrddo’n ni pan o’n i’n gwneud cwrs ac fe oedd y Dean of Students. Gwympo ni mewn cariad yn syth! Cyn i mi gwrdd ag o ro’n i’n denau, denau, a’r cwbl oedd yn yr oergell oedd potel o win gwyn, iogwrt a nail-varnish. Ond wedi i ni fyw gyda’n gilydd roedd yr oergell yn llawn a phopeth yn ardderchog. Ro’n i mor hapus. Cynt fyddwn i byth wedi rhoi pwysa' arno ond wrth gwrs fe ddechreuodd fy mhwysa’ i fynd lan wedyn! Symudais i o Lundain i Stratford Upon Avon i weithio fel Dirprwy Brifathrawes yn y coleg yn Stratford. Ond dau ddiwrnod cyn i ni symud fe fu farw fy nghariad yn sydyn iawn! Wedi hynny es i fyw i Stratford ar fy mhen fy hun, yn adnabod neb i weithio mewn swydd stressful iawn a ro’n i’n bwyta fel emotional comfort! Dim ond gweithio a bwyta o’n i’n neud, ac yn ara’ deg ro’n i’n gorfod prynu dillad mwy o faint!
Ydych chi’n credu fod eich steil chi wedi newid wrth i chi fynd yn fwy?
Dydy’n nhw ddim yn gwneud dillad neis i bobl fawr, neu os oedden nhw’n, roedden nhw’n ddrud iawn! Mae’n rhaid chwilio a bod yn fwy creadigol wrth roi dillad at ei gilydd. Ma' pobl yn gwisgo’r dillad anghywir i’w siâp nhw. Ti dal yn gallu cael dy wallt ‘di neud yn neis, rhoi make-up arno a phrynu esgidiau pert a jewellery - ond mae’n rhaid cadw’r dillad yn blaen. Roedd pobl yn meddwl bo fi o hyd yn gwisgo’n smart a mod i’n elegant, ond ro’n i o hyd yng nghefn fy meddwl yn meddwl ‘am rywun tew!’
Mae hon yn un o’r hen bethau oeddech chi’n arfer ei gwisgo pan oeddech chi’n fwy tydi?
Sgert ydy hon a ma’ hi’n sgwâr! Ro’n i’n meddwl mod i’n bert yn hon. Un Chanel ydi hi hefo tweed a fringing. Doedd hi ddim yn llac arna’i, roedd hi wir yn fy ffitio i!
Ma' hwn yn edrych fel rhywbeth oeddech chi’n arfer ei wisgo hefyd.
Siwmper ydy hon o siop Dawn French. Dwi’n dal i wisgo hon nawr, ond fel ffrog gyda leggings o gwmpas y lle. Ond pan o'n i’n fwy, hon oedd fy siwmper i!
Beth wnaeth i chi benderfynu colli pwysau?
O’n i’n fed-up o beidio gallu prynu dillad a byw bywyd fel o’n i moyn byw. Ro’n i’n casáu mynd ar awyren neu’n mynd i gaffis bach ym Mharis ble roedd popeth mor agos at ei gilydd a ro’n i’n teimlo mor fawr! Un diwrnod fei benderfynais i fynd i Weight Watchers ac fe golles i chwe stôn mewn dwy flynedd. Fe ‘nath e wahaniaeth rhyfeddol i mi. Ro’n i’n teimlo fel mod i’n gallu gwisgo unrhyw beth, a ma' hynny’n gwneud i ti deimlo’n grêt ar ôl bod yn dew am ugain mlynedd.
Beth mae dillad yn ei olygu i chi?
Dwi’n gwybod ei fod o’n swnio bach yn shallow i siarad fel hyn am ddillad, ond nid dim ond mewn dillad mae gen i ddiddordeb. Ond dwi yn dwlu ar ddillad ac o hyd wedi. Ma' cynllun da a defnydd da yn rhyfedd achos mae’n gwneud i ti deimlo mor dda ac mor hyderus ynddo ti dy hun, a ma’ hynny werth e!
- CWPWRDD DILLAD