Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Jo Popham
Jo Popham
Jo Popham
Jo Popham
Jo Popham

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Jo Popham yn wraig rygbi sydd wedi dweud 'au revoir' i Gymru ac sydd bellach yn byw yn Brieve.

Jo Popham

Ma' nhw'n dweud mai'r Ffrancwyr sydd â'r steil gorau yn y byd. Wyt ti'n cytuno?

Ma' nhw yn 'stylish' yma. Ond, mi fues i'n Bordeaux yn ddiweddar a 'da chi'n gallu dweud y gwahaniaeth mewn steil rhwng Brieve a Bordeaux, ma' nhw'n edrych yn rili neis yno. Ma' lot ohonyn nhw'n gwisgo leggings du gyda 'motorcycle boots' neu 'riding boots', dwi' licio hynna, ond dwi heb ffeindio pâr o fŵts sy'n ffitio'n nghoesa' fi achos fod gen i goesa' bach! Ma' hynna'n broblem dwi wedi ei ffeindio yma, does yna ddim byd yn fy ffitio i o gwbl!

Jo Popham

Wyt ti'n hapus i dalu pris mawr am dy ddillad?

Ma' yna gwpwl o siopa rili neis yma yn Brieve, ond ma' nhw'n ddrud iawn. Os ydy'r ansawdd yn dda ac os y byddai'n cael llawer o ddefnydd allan ohonyn nhw, mi wnâi dalu llawer, ond fel arfer dwi'n licio mynd i lefydd fel Topshop, a phrynu lot o'r un peth yn yr un lliw, achos os dwi'n licio rhywbeth, mi wnâi wisgo fo drwy'r amser.

Jo Popham

Wyt ti'n edmygu steil rhywun yn benodol?

Dwi'n hoffi Coleen Rooney achos ma' ganddi'r bag Balenciaga, ond ma' hi'n mynd i Topshop hefyd ac yn cymysgu'r ddau yn dda.

Jo Popham

Be fyddi di'n ei wisgo os wyt ti'n mynd i wylio rygbi ac i gefnogi dy ŵr?

Yn y gemau rhyngwladol yng Nghymru, dwi ddim yn cael gwisgo jîns, felly ro'n i'n gwisgo leggings neu ffrog bert - roedd rhaid i ni wisgo lan. Yn Brieve, mae'n dibynnu pa amser mae'r gemau. Os ydyn nhw yng nghanol y dydd, falle fyddai'n gwisgo lan ychydig bach mwy achos mi fyddwn i'n mynd mas am fwyd ar ôl y gêm. Neu os ydy o'n hwyr mi fyddai'n gwisgo jîns Diesel a Cats a phethau cynnes achos ma' hi'n oer yma yn y nos. Dwi wedi ffeindio nawr, dwi'n talu ychydig bach mwy am cashmere a lledr achos ma' nhw'n cadw chi'n gynnes, lle ma' pethau fel acrylig yn edrych yr un peth, ond dydy nhw ddim yn gwneud yr un gwaith.

Jo Popham

Ma' dy ffrog briodas di'n fendigedig, ond ma' hi'n fudur iawn erbyn hyn. Wyt ti'n dal i'w gwisgo hi?

Mi o'n i wedi mwynhau ei wisgo hi - dwi dal yn ei gwisgo hi drwy'r amser i lanhau, smwddio a hwfro! Os ydych chi'n gwario cymaint o arian, mae'n rhaid ei wisgo fwy nag unwaith! Ma' hi yn fudur i gyd, dwi ddim yn siŵr sut, ond dwi eisiau ei chadw hi fel 'na. Ma' crysau rygbi Alix i lawr yn yr ystafell fwyta a ma' nhw i gyd hefo mwd a gwaed arnyn nhw - felly dwi'n meddwl os ydach hi'n mynd i gadw rhywbeth am byth, mae'n rhaid cadw'r hanes hefyd.

Jo Popham

Fel gwraig rygbi, rwyt ti'n cael llawer o sylw gan y wasg. Wyt ti'n cael gwahoddiadau i gael tynnu dy lun yn aml?

Dwi wedi gwneud lot o photoshoots. Mi wnes i gael tynnu fy llun pan oedd cyfres 'Gwragedd Rygbi' ymlaen ar y teledu gyda Vibe. Dwi hefyd wedi gwneud un hefo Julian Castaldi a dwi wedi gwneud llwyth i'r Western Mail. Dwi'n fashionista ac yn wyneb y Talbot Green Shopping Centre, felly dwi wedi gwneud cwpwl o bethau. Mi nes i wisgo camisole pinc i gael tynnu fy llun gan Julian Castaldi - ma'n hyll nawr ond roedd e'n olreit ar y pryd!

Jo Popham

Gan dy fod di'n cael sylw yn y wasg, wyt ti'n teimlo pwysau i edrych yn smart drwy'r amser?

Falle mwy yng Nghymru gan mod i yn y papurau eitha' lot ac ar y we ar gwpl o bethau, felly ro'n i'n teimlo y dylwn i wisgo colur. Ond yn fan hyn, does neb yn fy nabod i felly dwi'n edrych yn reit rough yn mynd mewn i'r dre!

Jo Popham

Wyt ti'n hapus yn cael dy alw'n wraig rygbi?

Yndw achos mai dyna ydw i. Ma'r term wedi newid i 'Scrummies' rŵan yn lle 'WAGs'.

Jo Popham

Beth fydd di'n ei wisgo o ddydd i ddydd?

Ma gen i jîns Diesel nes i brynu yn Leeds pan o'n i wedi symud lan gyntaf - dwi ddim yn eu gwisgo nhw rhagor achos ma nhw dipyn bach yn revealing. Pan o'n i'n feichiog gyda Holly, ma nhw mor isel, ro'n i'n gallu eu gwisgo nhw reit lan tan y diwedd a wedyn yn syth nôl mas o'r ysbyty. Ond nawr, ar ôl bod lawr sleids ac ati yn yr ardd ma nhw wedi rhwygo.

Jo Popham

Wyt ti'n sentimental am bethau sydd gen ti?

Yndw. Dwi'n gwisgo hen fodrwy fy nain, ei modrwy phriodas hi a dwi ddim yn tynnu honno ffwrdd. A ma' gen i ddau fwclis ar ôl fy nain, dyna'r ddau beth ro'n i wedi gofyn i'w gael pan oedd Nain wedi marw achos dwi eisiau rhoi un i Holly ac un i Isobel, a dwi wedi cadw'r fodrwy gyntaf nath Alix brynu i mi.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales