Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Jo Thomas
CWPWRDD DILLAD: Lisa Elfyn | Jo Thomas
Jo Thomas
Jo Thomas
Jo Thomas
Jo Thomas

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Jo Thomas yn berchen ar siop ddillad yn Rhuthun ac wedi teithio llawer, o ganlyniad mae chwaeth ryngwladol iawn yn perthyn i'w steil.

Jo Thomas

Sut ddois di i fod yn berchennog ar siop ddillad?

Nes i gymryd y siop drosodd mis Medi diwethaf, yn 2007, ac ro'n i wedi bod yn gwsmer yma am rai blynyddoedd er mod i'n casáu siope erioed. Cyn i Gareth a mi briodi ro'n i'n byw yn y de, ac fe ddes i fyny i'r gogledd, a medde Gareth, "'Da ni'n mynd allan i ginio fory gyda hyn a hyn," a wedes i, 'O! Na! Mi ddyla' ti fod wedi deud wrtha'i, does dim dillad 'da fi sy'n addas," a medda fo, "Mi awn ni i brynu rhywbeth newydd". "Na, does dim un ffordd," medde fi, a dyma fe'n ateb, "Ma' 'na siop fach yn Rhuthun a fyddi di'n hapus yn honna". A ro'n i'n meddwl, dwi'n licio'r siop yma, ac felly dechreuais i ddod yn gwsmer a dod yn gyfeillgar iawn gyda'r perchennog a'r teulu. Yn anffodus ym mis Medi 2006 pan o'n i ar fy ngwyliau gyda nhw, wedon nhw bod yn rhaid i Elizabeth ymddeol oherwydd iechyd. A wedes i wrth Aled, "Hei, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r siop fach te?", a wedodd e, "Wel, ti di bod yn siarad digon amdano fe, gwna rywbeth". Felly nes i! A ro'n i'n meddwl, flipin' heck, dwi wedi bod yn ysgrifenyddes erioed, beth fydden i'n wneud â siop? Ond ro'n i'n meddwl wedyn, dwi'n cyrraedd yn hanner cant nawr, os na wnâi e nawr, nai e byth. So, dyma ni. Nes i brynu'r siop a 'da ni yma o hyd. Hyd yn hyn beth bynnag!

Jo Thomas

Ma'r lliwiau yn dy gwpwrdd di i gyd yn eitha' tebyg ac ma'r defnyddia'n eitha' naturiol fel linen ac ati, pam hynny?

Ma' rhan fwyaf o'r rhain yn dod o'r siop a dim ond petha' naturiol dwi'n eu gwerthu yna rili, linen, cotwm ac ati. Efallai eu bod nhw wedi cael eu gwneud gan ddyn, ond, ma' nhw'n dal i fod yn betha' naturiol.

Jo Thomas

Ma'r siwt yma'n anghyffredin iawn, o le ces ti hon?

Ma' hwn yn ddefnydd arbennig sydd wedi ei wneud mewn proses sy'n defnyddio pren. Mae o'r 'un peth a viscose - ti'n gallu ei lechio mewn i'r ces, gadael iddo fo hongian am 'chydig, a ma'r creases i gyd yn diflannu. Trowsus a thop ydy'r siwt, a ma'r sarong yn mynd rhwng y ddau fel dy fod di'n cael cip bach o'r patches pan mae o arno.

Jo Thomas

Mae hon yn edrych fel ei bod hi wedi dod o bell.

Ma' 'na damed bach mwy o liw yn hon. Nes i brynu hon ym Mangladesh. Dwi wedi bod i Fangladesh ddwywaith, a'r tro cynta' es i mi 'nath y ddynes hon o'r ardal ddeud, "Ma' raid i chi ddod i siopa hefo fi," a wedes i, "Cariad, dwi ddim yn bwriadu siopa o gwbl, dwi'n casáu siopa", ond wedodd hi, "Plîs dere, co-oprative yw e", so fe es i, a dyna'n union beth oedd e, grŵp BARD, Bangladesh Academy of Rural Developmnent. Beth oedden nhw'n wneud oedd hyfforddi merched i wneud brodwaith a gwisgoedd a dysgu'r dynion sut i wneud y gwaith lledr, gemwaith ac i drin y tir. Wedyn, unwaith oedden nhw yn cyrraedd safon arbennig redden nhw yn gallu gwneud cais i fenthyg 'chydig o arian, 'micro loan', er mwyn prynu'r defnydd, edau a phopeth ac wedyn bydden nhw yn palu ymlaen a gwneud hwn.

Jo Thomas

Ma' hon yn siwt ddigon tebyg i'r llall ond gyda lliwiau dipyn tawelach.

Mi brynais i'r un cotwm yma hefyd, ond y gwahaniaeth gyda hon ydy ei bod hi wedi ei phrintio â llaw. Jyst dychmyga'r amser ma'n ei gymryd i wneud rhywbeth fel hyn gyda llaw.

Jo Thomas

Ma'r ffrog binc 'ma' yn fendigedig, fel rhywbeth y bydda ti'n ei wisgo i briodas dramor.

Ffrog Ann Balon ydy hi a ma' hi'n grêt. Os ti'n sylwi, ti'n gallu crinclo hi lan a dyw hi jyst ddim yn crîso, ma' hi mor hawdd i'w gwisgo. Dwi wedi ei gwisgo hi'n lleol, wythnos diwethaf i ddeud y gwir, i lansiad rhaglen Gŵyl Gerddoriaeth Gogledd Cymru ar gyfer eleni.

Jo Thomas

Wyt ti a dy ŵr, Gareth yn cael llawer o wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig?

'Da ni'n cael mwy nawr na phan oedd Gareth yn Aelod Seneddol i ddweud y gwir, ond gyda phobol dwi'n eu hadnabod nawr felly dwi'n fwy cyffyrddus. Ond dwi ddim yn prynu dillad newydd pob tro, dwi'n credu mewn recycle - ail-gylchu yw'r peth rhyfeddol!

Jo Thomas

Mae'r ffrog yma'n edrych fel un dywysoges! Ma' hi'n ffrog arbennig, fydda ti ddim yn gwisgo hon i arddio byddet ti?

Ma'n rhaid i mi gyfadde', pan wisgais i hon ro'n i'n atgoffa fy hun o'r hen gân yna - 'No one likes a fairy when she's old'! Ond na, fyddwn i ddim yn gwisgo hon i arddio, ond dwi yn golchi llestri ynddi weithia, hefo marigolds a ffwr rownd yr ochor!

  • CWPWRDD DILLAD