



Mae Johnny Tudor wedi bod yn perfformio ers dros ddeugain mlynedd bellach. Cafodd ei fagu mewn teulu 'showbiz' oedd i Johnny yn golygu plentyndod o deithio theatraidd. Pianydd a chanwr oedd ei dad, dawnswraig oedd ei fam felly mae perfformio yng ngwaed Johnny...
Nia: Ydach chi'n cofio'r dillad 'showbiz' yma oedd o'ch cwmpas chi pan oeddech chi'n blentyn?
Johnny: O wy'n cofio'r awyrgylch. Roedd o'n gret achos arferwn gael mynd i gefn llwyfan y theatr a bod yng nghwmni yr holl ddawnswyr a'r bobl oedd yn chwarae'r gwahanol offerynnau.
Nia: Sut fath o deimlad ydi sefyll yna ar y llwyfan a theimlo'n dda yn eich dillad?
Johnny: Mae'n bwysig eich bod chi'n teimlo'n hapus yn eich dillad. Os ydych chi'n edrych yn gret, byddwch chi'n teimlo'n gret a'n perfformio'n gret.
Nia: Mae gennych lwythi o grysau gwyn!
Johnny: Mae nhw ar gyfer y 'dress suits' a 'dress shirts' mae nhw'n cael eu galw. Mae nhw'n grysau sydd wedi eu gwneud â llaw gan ddyn o Hong Kong o'r enw Ascot Chang. Nes i gwrdd ag ef yn Hong Kong pan o'n i ar griws. Wedi i mi gwrdd ag ef, nes i ffeindio allan ei fod yn dod draw i Lundain bob blwyddyn ac aros yn un o westai yr Hilton. Roedd yn fy ffonio wedyn pan oedd draw a'n gofyn os oeddwn i angen mwy i'w harchebu.
Nia: Ers faint ydych chi wedi bod yn archebu'ch crysau fel hyn felly?
Johnny: Ers tua 5 mlynedd ac yr un peth gyda fy siwtiau sydd wedi eu gwneud â llaw. Robbie Stanford sy'n gwneud fy siwtiau. Mae'n ddyn enwog iawn yn Llundain sy'n gwneud siwtiau ar gyfer llawer o bobl sy'n y busnes perfformio - fel Tom Jones, Englebert Humperdinck, Bruce Forsyth, Des O'Connor ayb. Glywes i am Robbie gan Brucey pan ddywedodd e yn un o'i sioeau 'one of Robbie's' am un o'i siwtiau a dwi'n ei adnabod ers blynyddoedd nawr.
Nia: Sidan ydi'r siwt yma ie?
Johnny: 'Watersilk' ma' nhw'n ei alw fe achos os chi'n edrych arno mae'n edrych fel bo' dwr arno. Mae'n llachar o dan y goleuadau a'n edrych yn dda ar y llwyfan.
Nia: Beth ydach chi'n galw rhain?
Johnny: 'Sbats' ydi rhain. Dwi'n dal i'w gwisgo bob hyn a hyn pan dwi'n perfformio rhywbeth hen ffasiwn fel 'song and dance'.
Nia: Sôn am berfformio, beth am y peth allweddol i chi, eich esgidiau tap? Ydych chi'n prynu'r esgidiau fel hyn?
Johnny: Na, prynu esgid go iawn i gychwyn yna rhoi'r taps ymlaen ar waelod yr esgidiau. Rhaid eu cadw'n eitha rhydd fel eu bod nhw'n gwneud swn tap.
Johnny: Yn fy ail gwpwrdd dwi'n cadw fy stwff pantomeim fel y wisg Capten, 'Robinson Crusoe' yma nath Mam i mi allan o bâr o lenni. Nes i berfformio'r panto yma o gwmpas y wlad i gyd - yn y New Theatre yng Nghaerdydd, yn Abertawe yn y Grand, Lerpwl yn y Royal Court, Manceinion a llawer o lefydd eraill!
Johnny: Dyma'r crys roeddwn i'n gwisgo gyda'r siwt. A dyma'r 'jobot'.
Johnny ar ddillad...
Dwi ddim yn gwybod os yw e yn fy ngwaed i ond wy eisiau bod yn smart drwy'r amser. Dwi'n casau pobl sy'n edrych yn fler, ma' fy mab i'n edrych fel terfysgwr! Ond, mae'n hapus! Ond, ar gyfer y llwyfan, mae'n rhaid i chi edrych yn dda. Os ydych chi yn y siwt iawn, y cwbl sydd yn rhaid i chi wneud yw canu mewn tiwn!
- Bob nos Fercher 20:25