<?xml version="1.0" encoding="iso-8859-1"?>
<!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN"
        "http://www.w3.org/TR/2000/REC-xhtml1-20000126/DTD/xhtml1-transitional.dtd">
<html xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml">
<head>
<meta http-equiv="content-type" content="text/html; charset=UTF-8" />

<title>S4C - Cwpwrdd Dillad</title>

<link href="css/screen.css" rel="stylesheet" type="text/css" />
</head>

<body>



<div id="content">

<div id="banner">
<object classid="clsid:D27CDB6E-AE6D-11cf-96B8-444553540000" codebase="http://download.macromedia.com/pub/shockwave/cabs/flash/swflash.cab#version=6,0,29,0" width="710" height="170">
<param name="movie" value="banner.swf">
<param name="quality" value="high">
<embed src="banner.swf" quality="high" pluginspage="http://www.macromedia.com/go/getflashplayer" type="application/x-shockwave-flash" width="710" height="170"></embed></object>
</div>


<div id="navcontainer"> 
<ul id="navlist">
<li><a href="c_index.shtml">Hafan</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_05_new.shtml">Y Gyfres Hon</a></li>
<li><a href="http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=337675343">Gwylio ar Clic</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_01_new.shtml">Archif Cyfres 1</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_02_new.shtml">Archif Cyfres 2</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_03_new.shtml">Archif Cyfres 3</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_04_new.shtml">Archif Cyfres 4</a></li>
<!--li><a href="c_wardrobes_04.shtml">Archif Cyfres 4</a></li>
<li><a href="c_wardrobes_05.shtml">Archif Cyfres 5</a></li>
<li><a href="c_competition_llon.shtml">Cystadleuaeth</a></li>-->
<li><a href="c_tips_women.shtml">Tips Ffasiwn</a></li>
<li><a href="c_lens.shtml">Troi'r Camer&acirc;u</a></li>
<li><a href="c_capsule_women.shtml">Y Cwpwrdd Capsiwl</a></li>
<li><a href="c_decades20.shtml">Degawdau</a></li>

<li><a href="e_cupboards_gwenno.shtml">English</a></li>
</ul>
</div>
 

<div id="pagetitle">Cwpwrdd Dillad: Joyce Jones</div>

<div id="pagecontent">
	
<div class="lightpanel">
CWPWRDD DILLAD: <a href="c_cupboards_audrey.shtml">Audrey Mechell</a> | <a href="c_cupboards_carwyn.shtml">Carwyn John</a> | <a href="c_cupboards_joyce.shtml">Joyce Jones</a> </p>
</div>

<div class="thumbnail"><img src="images/5_joyce_1.jpg" width="95" height="95" alt="Joyce Jones" /></div>
<div class="thumbnail"><img src="images/5_joyce_2.jpg" width="95" height="95" alt="Joyce Jones" /></div>
<div class="thumbnail"><img src="images/5_joyce_3.jpg" width="95" height="95" alt="Joyce Jones" /></div>
<div class="thumbnail"><img src="images/5_joyce_4.jpg" width="100" height="100" alt="Joyce Jones" /></div>
<br />
<p class="largetxt">Cafodd Joyce Jones ei pheiriant gwnio cyntaf pan oedd hi'n ddim ond 10 oed. A hithau ddim ond ar ei thrydydd peiriant, mae hi'n dal i wneud ei dillad i gyd ei hun...
</p>


<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_5.jpg" width="95" height="95" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p><strong>Joyce: </strong>Allai'm cofio adeg lle o'n i ddim yn gwirioni gyda dillad a defnyddiau. I gael dillad dwi eisiau, rhaid i mi eu gwneud nhw gyda llaw. Dwi si&acirc;p od ond dwi'n hoffi dillad sy'n ffitio felly os dwi'n prynu rhywbeth, mae'n rhaid i mi ei altro fo, felly mae'n haws ei wneud o'r cychwyn.</p>
</div>

<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_6.jpg" width="95" height="95" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Dyma ydi eich ystafell creu chi ie? Sut ydach chi'n mynd ati i greu dilledyn felly?</h2>
<p><strong>Joyce: </strong> Ia, dyma'r stafell llanast! Allwch chi ddim bod yn dwt a chreu! Dwi'n rhoi lluniau o ddillad sy'n apelio fyny ar y wal ar un ochr i'r ystafell, hongian gwahanol ddefnyddiau ar ochr arall a'n rhoi sgetsys fyny o flaen y peiriant gwnio. Ar &ocirc;l gwneud sgets neu ddau, fydda i'n creu patrwm. Os torrwch chi'n iawn, ewch chi ddim yn anghywir. Allwch chi byth ddad-wneud y torriad, felly mae'n werth gwario lot o amser ar hynna. Dyna ydach chi'n ei dalu am, y toriad hynny yw, pan fyddwch yn prynu o siopau drud. Dwi'n gwybod fy maint a'm si&acirc;p i'r fodfedd erbyn hyn a felly'n gwybod sut i guddio bob pechod hefyd! </p>
</div>

<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_7.jpg" width="95" height="95" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p><strong>Joyce: </strong> Fydda i fel arfer yn ychwanegu rhyw fath o addurniad ar y dillad fydda i'n eu creu - unai brodwaith neu rhyw fath o fwcl neu falle tamaid o ledr, ond brodwaith fwy neu lai bob amser.</p>
</div>


<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_9.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Pa fath o ddillad dach chi'n licio?</h2>
<p><strong>Joyce: </strong> Dillad clasurol. Dwi'n hoffi steil Armani. Tydw i ddim yn hoffi ffrils, dwi ddim yn hogan 'girly' o gwbl. Dyma'r dilledyn agosaf gai at Armani gan fy mod wedi defnyddio ffabrig Armani i'w wneud.</p>
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Lle gafoch chi'r defnydd yma felly?</h2>
<p><strong>Joyce: </strong> Defnydd nad ydi o'n berffaith ydi o gyda ryw nam bach arno, felly mi oedd ddipyn yn rhatach. Ac mae gen i siwt drowsus wedi'i wneud o'r un defnydd hefyd. Dwi wedi pwytho 'top stitching' arno hefyd.</p>
</div>

<div class="panel">
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Ydach chi wedi gweld y defnydd yma mewn dillad Armani a wedi copio'r steil?</h2>
<p><strong>Joyce: </strong> Do. Er, mae yna dipyn bach mwy o fanylder ar fy fersiwn i. Mi fues i mewn arddangosfa Armani yn Llundain a mi oedd yna drowsus oedd yn debyg iawn. Tw&icirc;d sidan gyda lliain ydi'r defnydd. Mae'n fendigedig ac yn gwisgo'n braf.</p>
<br />
</div>

<div class="panel">
<p class="question"><strong>Nia: </strong>Dach chi'n ffeindio eich bod chi'n mynd ar &ocirc;l y defnyddiau drud neu rhad?</h2>
<p><strong>Joyce: </strong>Drud. Dwi'm yn mynd i roi gwaith ar rywbeth sy' ddim yn mynd i edrych yn dda ar y diwedd. Dwi'm yn meindio talu felly am ddefnydd da.</p>
</div>

<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_10.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Faint mae hi'n gymryd i chi wneud dilledyn?</h2> </p>
<p><strong>Joyce: </strong> Does yna ddim lining yn y siwt yma, felly mae'n syml iawn. Fase hi ddim yn cymryd yn hir iawn i wneud gwisg tebyg - diwrnod neu ddau falle. </br>

<br />
</div>

<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_11.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p><strong>Joyce: </strong> Dwi'n edrych ar gylchgronau am ysbrydoliaeth. Nai brynu 'Vogue' gan ei fod tua blwyddyn o flaen beth sy'n mynd i fod yn y siopau. Yn aml iawn, mae genai ddillad sy' ddim cweit 'di cyrraedd y siopau o flaen llaw sy'n gallu edrych yn rhyfedd ond erbyn y flwyddyn wedyn, mae pawb yn gwisgo steil tebyg. Ma' hon yn un oedd o flaen ei hamser. Nes i hon dair mlynedd yn &ocirc;l allan o ffabrig gwl&acirc;n meddal. </p>

</div>

<div class="panel">
<img src="images/5_joyce_12.jpg" width="100" height="100" class="imgright" alt="Joyce Jones" />
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Oes yna bobl yn dod fyny atoch a'n dweud 'dwi'n licio eich dillad chi, o le gafoch chi nhw?'</h2> </p>
<p><strong>Joyce: </strong> Oes, mae 'na a dwi'n gwrido. </p>
<p class="question"><strong>Nia: </strong> Pam felly?</h2> </p>
<p><strong>Joyce: </strong> Oherwydd tydi rhywun ddim yn licio dweud 'fi sydd wedi gwneud hwn' fel petae. Dwi'n cael fy mhlesio wrth gwrs ond falle bod yna ryw swildod hefyd wyrach. </p>

</div>

<div id="indextx">
<ul>
<li>CWPWRDD DILLAD</li>
<!--li>Bob nos Fawrth 21:00</li-->
</ul>
</div>

<!--<div id="indextx">
<strong>CWPWRDD DILLAD</strong><br />
Cyfres yn dychwelyd nos Wener 2 Tachwedd 20:25
</div>-->


<script src="http://www.google-analytics.com/urchin.js" type="text/javascript">
</script>
<script type="text/javascript">
_uacct = "UA-2122504-2";
urchinTracker();
</script>


</div>


</div>


</body>
</html>

