



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Judith Jones yn gynllunydd gwisgoedd o'r diwydiant teledu. Mae wedi treulio'i bywyd proffesiynol fel meistres y gwisgoedd a ma' hi hefyd wedi bod yn gynllunydd ffrogiau priodas ag yn steilydd i bobl yn y cyfryngau.
Be yn union mae cynllunydd gwisgoedd yn ei wneud?
Pe bawn i'n neud drama, er enghraifft, mae'n rhaid penderfynu beth mae pob cymeriad yn ei wisgo, boed hynny'n rhywbeth cyfnodol neu rywbeth bob dydd. Ond, fe all e fod yn beth 'da ni'n galw'n steilio cyflwynwyr, mae e'n gallu golygu lot fawr o bethe.
Ydi'r diddordeb yma mewn dillad, steilio a gwisgoedd wedi bod yna erioed?
Ro'n i yn ymddiddori yn y maes, ond dwi'n credu roedd mwy o ddiddordeb gen i yng ngwaith fy mam gu. Roedd mam gu yn gwnïo, mi gafodd hi beiriant gwnïo am ei phen-blwydd yn un ar hugain ac mi gefais i'r un anrheg hefyd.
Sut y dechreuodd eich gyrfa chi yn y BBC?
Ro'n i'n gwnïo ac yn creu bron popeth oedd yn ymddangos ar y teledu. Dwi'n cofio, ro'n i'n gweithio gyda Mari Griffith ac ar gyfresi Margaret Williams a sioeau fel Ryan a Ronnie a Max Boyce, Glas y Dorlan, pob math o bethe.
Mae eich delwedd chi wedi newid dipyn dros y blynyddoedd yn do?
Dwi'n licio lot o ddu, yn enwedig yn y Gaeaf. Ond, efallai gyda sblash o liw, boed hynny yn sbectol, necklace neu sgarff. Dwi'n credu yn yr Haf mae lliw yn fwy pwysig na ma' fe yn y gaeaf.
Oes gennych chi hoff gynllunydd dillad?
Yn y 70au ro'n i'n dwli ar Jean Muir. Roedd ei gwaith hi mor syml ac mor berffaith, a ro'n i wastad wedi moyn rhywbeth odd wedi cael ei wneud ganddi. Flwyddyn ddiwethaf fe ges i gôt Jean Muir a dwi'n hapus iawn gyda hi. Un o'n ffefrynnau i ar hyn o bryd ydy'r cynllunydd Ishiko, sy'n enw Siapaneaidd ond ma' fe'n byw yn Awstria ac ma' ganddo fe bethe quirky ofnadwy a dyna beth dwi'n licio.
Mae gennych chi hefyd gasgliad anhygoel o sbectols. Pa bâr oedd y rhai cyntaf y gwnaethoch chi eu prynu?
Dwi'n meddwl taw pâr coch oedd y cyntaf i mi eu cael. Wrth i mi eu rhoi nhw 'mlaen dwi'n teimlo eu bod nhw yn rhoi lliw i mi. Single Vision ydy'r sbectols yma i gyd gan eu bod nhw'n llawer rhatach na Bifocals. Yr unig broblem wrth gwrs yw bod rhaid i mi wisgo'r sbectol darllen ar fy mhen ac wedyn pâr arall ar fy llygaid i. Os ydy hi'n heulog a bod angen sbectol haul arna'i, yna mae gen i sbectol ym mhob man!
Lle gawsoch chi eich ffrog briodas?
Mi brynais i'n ffrog mewn siop yng Nghaerdydd o'r enw Hobby, dyw hi ddim i gael rhagor. Dwi'n credu fod steil y ffrog yn typical o'r 70au. Eitha' rhamantaidd, yn llac gyda siap smock. Mae 'na pintucks ar yr ysgwyddau a lês wedi ei wneud o gotwm. Ma' hi mewn dau ddarn, mae'r ffrog o dan o ac mae'r smoc drosti hi. Pan oedd hi'n newydd fe gostiodd hi £110 oedd yn lot fawr o arian yn 1975.Ro'n i yn ennill £26 yr wythnos, felly roedd hi'n eitha' drud ac mi fues i'n safio lan am hir i gal hon.
Rydych chi hefyd wedi gwneud sawl ffrog briodas yn do?
Ar ôl cael y plant do'n i ddim am fynd nôl i weithio ac felly fe benderfynes i ddechrau busnes cynllunio a gwneud ffrogiau priodas. Mi ddechreues i drwy wneud ffrog i'n chwaer. Dwi'n credu bod unrhyw un yn gallu gweld dylanwad Lady Diana ar hon oherwydd y ffrill mawr o gwmpas y gwddf, ar puffed sleeves. Roedd hi'n edrych yn lyfi yn y ffrog a dwi'n credu ei bod hi wedi mwynhau ei gwisgo hi hefyd.
Mi wnaethoch chi hefyd ffrog briodas eich merch hefyd yn do?
Pan oedd y plant yn fach a ro'n i newydd ddechrau'r busnes o wneud ffrogiau priodas, rodd Lea tua chwe blwydd oed ac roedd hi wastad yn gofyn i mi, "mam, 'nei di wneud yn ffrog briodas i pan fyddai'n ddigon hen?" A phan oedd hi wedi dyweddio, y peth cynta' ddywedodd hi oedd, "mam nei di wneud fy ffrog briodas i?" Mae'n rhaid i mi ddweud ei fod o'n deimlad special ac yn privilege mawr i allu gwneud rhywbeth fel 'na.
- CWPWRDD DILLAD