Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Juli Beynon
CWPWRDD DILLAD: Twm Morys | Juli Beynon |Eiona Hammond
Juli Beynon
Juli Beynon
Juli Beynon
Juli Beynon

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Yn ‘rock-chick’ o’r Bontfaen mae Juli Beynon yn berchen ar siop ddillad. “Dwi wastad wedi dwli ar ddillad y ‘rock-chick’ look – sexy a glamorous, rhywbeth dwi wedi ei hoffi ers pan o ni yn undeg pedwar oed. ‘Back-comio’ ngwallt, corsets a mini-skirts a phethau fel ‘na.”

Juli Beynon

A’i breuddwyd sydd wedi dod yn wir yw bod yn berchen ar siop ddillad dy hun?

Ie, dwi wedi bod eisiau ei wneud o ers pan o’n i yn fach. Roeddwn i wastad wedi licio make-up, gwallt a phethe’ fel ‘na. Roedd diddordeb gen i mewn ffaswin a dillad - tynnu dillad mewn os nad oedden nhw’n ffitio neu os oedden nhw'r siâp anghywir. Mae’r siop yn llawn o bethau o nhast i fy hunan. Dwi’n ei ffeindio hi’n anodd dewis rhywbeth sydd ddim at fy nhast i. Mae siopau eraill yn cael ‘variety’ o betha’ ond dim ond un steil sy’n fa’ma rili.

Juli Beynon

Beth ydy’r peth dryta’ sydd gen ti yn y siop?

Y dryta’ ydy’r Victoria Beckham jeans, y rhai Rock and Republic. Ma’ nhw’n £350. Rhein yw’n favourite i. Brynais i rhain cyn i mi agor y siop a rhain sydd wedi gwneud i mi benderfynu cael Rock and Republic yn y siop. Dwi’n dwli arnyn nhw.

Juli Beynon

Wyt ti’n sentimental ac yn cadw dillad?

Dyma’r ddwy ffrog dwi wedi cadw achos oedden nhw’n ddrud iawn a hefyd achos ma' nhw mor gorjys! Ffrogiau Moschino ydyn nhw. Es i ar drip i Lundain a brynais i nhw yn Harvey Nichols. Mi oedden nhw yn ffitio mor neis ar y pryd rodd rhaid i mi gael y ddwy. Roedd yr un ddu tua £500, ond yn werth pob ceiniog ac roedd yr un wen tua £400.

Juli Beynon

Beth yw dy hoff ddilledyn di?

Y ffrog yma yw’n ffefryn i ar y foment. Dwi yn licio dillad Karen Millen, yr unig beth gyda’i dillad hi yw os chi’n mynd i briodas neu rhywle fel’na, ma’ siawns y bydd rhywun arall yn gwisgo fe. Es i briodas Tachwedd diwethaf ac fe wisgais i hon gydag esgidiau coch i ‘punko’ fe lan tamed bach.

Juli Beynon

Pam wyt ti'n hoffi gwisgo corsets?

Dwi’n dwli ar corsets. Ma’ nhw’n tynnu cwpwl o inches off y canol ac yn rhoi siâp hyfryd i chi. Dwi’n gwerthu'r rhain yn y siop, a gynta' ddaeth nhw mewn, roedd yn rhaid i mi gael un. Mae o’n gorjys arno, ffit neis. Wedyn ges i wahanol liwia. Os ewch chi’n ôl i’r 80au a bandiau gyda menywod ynddyn nhw fel ‘Heart’ a ‘Vixen’, rodden nhw i gyd gyda corsets a chests yn hango mas, ond mae nhw’n ffasiwn ar y foment.

Juli Beynon

Oes yna bwysa arna chdi wastad i edrych yn smart?

Mae’n rhaid i chi drial. Ond mae o’n dod yn naturiol achos dwi’n licio dodi make-up arno bob bore a neud y ngwallt, so dwi’n joio gneud hynna.