



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
'Dwi wrth fy modd efo dillad ac yn anffodus dwi'n meddwl mai fy mywyd ydi dillad a ma'hynny'n drist iawn i ddweud tydi!' Ma'Julie wedi licio dillad erioed ac mae hi byth a beunydd yn newid ei steil a'i hedrychiad.
Nia: Lle gychwynnodd hyn i gyd ti'n meddwl? Ti 'di etifeddu o rywle?
Julie: Dwi'n meddwl fy mam. Odd hi'n neud lot o ddillad ei hun. Cychwyn y 70au, odd lot o bobl yn gwneud dillad eu hunain bryd hynny. Odd hi'n tueddu i wneud lot o ddillad a'm mrawd a finne'n tueddu i wisgo run peth, wel, ddim y ffrogiau falle ond lliwiau tebyg falle. Ma''na lot o luniau ohonom, er enghraifft, gyda fy mrawd â thop turquoise a finne mewn ffrog turquoise. Odd o'n reit ciwt!
Nia: Be am dan pan oeddet ti bach yn hyn a phan es di i'r ysgol felly?
Julie: Dwi'm yn meddwl 'mod i'n ddrwg yn yr ysgol. Es i drwy gyfnod o beidio â phoeni beth oeddwn wir yn ei wisgo adeg ysgol, ond wedi i mi adael ysgol nes i ail gychwyn eto.
Nia: Beth am pan nes di adael ysgol wedyn? Sut nes di ddatblygu?
Julie: Nes i adael ysgol i neud cwrs therapi harddwch yn coleg. O’n i’n gwbod o’n i’n gorfod cychwn edrych ar ôl fy hun. Nath y gwr symud lawr i Brighton ac o’n i’n tueddu i fynd lawr bob yn ail wythnos achos Chef oedd o lawr yno ac o’n i’n tueddu i fynd i’r clybiau yno oherwydd doedd na’m gymaint o glybiau fan hyn a dyna phryd nes i gychwyn cymryd diddordeb mewn ffaswin. Odd y 'club scene’ lawr ffordd yna yn ffantastig.

Nia: Beth oeddet ti'n ei wisgo felly?
Julie: Ar y pryd, o’n i’n tueddu i wneud mwy o ymdrech achos 'mod i’n trafeilio’r holl ffordd o Gymru, o’n i’n gorfod mynd lawr i Brighton neu i Lundain felly o’n i’n tueddu i feddwl mwy am be oeddwn i’n ei wisgo. Odd 'kilts’ a’r 'punk scene’ yn boblogaidd ar y pryd ag o’n i’n tueddu i roi 'fishnets’ efo 'jackboots’ a 'kilt’, jyst rhywbeth bach yn fwy gwahanol.
Nia: Ma'busnes Julie dafliad carreg o'i chartref yn Nimbych felly tydi hi byth yn bell iawn o'i chypyrddau dillad.
Julie: Tydi Aron, y gwr, ddim wir yn cytuno gyda’r peintiadau yma nes i ar y cypyrddau oherwydd mae’n gorfod cysgu efo pump o ferched rwan yn lle jyst fi!
Julie: Ma''na ambell i beth yma sy'n golygu lot i mi, er dwi'n ei chasau hi!
Nia: Dy ffrog briodas a ti'm yn ei licio hi?!
Julie: Nadw! 10 mlynedd i rwan. Ma'mor ffysi i edrych arno. Er, dwi mor falch 'mod i heb fynd am y steil mawr neu'r 'meringue'fel ma'rhai yn eu galw. Ma'hon yn reit syth oedd yn fy ngweddu dwi'n meddwl oherwydd 'mod i'n reit dal. Ma 'na ormod o bethau ffysi arni.
Julie: Ma'hon yn andros o sentimental achos côt Mam oedd hi.
Nia: Ma'hon yn fendigedig, ma'hi'n amlwg o'r 60au tydi. Ydi'r ffrog hefyd yn un wreiddiol?
Julie: Nac ydi, mi wnaeth ffrind i mi ei gwneud i mi a nes i brynu'r mwclis o siop ail law.
Julie: Dyma ffrog o'n i'n ei gwisgo pan oeddwn i'n fach a fy sgidiau cyntaf a dwi wedi cadw esgid cyntaf fy mab, Arthur hefyd ac mae'n nhw'n debyg iawn!
Julie: Bargen oedd hon, £5 yn unig oedd hi ac mae 'na bobl yn y stryd wedi fy stopio yn gofyn lle ges i'r siaced yma.
Nia: Ti'n deud wrthyn nhw faint oedd hi'n gostio felly?!
Julie: O na, Armani wrth gwrs!
Julie: Dwi yn licio pigo ffrogiau sydd efo dipyn o liwiau ynddyn nhw ar gyfer y nos oherwydd eu bod nhw’n edrych yn dda gyda’r holl oleuadau. Dwi’n meddwl bod goleuadau gyda’r nos mor gret.
Julie: Mae’r sgert yma yn ddrytach na’r ffrogiau mynd allan eraill sy’ genai. Dwi’n meddwl ei bod hi’n lyfli a chiwt. Mae’n fychan i feddwl faint y gwnaeth hi ei chostio. Mae hi’n neis efo bwts hir i’r dynion yma, dwi’n gobeithio! Mae’n gret ar y top achos mae fel 'corset’ ac mae’n tynnu’r bol reit fewn!
Julie: Hein sy’ mynd i fod yn lyfli i’w gwisgo, ma’ nhw’n gyfforddus iawn. Newydd eu prynu. Nes i wisgo rhain o flaen Nain un noson a nath hi ddeud 'mod i’n edrych fel ei Mam!
Julie: Tydi hwn yn ffantastig. Es i Lundain y flwyddyn ddiwethaf i aros ac odd 'na soffa union yr un siap a’r bag yma yn y gwesty sef gwesty’r Sanderson. Nes i gerdded i fewn yn dal y bag, a nath y bobl oedd yn gweithio yno sylwi bod y bag yr un peth a’r gadair, mi oedd yn ddoniol iawn!
Nia: Bydd rhaid i ti gael cadair run fath rwan!
Julie: Ie, dim ond Kookai oedd o, doedd o'm yn ddrud iawn. Mad yn de.
Nia: Ma'cynnwys dy gypyrddau dillad di'n lliwgar iawn. Faset ti'n deud bod hynny'n adlewyrchu dy gymeriad i ryw raddau felly?
Julie: Dwi'n gobeithio eu bod nhw, ydw. Cwpwrdd hollol wallgo dwi'n meddwl.
Nia: A dyna sut faset ti'n disgrifio dy hun?
Julie: Uw, ia!
Nia: Ac yn falch ohono!
Nia: Be ti'n mynd i neud rwan ta achos mae'r cypyrddau yma'n reit llawn tydyn. Oes gen ti gwpwrdd arall sy'n disgwyl i gael ei lenwi?
Julie: Ty arall dwi'n meddwl! Fydd Dad yn gorfod adeiladu ty arall i mi efo cypyrddau wedi'u hadeiladu fewn.
Nia: Felly ti yn mynd i ddal i brynu a phrynu felly?
Julie: O, ydw. Dim gymaint a dwi wedi gwneud falle oherwydd mae Dad bob amser yn dweud tala dy forgais i ffwrdd gyntaf - dyn call iawn, ddim fel fi!
Nia: Ti'm yn debygol o wneud hynny felly?
Julie: Nac ydw!